Frédéric Mistral
Bardd o Ffrainc yn yr iaith Ocsitaneg, yn gywir tafodiaith Profensaleg, oedd Frédéric Mistral (8 Medi 1830 – 25 Mawrth 1914). Derbyniodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1904, ar y cyd â José Echegaray y Eizaguirre, am "wreiddioldeb byw a gwir ysbrydoliaeth ei gynnyrch barddonol, sy'n adlewyrchu'n ffyddlon y tirlun naturiol ac ysbryd cynhenid ei bobl, ac, yn ogystal, ei waith pwysig fel ieithegwr y Brofensaleg".[1] Efe oedd ar flaen y gad yn y 19g yn y mudiad i adfywio'r diwylliant Ocsitaneg a'i thafodieithoedd ac i astudio'r iaith.
Frédéric Mistral | |
---|---|
Ffugenw | Mèste Franc, Gui de Mount-Pavoun, Cousinié Macàri, Michèu Gai, Lou Cascarelet, Grand la Borgno, Lou Felibre de Bello Visto, Un Maianen, Lou Felibre dóu Mas, Antoine Chansroux, Lou Canounge de N-D. de Casten, Lou Felibre de Bèuvezet, Lou Felibre Calu, Jan Chaplo Verne, Un Jouine Felibre, Lou Medecin di Torro, Tounin Clapo, Lou Tout-Obro, Ambròsi Boufarel |
Ganwyd | Joseph Étienne Frédéric Mistral 8 Medi 1830 Maillane |
Bu farw | 25 Mawrth 1914 Maillane |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, geiriadurwr |
Swydd | Capoulié of the Félibrige, arlywydd |
Adnabyddus am | Mirèio, Lou Tresor dóu Felibrige, Lis Isclo d'Or, Lou Pouèmo dóu Rose, Calendau |
Arddull | barddoniaeth |
Prif ddylanwad | Antoine Blaise Crousillat |
Mudiad | Felibrige |
Tad | François Mistral |
Mam | Adélaïde Mistral |
Priod | Marie Mistral |
Plant | Marius Ferréol |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Commandeur de la Légion d'honneur, Officier de la Légion d'honneur, Chevalier de la Légion d'Honneur, Vitet Prize, Gwobr Alfred Née |
llofnod | |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Frédéric Mistral ar 8 Medi 1830 ym Maillane (Ocsitaneg: Malhana), Bouches-du-Rhône, yn hen dalaith Profens yn ne Ffrainc. Pentref yn Nyffryn Rhône ydy Maillane a saif hanner ffordd rhwng Avignon ac Arles. Ffermwr cefnog a thirfeddiannwr oedd ei dad François, a merch i faer Maillane oedd Delaïde. Profensaleg oedd mamiaith Frédéric, a chafodd ei fagu mewn diwylliant, llên gwerin, ac hanes lleol dan ddylanwad ei fam. Iaith isel ei bri oedd lenga d'òc o'i chymharu â Ffrangeg safonol, sef iaith y gogledd.[2]
Cychwynnodd Frédéric fynychu'r ysgol yn 8 oed, ac ar y pryd roedd yn well ganddo chwarae nac astudio. Fe'i danfonwyd i ysgol breswyl Abbaye Saint-Michel de Frigolet, taith ddwy awr i ffwrdd o Maillane ar gert. Caeodd yr ysgol oherwydd sgandal, ac aeth Frédéric i ysgol breswyl arall, yn Avignon. Yn ddiweddarach astudiodd yn Collège Royal de Avignon, ac yno daeth yn gyfarwydd ag arwrgerddi'r Henfyd gan Homeros a Fyrsil. Yn y coleg daeth Frédéric yn fwy ymwybodol o statws israddol ei famiaith, a wynebodd y ffaith taw Ffrangeg oedd iaith ei gyd-ddisgyblion. Un o'i athrawon oedd y bardd Profensaleg Joseph Roumanille, a daeth y ddau ohonynt yn ffrindiau clos. Magodd hefyd gyfeillgarwch â'i gyd-ddisgybl Anselme Mathieu, a chawsant eu hysbrydoli gan farddoniaeth Brofensaleg Joseph Desanat a Pierre Bellot.[2]
Wedi iddo adael y coleg yn Awst 1847, aeth Mistral i Nîmes i astudio am ei radd baglor. Yn ystod chwyldroadau 1848 ysgrifennodd Mistral gerdd, a gyhoeddwyd mewn sawl papur newydd lleol, yn lladd ar y frenhiniaeth.[2] Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Aix-en-Provence a derbyniodd ei radd yn 1851.[3]
Gyrfa lenyddol
golyguRoedd teulu Mistral yn ennill digon o arian iddo fyw heb chwilio am swydd, a phenderfynodd ymroi ei fywyd i adfer yr iaith Brofensaleg a'i diwylliant. Sefydlwyd cymdeithas Félibrige ganddo a chwech o'i gyfeillion yn 1854 er lles yr iaith. Yn ddiweddarach ehangodd y mudiad i gynnwys holl lo País d'Òc neu Ocsitania. Mistral oedd prif arweinydd Félibrige hyd at ei farwolaeth yn 1914.[3]
Treuliodd Mistral 20 mlynedd yn gweithio ar eiriadur Profensaleg, Lou Tresor dóu Félibrige (2 gyfrol; 1878, 1886). Sefydlodd hefydd amgueddfa ethnograffig yn Arles gyda'r arian a dderbyniodd am ei Wobr Nobel.[3]
Diwedd ei oes
golyguBu farw ym Maillane ar 25 Mawrth 1914 yn 83 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1904", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 19 Medi 2019.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Frédéric Mistral" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 19 Medi 2019.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Frédéric Mistral. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Medi 2019.
Darllen pellach
golygu- Richard Aldington, Introduction to Mistral (Llundain: William Heinemann, 1956)
- Charles Alfred Downer, Frédéric Mistral: Poet and Leader in Provence (Efrog Newydd: Columbia University Press, 1901)
- Tudor Edwards, The Lion of Arles: A Portrait of Mistral and His Circle (Efrog Newydd: Fordham University Press, 1964)