Galen
Meddyg ac awdur Groegaidd oedd Galen o Pergamon (Groeg: Γαληνός, Galēnos; Lladin : Claudius Galenus) (130 - 200). Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn anatomeg, a chafodd ddylanwad mawr ar feddygaeth hyd y Canol Oesoedd.
Galen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
2G ![]() Pergamon ![]() |
Bu farw |
3G ![]() Rhufain ![]() |
Man preswyl |
Pergamon ![]() |
Dinasyddiaeth |
Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth |
meddyg ac awdur, llawfeddyg, biolegydd, niwrowyddonydd ![]() |
Tad |
Aelius Nicon ![]() |
Ganed ef yn ninas Pergamon (Bergama, Twrci heddiw), yn 129 neu 130 OC. Roedd o deulu cefnog; roedd ei dad, Aeulius Nicon, yn bensaer a thirfeddiannwr. Yn ugain oed, dechreuodd astudio meddygaeth yn nheml Asclepios, duw iechyd a meddygaeth. Teithiodd i Smyrna a Corinth i astudio ymhellach, yna aeth i ddinas Alexandria yn yr Aifft.
Dychwelodd i Pergamon yn 157, wedi marwolaeth ei dad. Bu’n gweithio yno fel meddyg i ysgol y gladiatoriaid am dair neu bedair blynedd, gan ennill profiad o drin clwyfau. O 162 ymlaen, bu’n byw yn Rhufain, lle ysgrifennodd nifer o lyfrau ar feddygaeth a dod yn adnabyddus fel meddyg. Daeth yn feddyg llys i’r ymerawdwr Marcus Aurelius. Dychwelodd i Pergamon rhwng 166 a169, cyn cael ei alw’n ôl i Rufain gan Commodus, mab Marcus Aurelius.