Freya Stark
Awdures o Loegr a Ffrainc oedd y Fonesig Freya Stark (31 Ionawr 1893 - 9 Mai 1993) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel fforiwr, awdur teithlyfrau ac ysgrifau, a ffotograffydd. Roedd llawer o'i theithiau yn y Dwyrain Canol ac Affganistan ond sgwennodd ambell fywgraffiad hefyd. Roedd ymhlith y 'gorllewinwyr gwyn' cyntaf i deithio drwy Anialwch Arabia.[1][2][3][4]
Freya Stark | |
---|---|
Ganwyd | Freya Madeline Stark 31 Ionawr 1893 Paris |
Bu farw | 9 Mai 1993 Asolo |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | fforiwr, awdur teithlyfrau, ffotograffydd, awdur ysgrifau, dringwr mynyddoedd |
Priod | Stewart Perowne |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Medal y Sefydlydd, Medal Mungo Park, Urdd Sant Ioan, Medal i Gofio am Burton, Dinasyddiaeth Anrhydeddus Asolo, Medal Aur Cymdeithas y Daearyddwyr Benywaidd |
Chwaraeon |
Cafodd ei geni ym Mharis a bu farw yn Asolo, Rhanbarth Veneto, yr Eidal.[5] Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Llundain, SOAS a Phrifysgol Llundain. [6]
Magwraeth
golyguAstudio celf ym Mharias oedd ei rhieni pan gafodd ei geni. Roedd ei mam, Flora, yn Eidales o dras Pwylaidd ac Almaeneg ac roedd ei thad, Robert, yn arlunydd Saesneg o Ddyfnaint. Treuliodd Stark lawer o'i phlentyndod yng ngogledd yr Eidal, gan fod cyfaill ei thad, Pen Browning, yn berchen tri thŷ yn Asolo. Trigai ei nain (ar ochr ei mam) yn Genoa.[7][8]
Roedd priodas ei rhieni yn anhapus o'r cychwyn cyntaf, a gwahanodd y ddau pan oedd Freya'n blentyn ifanc. Honnodd bywgraffydd Stark, Jane Fletcher Geniesse — wrth ddyfynnu cefnder Freya, Nora Stanton Blatch Barney — bod tad biolegol Freya yn "ddyn ifanc da ei naws o deulu amlwg yn New Orleans" o'r enw Obediah Dyer. Nid oes dystiolaeth i hyn fodd bynnag, ac ni wyddys a oedd Stark ei hun yn ymwybodol o'r honiad; ni wnaeth unrhyw gyfeiriad ato yn unrhyw un o'i ysgrifau, gan gynnwys ei hunangofiant.[9]
Ar ei nawfed pen-blwydd, derbyniodd Freya gopi o Un Mil a Un Noson (One Thousand and One Nights), a chafodd ei hudo gan y Dwyrain. Roedd hi'n aml yn sâl tra'r oedd yn ifanc, ac felly'n gaeth i'r tŷ, ac oherwydd hyn, darllenodd lawer. Roedd wrth ei bodd yn darllen Ffrangeg, yn arbennig Dumas, a dysgodd Ladin ei hun. Pan oedd hi'n 13 oed cafodd ddamwain mewn ffatri yn yr Eidal, pan daliwyd ei gwallt mewn peiriant. Rhwygwyd croen ei phen a chafodd ei chlust dde ei thorri.[10] Bu'n rhaid iddi dreulio pedwar mis yn cael impiadau croen yn yr ysbyty, a gadawyd ei hwyneb wedi'i anffurfio. Am weddill ei hoes, byddai'n gwisgo hetiau neu fonedau i orchuddio'i chreithiau.[11]
Coleg
golyguPan oedd hi'n dri-deg oed, dewisodd Freya astudio ieithoedd yn y brifysgol. Gobeithiaid ddianc o'i bywyd caled fel ffermwr blodau yng ngogledd yr Eidal. Awgrymodd ei hathrawes y dylai astudio Islandeg, ond dewisodd astudio Arabeg ac yn ddiweddarach Perseg. Astudiodd yng Ngholeg Bedford, Llundain ac yn Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd (SOAS), y ddau ym Mhrifysgol Llundain.[10]
Teithio
golyguYn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, hyfforddodd Stark fel VAD (Voluntary Aid Detachment) a gwasanaethodd gydag uned ambiwlans y Groes Goch Brydeinig yn y lle cyntaf yn y Villa Trento ger Udine. Roedd ei mam wedi aros yn yr Eidal ac wedi dod yn bartner mewn busnes; priododd ei chwaer Vera y cyd-berchennog. Yn 1926, bu farw Vera ar ôl camesgoriad (colli plentyn). Yn ei hysgrifau, eglurodd Freya nad oedd Vera'n gallu byw bywyd ar ei thelerau ei hun, ac na fyddai'n gwneud yr un peth. Yn fuan wedyn, dechreuodd deithio.
Llyfryddiaeth
golygu- Baghdad Sketches. (1932)
- The Valleys of the Assassins and Other Persian Travels. (1934)
- The Southern Gates of Arabia A Journey in the Hadhramaut. (1936)
- Seen in the Hadhramaut (1938)
- A Winter in Arabia.(1940)
- Letters from Syria.(1942)
- East is West.(1945), published in US as Arab Island: The Middle East, 1939–1943.
- Perseus in the Wind.(1948)
- Traveller's Prelude: Autobiography 1893–1927. (1950) Registration required.
- Beyond Euphrates: Autobiography 1928–1933.(1951)
- The Coast of Incense: Autobiography 1933–1939. (1953) Registration required.
- Ionia, A Quest.(1954)
- The Lycian Shore.(1956)
- Alexander's Path: From Caria to Cilicia. (1958)
- Riding to the Tigris. (1959)
- Dust in the Lion's Paw. Autobiography 1939–1946. (1961)
- Rome on the Euphrates: The Story of a Frontier. (1966)
- The Zodiac Arch. (1968)
- Space, Time and Movement in Landscape. (1969)
- The Minaret of Djam: An Excursion into Afghanistan. (1970)
- Turkey: A Sketch of Turkish History. (1971)
- Letters. (1974–82)
- Letters. (1974–82)
- A Peak in Darien. (1976)
- The Journey's Echo: Selected Travel Writings. (1988)
- Over the Rim of the World: selected letters. (1988)
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Medal y Sefydlydd (1942), Medal Mungo Park (1935), Urdd Sant Ioan, Medal i Gofio am Burton (1934), Dinasyddiaeth Anrhydeddus Asolo (1946), Medal Aur Cymdeithas y Daearyddwyr Benywaidd (1987)[12][13] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.
- ↑ Dyddiad geni: "Freya Stark". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Stark". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Stark". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Stark". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Madeline Stark".
- ↑ Dyddiad marw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Freya Stark". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Stark". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Stark". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Stark". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Madeline Stark".
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
- ↑ Freya Stark obituary Archifwyd 2020-08-29 yn y Peiriant Wayback, independent.co.uk; accessed 13 Ebrill 2016.
- ↑ Anrhydeddau: "Awards, Prizes & Visiting Fellowships – Royal Asiatic Society". Cyrchwyd 4 Awst 2018. http://www.iswg.org/awards/past-gold-medal-recipients.
- ↑ Stark (1950), tt. 2–4
- ↑ Stark (1950), tt.30–64
- ↑ Geniesse, JF. Passionate Nomad: The Life of Freya Stark. Modern Library (2001), tt. 363–69; ISBN 0375757465
- ↑ 10.0 10.1 Pierpont, Claudia Roth (2011-04-11). "East Is West" (yn Saesneg). ISSN 0028-792X. Cyrchwyd 2019-05-18.
- ↑ Stark (1950), t. 84
- ↑ "Awards, Prizes & Visiting Fellowships – Royal Asiatic Society". Cyrchwyd 4 Awst 2018.
- ↑ http://www.iswg.org/awards/past-gold-medal-recipients.