Fforchlys manflewog
Fforchlys manflewog Metzgeria pubescens | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Metzgeriales |
Teulu: | Metzgeriaceae |
Genws: | Metzgeria |
Rhywogaeth: | M. pubescens |
Enw deuenwol | |
Metzgeria pubescens |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Fforchlys manflewog (enw gwyddonol: Metzgeria pubescens; enw Saesneg: downy veilwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Metzgeriales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng ngogledd-orllewin Cymru, dau neu dri o lefydd ar arfordir gogledd Iwerddon, gogledd Lloegr ac mae'n gyffredin iawn drwy'r Alban. Mae'r rhywogaeth hon yn llwydwyrdd sy'n ffurfio clytiau ar greigiau calchfaen. Mae ganddi thali blewog sy'n tyfu hyd at 2 mm o led gyda'r ddau arwyneb wedi'u gorchuddio â blew byr, toreithiog. Dyma a roddodd ei henw i'r Fforchlys manflewog.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.