Capel Bangor

pentref yng Ngheredigion

Pentref bychan yng ngogledd Ceredigion yw Capel Bangor. Mae'n gorwedd ar lan ogleddol Afon Rheidol 5 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth. Rhed y ffordd A44 drwy'r pentref.

Capel Bangor
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.4°N 4°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Mae gan y pentref orsaf reilffordd ar Reilffordd Dyffryn Rheidol, dros y bont ar Afon Rheidol.

Ceir Capel Penllwyn yn y pentref. Y tu allan iddo ceir cerflun o Lewis Edwards, sylfaenydd Coleg y Bala.

Lleolir Tafarn Tynllidiart yn y pentref. Mae hi'n bragu ei chwrw ei hun a hon oedd Tafarn y Flwyddyn, Ceredigion yn 2006. Mae'r tafarn hefyd yn dal record fel y bragdy masnachol lleiaf yn y byd, gan fragu 40.9 litr ar y tro yn unig.

Er mai bychan ydy'r pentref mae hefyd gorsaf betrol, clwb golff a siop wnio yno.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.