Francis Lewis
Roedd Francis Lewis (21 Mawrth 1713 - 31 Rhagfyr 1802) yn llofnodydd Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau fel cynrychiolydd Efrog Newydd.[1]
Francis Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mawrth 1713 Llandaf |
Bu farw | 30 Rhagfyr 1803, 31 Rhagfyr 1802 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Cymru UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Tad | William Lewis |
Mam | Nn Pettingall |
Priod | Elizabeth Annesley |
Plant | Morgan Lewis, Francis Lewis, Ann Lewis |
llofnod | |
Bywyd cynnar
golyguCafodd Lewis ei eni yn Llandaf, yn unig blentyn Morgan Lewis ac Anne Pettingale. Roedd ei dad a'i daid mamol yn offeiriaid Anglicanaidd [2]. Bu farw ei rieni pan oedd tua 5 mlwydd oed ac aeth i fyw gyda modryb yn yr Alban lle cafodd addysg elfennol a lle dysgodd siarad Gaeleg yr Alban,[3] wedyn aeth yn ddisgybl i ysgol Westminster Llundain. Wedi ymadael a'r ysgol cafodd Lewis ei brentisio i dŷ masnachol yn Llundain.
Teulu
golyguPriododd Francis a Lewis Elizabeth Annesley, chwaer iau ei bartner, ar 15 Mehefin, 1745. Bu iddynt saith o blant, ond bu pedwar ohonynt farw yn eu babanod.
Gyrfa
golyguPan gyrhaeddodd 21 mlwydd oed cafodd Lewis reolaeth ar eiddo a etifeddodd trwy ewyllys ei dad. Gwerthodd yr eiddo a phrynodd nwyddau i'w hallforio i America a hwyliodd gyda'i nwyddau i Efrog Newydd tua 1734.[4]
Gadawodd gyfran o'r nwyddau yn Efrog Newydd i'w werthu gan ei bartner busnes, Edward Annesley, ac aeth a'r gweddill i Philadelphia, lle bu'n byw am ddwy flynedd cyn dychwelyd i Efrog Newydd. Yno roedd yn ymwneud â mordwyo a masnach dramor, gan wneud nifer o deithiau masnachu trawsiwerydd.
Roedd busnes Lewis yn darparu arfwisgoedd i'r lluoedd Prydeinig a oedd yn ymladd yn erbyn lluoedd Ffrainc a'r brodorion cynhenid yn America ar y pryd. Roedd Lewis yn Fort Oswego garsiwn Prydeinig yn Nhalaith Efrog Newydd, ym mis Awst 1756 yn gwerthu ei nwyddau pan ymosodwyd ar y gaer gan luoedd Ffrengig dan orchymyn y Cadfridog Montcalm a'u cynghreiriaid Indiaid. Ildiodd y gaer i Montcalm o dan sicrwydd diogelwch, ond caniataodd y cadfridog i'w gynghreiriaid Indiaid i ddethol 30 o garcharorion i wneud â hwy fel y mynnont. Roedd Lewis ymhlith y 30 a ddewiswyd, gan wynebu naill ai farwolaeth neu gaethiwed. Yn ffodus, canfu Lewis fod iaith Frodorol America yn debyg i'r iaith Gymraeg ac yn gallu siarad â nhw (gweler nodyn 1 isod).[3] Rhyddhawyd Lewis a'i danfon yn ôl i Montreal, gan ofyn iddo gael ei ddychwelyd i'w deulu. Yn lle hynny, anfonwyd Lewis i Ffrainc fel carcharor. Yn y pen draw, dychwelodd i'r trefedigaethau Americanaidd mewn cyfnewid carcharorion yn 1763.[5]
Rhoddodd llywodraeth Prydain iddo 5,000 erw o dir yn Efrog Newydd fel iawndal am y saith mlynedd y bu'n garcharor.[6] Ailsefydlodd Lewis ei hun mewn busnes a gwnaeth ffortiwn fawr a oedd yn ei alluogi i ymddeol o fusnes ym 1761 yn 52 mlwydd oed. Ym 1771 helpodd Lewis i'w fab, Francis, i sefydlu busnes nwyddau sych o'r enw Francis Lewis & Mab, a throsglwyddodd rheolaeth ei fusnesau iddo. Yn 1775 symudodd Lewis a'i deulu i ystâd a gafodd yn Whitestone, Efrog Newydd.
Gyrfa wleidyddol
golyguFel un a wnaeth ei ffortiwn yn masnachu efo'r fyddin Brydeinig roedd Lewis yn gefnogol i Goron Lloegr pan gychwynnodd yr alwad am annibyniaeth i'r America. Ond newidiodd ei farn wedi pasio Deddf Stamp 1765. Roedd y ddeddf yn mynnu bod deunydd wedi'i hargraffu yn y trefedigaethau yn cael eu cynhyrchu ar bapur wedi'i gynhyrchi yn Llundain a oedd yn cynnwys stamp refeniw (sef treth).[7]
Roedd y Ddeddf Stamp yn amhoblogaidd ymhlith y gwladychiaethwyr. Roedd mwyafrif o'r farn ei fod yn groes i'w hawliau fel deiliaid y Goron i gael eu trethu heb eu caniatâd. Roeddynt yn hawlio na ddylid codi trethi yn y trefedigaethau heb ganiatâd y deddfwrfeydd trefedigaethol.[8] Eu slogan oedd "Dim treth heb gynrychiolaeth". Cynhaliwyd Cyngres y Ddeddf Stamp i gyd drefnu ymateb i'r ddeddf newydd yn Ninas Efrog Newydd. Cyngres y Ddeddf Stamp oedd yr ymateb arwyddocaol trefedigaethol cyntaf i unrhyw fesur Prydeinig pan ddeisebodd y Senedd a'r Brenin i wrthwynebu'r ddeddf. Roedd Lewis ymysg y rhai a mynychodd Cyngres y Ddeddf Stamp. Roedd Lewis yn un o sylfaenwyr The Sons of Liberty, mudiad cudd a grëwyd i drefnu'r gwrthwynebiad i'r ddeddf stamp ac i gosbi'r sawl oedd yn cynorthwyo llywodraeth Prydain i weithredu'r ddeddf.
Ym mis Mai 1774, ffurfiwyd Y Pwyllgor o Hanner Cant ar gyfer protestio yn erbyn cau porthladd Boston. Ymunodd Lewis â'r grŵp hefyd, gan ei gwneud yn Bwyllgor o Bumdeg Un. Ehangwyd y pwyllgor ymhellach i greu'r Pwyllgor o Drigain. Bu'r pwyllgorau hyn yn gyfrifol am benderfynu pwy oedd i gynrychioli Trefedigaeth Efrog Newydd yn y Gyngres Gyfandirol, llywodraeth gysgodol ar gyfer America annibynnol. Etholwyd Lewis yn aelod o'r Gyngres ym 1775 a 1776.[4]
Ym 1775 llofnododd Lewis Deiseb y Gangen Olewydden, a oedd yn ymgais gan y Gyngres Gyfandirol i ddod i drafodaeth â llywodraeth Prydain er mwyn osgoi rhyfel rhwng y trefedigaethau a'r Ymerodraeth Brydeinig. Gwrthodwyd y ddeiseb ac erbyn 1776 gwnaed Datganiad o Annibyniaeth yn erbyn llywodraeth o Brydain. Pleidleisiwyd o blaid y Datganiad o Annibyniaeth gan y Gyngres Gyfandirol ar 2 Gorffennaf 1776, ond oherwydd trafferthion cyfathrebu methwyd cysylltu â chynrychiolwyr Efrog Newydd. Arwyddodd Lewis y Datganiad ar ran Efrog Newydd ar 2 Awst 1776.[4]
Ym 1778 arwyddodd Erthyglau'r Cydffederasiwn sef cyfansoddiad gyntaf yr America annibynnol.
Cafodd ei gartref, yn Whitestone, yn Queens, Efrog Newydd, ei ddinistrio yn y Rhyfel Annibyniaeth a dilynodd arwyddo'r Datganiad o Annibyniaeth gan luoedd Prydain ac aed a'i wraig yn garcharor.[7] Cafodd hi ei rhyddhau o gaethiwed ym 1779 ond roedd ei hiechyd wedi torri o ganlyniad i'w cham-drin yn y carchar a bu farw ychydig yn niweddarach.[9]
Ymneilltuodd Lewis o fywyd cyhoeddus ym 1781.
Marwolaeth
golyguBu farw Lewis ar 31 Rhagfyr 1802 yn 90 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent y Drindod Efrog Newydd mewn bedd heb ei farcio. Gosodwyd cofeb ger ei fedd ym 1947
Nodiadau
golygu1] Roedd yna gred bod rhai o lwythau brodorol yr America, megis y Mandan, yn ddisgynyddion i Madog ab Owain Gwynedd a hwyliodd i'r America tua 1170 a bod eu hiaith yn tarddu o'r Gymraeg. Mae sôn am nifer o Gymry Cymraeg yn ffoi o farwolaeth sicr o dan law Indiad wedi i'r Indiad deall eu gweddïau olaf yn y Gymraeg. Does dim sail hanesyddol na ieithyddol i'r myth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur LEWIS , FRANCIS ( 1713 - 1802 ), un o'r rhai a arwyddodd y ‘Declaration of Independence’, U.D.A adalwyd 24 hydref 2018
- ↑ Adherents The Religious Affiliation of Francis Lewis a Signer of the American Declaration of Independence Archifwyd 2017-06-24 yn y Peiriant Wayback adalwyd 24 Hydref 2018
- ↑ 3.0 3.1 The Society of the Descendants of the Signers of the Declaration of Independence – Francis Lewis adalwyd 24 Hydref 2018
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Famous People -Francis Lewis adalwyd 24 Hydref 2018
- ↑ US History Signers of the Declaration of Independence adalwyd 24 Hydref 2018
- ↑ Biographical Directory of the US Congress – Lewis, Frances adalwyd 24 Hydref 2018
- ↑ 7.0 7.1 US National Parks Service Signers of the Declaration – Francis Lewis adalwyd 24 Hydref 2018
- ↑ Encyclopedia Americana (1920) The Stamp Act (ar Wikisource Saesneg)[dolen farw] adalwyd 24 hydref 2018
- ↑ HISTORY OF AMERICAN WOMEN ELIZABETH LEWIS adalwyd 24 Hydref 2018