Francesco Algarotti

Athronydd, llenor yn yr ieithoedd Ffrangeg ac Eidaleg, a chasglwr celf Eidalaidd oedd Francesco Algarotti (11 Rhagfyr 17123 Mai 1764) sydd yn nodedig fel un o bolymathiaid hyddyscaf yr Oleuedigaeth. Ysgrifennai draethodau am ffiseg, pensaernïaeth, ac opera yn ogystal â beirniadaeth celf a barddoniaeth. Efe oedd prif ladmerydd Newtoniaeth yng nghanol y 18g.

Francesco Algarotti
Portread pastel o Francesco Algarotti gan Jean-Étienne Liotard (1745).
Ganwyd11 Rhagfyr 1712 Edit this on Wikidata
Fenis Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mai 1764 Edit this on Wikidata
Pisa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fenis Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, ffisegydd, ysgrifennwr, bardd, siambrlen, beirniad celf Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Fenis, Gweriniaeth Fenis, yn fab i farsiandïwr cefnog. Astudiodd fathemateg ac athroniaeth ym Mhrifysgol Bologna cyn teithio ar draws Ewrop, i Rufain, Paris, Llundain, a St Petersburg. Ym Mharis yn enwedig enillodd enw fel bonheddwr golygus, gwybodus ac ymddiddangar, a daeth yn gyfarwydd â chylchoedd dysgedig y ddinas a deallusion megis Pierre-Louis Moreau de Maupertuis a Voltaire. Ymddiddorai mewn ffiseg glasurol a gwaith y gwyddonydd Isaac Newton, ac ym 1737 ysgrifennodd esboniad poblogaidd o opteg Newtonaidd, Il Newtonianismo per le dame.

Ar argymhelliad Voltaire, galwyd Algarotti i Ferlin gan Ffredrig II, brenin Prwsia, ac yno gwasanaethodd yn siambrlen y llys am naw mlynedd. Ym 1740, ar orchymyn y Brenin Ffredrig, fe'i dyrchafwyd yn gownt, teitl etifeddol.[1] Wedi iddo adael Prwsia ym 1742, bu Algarotti a Ffredrig yn gohebu â'i gilydd yn fynych. Treuliodd y cyfnod o 1742 i 1747 yn Sachsen, yn ysgrifennu traethodau ar gyfer arddangosfeydd celf a nosau cyntaf operâu.[2] Yn y cyfnod hwn cyflawnodd ei waith digrif Il congresso di Citera (1745) sy'n cymharu agweddau'r Eidalwyr, y Ffrancod, a'r Saeson tuag at serch. Ymhlith ei ysgrifau eraill mae myfyrdodau ar, ac ymdriniaethau ag, amryw o bynciau gan gynnwys Cartesiaeth, odl, yr ieithoedd Ffrangeg ac Eidaleg, cymeriadau'r cenhedloedd, pensaernïaeth, a phaentio.

Dychwelodd i'r Eidal oherwydd ei iechyd gwael, a bu farw Francesco Algarotti yn Pisa, Uchel Ddugiaeth Toscana, o dwbercwlosis yn 51 oed. Codwyd beddfaen iddo yn Pisa ar orchymyn Ffredrig II, gyda'r arysgrif Ladin Hic jacet Ovidii aemulus et Newtoni disciplus ("Yma y gorwedd efelychydd Ofydd a disgybl Newton").[2] Wedi ei farwolaeth cyhoeddwyd casgliad o'i lythyrau o'i daith i Rwsia ym 1738–39 dan yr enw Viaggi di Russia (1769).

Llyfryddiaeth golygu

  • Il Newtonianismo per le dame ovvero dialoghi sopra la luce e i colori (1737).
  • Il congresso di Citera (1745).
  • Viaggi di Russia (1769).

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Francesco Algarotti. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Hydref 2023.
  2. 2.0 2.1 Peter Hanns Reill ac Ellen Judy Wilson, Encyclopedia of the Enlightenment (Efrog Newydd: Facts On File, 2004), tt. 12–13.