Gŵyl banc
(Ailgyfeiriad o Gŵyl Banc)
Diwrnod yn y calendr sy'n ŵyl gyhoeddus swyddogol yn y Deyrnas Unedig yw gŵyl banc. Daw'r enw o'r ffaith fod Banc Lloegr yn cau am y diwrnod pan ddechreuwyd yr arfer o ddynodi dyddiau gŵyl swyddogol. Er mai 'gŵyl gyhoeddus' yw'r term swyddogol yng Ngwerinaeth Iwerddon, arferir yr ymadrodd gŵyl banc ar lafar.
Yn Hydref 2006, galwodd Gordon Brown am sefydlu gŵyl banc newydd - "Diwrnod Prydeindod" - i ddathlu Prydeindod.
Gwyliau banc cyfredol
golyguMae'r wybodlen isod yn dangos y gwyliau banc cyrfredol yng ngwledydd Prydain a Gweriniaeth Iwerddon.
Dyddiad | Enw | Cymru a Lloegr | Yr Alban | Gogledd Iwerddon | Gwerinaeth Iwerddon |
---|---|---|---|---|---|
1 Ionawr † | Dydd Calan | X | X | X | X |
2 Ionawr ‡ | 2 Ionawr | X | |||
17 Mawrth † | Gŵyl San Padrig | X | X | ||
Dydd Gwener o flaen Sul y Pasg | Dydd Gwener y Groglith | X | X | X | |
Y diwrnod ar ôl Sul y Pasg | Dydd Llun y Pasg | X | X | X | |
Dydd Llun cyntaf ym Mai | Gŵyl Banc Cyntaf Mai / Diwrnod Llafur (Iwerddon) |
X | X | X | X |
Dydd Llun olaf ym Mai | Gŵyl Banc y Gwanwyn | X | X | X | |
Dydd Llun cyntaf ym Mehefin | Gŵyl Banc Mehefin | X | |||
12 Gorffennaf † | Brwydr y Boyne - Diwrnod yr Orangemen | X | |||
Dydd Llun cyntaf yn Awst | Gŵyl Banc yr Haf | X | X | ||
Dydd Llun olaf yn Awst | Gŵyl Banc yr Haf | X | X | ||
Dydd Llun olaf yn Hydref | Gŵyl Banc Hydref | X | |||
30 Tachwedd † | Gŵyl Andreas | X | |||
25 Rhagfyr † | Dydd Nadolig | X | X | X | X |
26 Rhagfyr ‡ | Gŵyl San Steffan | X | X | X | X |
† = neu y dydd Llun dilynol os bydd y dyddiad hwn yn disgyn ar benwythnos ‡ = neu y dydd Mawrth dilynol os bydd y dyddiad hwn yn disgyn ar ddydd Sul |