Gŵyl Seiclo Aberystwyth

Gŵyl a chystadeuaeth seiclo blynyddol yw Gŵyl Seiclo Aberystwyth a gynhelir adeg Gŵyl y Banc, Sulgwyn yn nhref ac ardal Aberystwyth.

Gwyl Seiclo Aberystwyth, Cefn Llan

Caiff ei threfnu gan grŵp o wirfoddolwyr o dan faner Partneriaeth Seiclo Aberystwyth.

Cystadleuthau a Reids golygu

 
Gwyl Seiclo Aberystwyth, Cefn Llan

Ceir cyfuniad o gystadlu a seiclo hamddenol fel rhan o'r Ŵyl gan gynnwys categorïau a digwyddiadau penodol ar gyfer plant, menywod a dynion. Ymysg y digwyddiadau mae:

  • Cwrs Beicio Mynydd i blant a phobl ifanc
  • Reid beicio mynydd cymdeithasol
  • Noson Beiciau Watt
  • Ras TT 10 milltir Aberystwyth sy'n dechrau a gorffen yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Rheidol, seiclo i bentref Capel Bangor a throi ar gylchdro Gelli Angharad cyn sieclo'r 5 miltir nôl.
  • Gweithdy Arddangos a Sgiliau BMX - Digwyddiad newydd yn 2018 mewn cydweithrediad gyda Chyngor Tref Aberystwyth wedi lleoli yn barc sgrialu a BMX newydd Parc Kronberg sydd ar hyd Boulevard St Brieg wrth ymyl y dref.
  • Dringfa Rhiw - cystadleuaeth seiclod lan rhyw serth 25% Cefn Llan yn Llanbadarn Fawr.
  • Rasys Criterium a Rasys Ysgolion 'Pŵer Pedalau ar y Prom' - ras criteriwm Pencampwriaeth Cymru a Tour Series yn Aberystwyth. Cwrs arobryn yn cylchu’r Hen Goleg, y Castell a'r Pier. Ceir categorïau seiclo ar gyfer plant, ysgolion a seiclwyr clybiau a phroffesiynnol.
  • 'Concro'r Clogwyn' - Ras Beic Mynydd lawr Craig-glais, ('Consti').
  • sportif - ceir sawl llwybr seiclo o sawl categori i'r gystadleuaeth:
    • Y Cawr - oddeutu 100 milltir. Categori anodd.
    • Y Mynach - oddeutu 60 milltir tuag at Pontarfynach. Categori canolig.
    • Y Diafol - oddeutu 40 milltir tuag at Pontarfynach. Categori canolig.
    • Y Corrach - oddeutu 30 milltir ar hyd gogledd cantref Penweddig. Categori hawdd.
  • Go Ride MTB - diwrnod o hwyl i blant ac oedolion sy’n ddechreuwyr roi cynnig ar ras beicio mynydd.
  • Reid Deuluoedd gyda SUSTRANS - seiclo oddeutu 5 neu 10 milltir ar hyd Afon Rheidol.

Gweithgareddau Eraill golygu

Yn ogystal â seiclo, ceir gweithgareddau adlonianol eraill, yn 2018, er enghraifft, dangoswyd ffilm a chafwyd trafodaeth gydar pencamwraig seiclo y byd 2013 ac enillydd dau sedal yng ngemau Olymaidd Rio 2016, Becky James.

Amcanion yr Ŵyl golygu

  • Cydlynu penwythnos blynyddol o weithgareddau seiclo hwyliog ac atyniadol i bobl o bob gallu
  • Ehangu’r gyfres i gynnwys digwyddiadau ar y cyrion yn ogystal â phrif ddigwyddiadau newydd y credwn y byddant yn ehangu apêl yr ŵyl
  • Cyfrannu at ddatblygu’r economi leol drwy ddenu twristiaid a thrwy ymwneud â busnesau lleol a’r gymuned leol

Enillwyr golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu