Chwaraewr rygbi'r undeb sydd wedi chwarae dros dîm cenedlaethol Cymru yw Gareth Anscombe (ganwyd 10 Mai 1991).[1] Mae'n chwarae'n bennaf yn safle'r maswr. Mae ar hyn o bryd yn chwarae i Gleision Caerdydd yn y Pro14.

Gareth Anscombe
Ganwyd10 Mai 1991 Edit this on Wikidata
Auckland Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSeland Newydd, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Rosmini College Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra183 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau87 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auNew Zealand national under-20 rugby union team, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Saflemaswr, Cefnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonSeland Newydd, Cymru Edit this on Wikidata

Mae Anscombe yn enedigol o Seland Newydd ac yn fab i gyn-hyfforddwr Auckland ac Ulster, Mark Anscombe.

Dechreuodd Anscombe chwarae rygbi proffesiynol gydag Auckland yn nhymor 2010, sef y flwyddyn gyntaf wedi iddo adael ysgol. Ef oedd prif sgoriwr Pencampwriaeth Iau y Byd yr IRB [2] yn 2011, a llwyddodd i gadw ei le yng ngharfan Auckland.

Dechreuodd Anscombe chwarae i'r Blues yn 2012, pan ddaeth ymlaen i'r cae fel eilydd yn lle Michael Hobbs yn y gêm ail rownd yn erbyn y Chiefs yn Hamilton. Dechreuodd ei gêm gyntaf yn erbyn y Bulls yn rownd tri, a sgoriodd bob un o'r pwyntiau Blues mewn buddugoliaeth 29 - 23. Er iddo ddisgleirio yng Nghwpan ITM 2012, a helpu Auckland i gyrraedd y rowndiau terfynol cyn colli i Canterbury,[3] methodd wneud argraff ar dîm rheoli'r Blues a chollodd ei le yn y garfan ar ôl i John Kirwan gael ei benodi'n hyfforddwr. Cyhoeddwyd y byddai'n chwarae dros y Chiefs yn nhymor 2013.[4] Yn 2013 estynnwyd ei gytundeb gyda'r Chief tan 2014.[5]

Gyrfa ryngwladol golygu

Er i Anscombe gynrychioli Seland Newydd ar lefel dan-20,[1] nid oedd yn gaeth i Seland Newydd ar lefel uwch.[1]

Ym mis Ebrill 2014, cyhoeddwyd adroddiad ym mhapur y Western Mail bod Gleision Caerdydd Pro12 yn bwriadu cynnig cyntundeb i Anscombe, a'i fod yn gymwys i chwarae dros Gymru drwy ei fam, Tracy, sy'n enedigol o Gaerdydd.[1]

Cafodd Anscombe ei enwi yng ngharfan 34-dyn Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015,[6] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn ail hanner y gêm yn erbyn Iwerddon ar 8 Awst 2015.

Dechreuodd Anscombe bob gêm heblaw am yr un yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019. Cafodd ei enwi yn 'Seren y Gêm' yn Stadiwm Principality ar 16 Mawrth 2019 - y gêm a sicrhaodd y Gamp Lawn i Gymru am y tro cyntaf ers 2012.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Howell, Andy (21 April 2014). "Super 15 star Gareth Anscombe tops Warren Gatland's World Cup shopping list as Cardiff Blues prepare a bid". Western Mail. Cardiff. Cyrchwyd 24 April 2014.
  2. "Proffil Gareth Anscombe ar Aucklandrugby.co.nz". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-08. Cyrchwyd 2019-03-17.
  3. "Super Rugby Profile: Chiefs – Gareth Anscombe". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-18. Cyrchwyd 5 December 2012.
  4. "Chiefs sign Anscombe" (Press release). Chiefs. 8 October 2012. Archifwyd o y gwreiddiol ar 19 October 2013. https://web.archive.org/web/20131019195839/http://www.chiefs.co.nz/news/chiefs-sign-anscombe.html. Adalwyd 10 January 2014.
  5. "Chiefs re-sign six players" (Press release). Chiefs. 23 June 2013. Archifwyd o y gwreiddiol ar 28 December 2013. https://web.archive.org/web/20131228092146/http://www.chiefs.co.nz/news/chiefs-re-sign-six-players.html. Adalwyd 24 June 2013.
  6. "Wales name 34-man Six Nations squad". Welsh Rugby Union. 20 January 2015.