Ffridd Faldwyn
Bryngaer 5.2 hectar yng ngogledd Powys yw Ffridd Faldwyn.[1] Saif ar fryn amlwg i'r gorllewin o Drefaldwyn. Mae'n un o'r bryngaerau mwyaf yng Nghymru a'i maint yn 503m wrth 254m.[2] cyfeiriad grid SO217969
Math | caer lefal, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.5647°N 3.1568°W |
Cod OS | SO216969 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | MG015 |
Disgrifiad a hanes
golyguMae gan safle Ffridd Faldwyn hanes hir ac mae'r preswyliad cyntaf ar y safle yn dyddio i Oes Newydd y Cerrig,[3] er nad yw'r gaer ei hyn yn dyddio o'r cyfnod cynnar hwnnw. Mae'n safle cymhleth a phwysig ac erys llawer o gwestiynau heb eu hateb. Ceir tystiolaeth archaeolegol fod Ffridd Faldwyn yn drigfan yn y cyfnod Neolithig. Codwyd yr amddiffynfa gynharaf yn y 3 CC pan adeiladwyd palisâd dwbl yno yn amgau o leiaf 1.2 hectar o dir ar siap ofal ar y copa. Cafwyd cyfres o ffosydd a muriau amddiffynnol ar ôl hynny, ar bedwar o gyfnodau gwahanol yn Oes yr Haearn.[4]
Codwyd mur pridd gyda wyneb pren i gymryd lle'r palisâd cyntaf. Roedd ganddo ddwy ffos a mynedfa gyda phont o'i flaen. Cafodd yr amddiffynwaith hwn ei losgi'n ulw. Ar ddechrau'r ganrif gyntaf CC codwyd amddiffynfa uchelgeisiol gyda mur â wyneb o gerrig a ffos 6 medr o led yn amgau tua 4 hectar o dir. Atgyweiriwyd hyn eto yn ddiweddarach. Yn olaf ceir olion o atgyfnerthu'r gaer yn y ganrif gyntaf OC, efallai mewn ymateb i ddyfodiad y Rhufeiniaid i'r cyffiniau tua'r flwyddyn 50. Ymddengys fod hanes y gaer fel amddiffynfa yn dod i ben yn fuan ar ôl hynny.[4]
Ar ei mwyaf roedd y gaer yn mesur tua 1200 troedfedd (o'r de i'r gogledd) gyda lled o tua 500 troedfedd. Mae'n anodd gwybod os yw'r fryngaer i gael ei phriodoli i'r Ordovices neu eu cymdogion y Cornovii i'r dwyrain. Fel yn achos amddiffynfeydd eraill yn Y Mers efallai ei bod wedi newid dwylo o leiaf unwaith.[4]
Mae maint a lleoliad bryngaer Ffridd Faldwyn yn dangos pwysigrwydd strategol ardal Trefaldwyn ers gwawr hanes Cymru. I'r dwyrain ceir tref Trefaldwyn a'i chastell Normanaidd gyda chwrs Clawdd Offa ar y ffin â Lloegr gerllaw. I'r gogledd ceir Caer Ffordun, caer Rufeinig ger Afon Hafren a thua 2 filltir i'r gorllewin cododd Llywelyn ap Gruffudd Gastell Dolforwyn.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG015.[5] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Christopher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Llundain), 1974).
- ↑ "Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-04. Cyrchwyd 2010-09-08.
- ↑ "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-05. Cyrchwyd 2010-09-09.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 A. H. A. Hogg, 'Early Iron Age Wales', yn Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965).
- ↑ Cofrestr Cadw.