Uwchgynhadledd yr G7, 2021
Cynhaliwyd 47ain Uwchgynhadledd yr G7 o Ddydd Gwener 11 Mehefin i Ddydd Sul 13 Mehefin 2021 yn Carbis Bay (Porth reb Tor), Cernyw, yn y Deyrnas Unedig a oedd yn llywyddu'r fforwm y flwyddyn honno. Cyfarfu pennau llywodraethol y saith gwlad sydd yn aelodau'r G7: Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig; Joe Biden, Arlywydd Unol Daleithiau America; Angela Merkel, Canghellor yr Almaen; Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc; Yoshihide Suga, Prif Weinidog Japan; Mario Draghi, Prif Weinidog yr Eidal; a Justin Trudeau, Prif Weinidog Canada. Yno hefyd bu Ursula von der Leyen, Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, a Charles Michel, Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd, y ddwy swydd a wahoddir fel rheol i gynrychioli'r Undeb Ewropeaidd yn yr uwchgynhadledd. Gwahoddwyd hefyd arweinwyr o bedair gwlad arall—Narendra Modi, Prif Weinidog India (a gyfranogai o bell oherwydd yr argyfwng COVID-19 yn ei wlad); Cyril Ramaphosa, Arlywydd De Affrica; Moon Jae-in, Arlywydd De Corea; a Scott Morrison, Prif Weinidog Awstralia—ac António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Hon oedd uwchgynhadledd gyntaf yr G7 ers 2019; ni chynhelir yr 46ain uwchgynhadledd arfaethedig, a oedd i gael ei chynnal yn Camp David dan lywyddiaeth yr Unol Daleithiau ym Mehefin 2020, oherwydd pandemig COVID-19. Hon oedd yr uwchgynhadledd gyntaf a fynychwyd gan yr Arlywydd Biden a'r Prif Weinidogion Suga a Draghi.
Delwedd:P20210611AS-0528 (51269443335).jpg, Family photo of G7 leaders and the invited guests at Carbis Bay (1).jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | G7 summit |
---|---|
Dechreuwyd | 11 Mehefin 2021 |
Daeth i ben | 13 Mehefin 2021 |
Rhagflaenwyd gan | 46th G7 summit |
Olynwyd gan | 48th G7 summit |
Lleoliad | Carbis Bay |
Gwefan | https://www.g7uk.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Erbyn diwedd y penwythnos, cytunodd arweinwyr yr G7 i gyhoeddi communiqué diplomyddol yn crynhoi eu hagenda:
- i ddarparu biliwn yn fwy o frechlynnau i wledydd tlawd er mwyn ymdopi â'r pandemig COVID-19;
- i hyrwyddo twf economaidd a swyddi mewn gwledydd tlawd;
- i roi "chwyldro gwyrdd" ar waith i atal newid hinsawdd, gan gynnwys i gyfyngu ar y cynnydd mewn tymereddau byd-eang, i leihau gollyngiadau i sero net erbyn 2050, ac i warchod o leiaf 30% o diroedd a moroedd y byd erbyn 2030;
- yn galw ar Weriniaeth Pobl Tsieina i barchu hawliau dynol; ac
- yn galw am astudiaeth gan Gyfundrefn Iechyd y Byd i ymchwilio i darddiant y firws SARS-CoV-2.[1]
Pryderon am coronafirws
golyguBu’n rhaid i Michael Gove adael uwchgynhadledd arweinwyr ar ôl derbyn rhybudd ap coronafirws. Roedd Gove wedi bod i Bortiwgal i wylio gêm bêl-droed.[2] Yn ystod y gynhadledd, cynhaliwyd profion coronafirws positif yn cynnwys heddwas a gwesteion mewn gwesty lle’r oedd aelod o dîm diogelwch Angela Merkel yn aros.[3] Bu cynnydd mewn achosion yng Nghernyw, a barhaodd ar ôl i'r cyfarfod ddod i ben.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "G7 summit: Biden says America is back at the table", BBC (13 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 14 Mehefin 2021.
- ↑ "Michael Gove wedi gorfod gadael uwchgynhadledd arweinwyr gwledydd y Deyrnas Unedig ar ôl derbyn rhybudd ap coronafeirws". Golwg360. 4 Mehefin 2021. Cyrchwyd 20 Mehefin 2021.
- ↑ "G7 host Cornwall sees coronavirus cases spike after sunny weekend". Politico (yn Saesneg). 17 Mehefin 2021. Cyrchwyd 20 Mehefin 2021.
- ↑ Eve Watson (20 Mehefin 2021). "Cornwall has 43 new Covid-19 cluster hotspots as cases continue to rise". Cornwall Live (yn Saesneg).