Gwleidydd o Seland Newydd a ymfudodd i Dde Rhodesia oedd Syr Reginald Stephen Garfield Todd (13 Gorffennaf 190813 Hydref 2002) a fu'n Brif Weinidog De Rhodesia o 1953 i 1958.

Garfield Todd
Ganwyd13 Gorffennaf 1908 Edit this on Wikidata
Invercargill Edit this on Wikidata
Bu farw13 Hydref 2002 Edit this on Wikidata
Bulawayo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSimbabwe, Seland Newydd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Witwatersrand Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cenhadwr Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Rhodesia, Member of the Senate of Zimbabwe Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolUnited Rhodesia Party, United Federal Party Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar (1908–42) golygu

Ganed Reginald Stephen Garfield Todd ar 13 Gorffennaf 1908 yn Invercargill, Ynys y De, Dominiwn Seland Newydd, yn fab i friciwr o'r enw Thomas Todd a'i wraig Edith.[1] Gweithiodd yn iard frics ei dad yn ystod ei ieuenctid, ac astudiodd ym Mhrifysgol Otago, Dunedin. Aeth i Goleg Diwinyddol Glen Leith, a chymerodd urddau eglwysig yn 1931. Aeth ar genhadaeth i Dde Affrica, ac yno astudiodd ym Mhrifysgol Witwatersrand, Johannesburg, cyn iddo fynd i Unol Daleithiau America am gyfnod i Brifysgol Butler yn Indianapolis, Indiana.[2]

Yn 1934 aeth Todd ar genhadaeth Brotestannaidd i Dde Rhodesia, a oedd ar y pryd yn drefedigaeth Brydeinig. Cafodd ei ddanfon i Dadaya, ardal cloddio asbestos yn rhanbarth Shabani rhyw 80 milltir i ddwyrain Bulawayo. Yno adeiladodd feddygfa ac ysgol i ddarparu cyfleusterau i'r bobl dduon. Todd oedd yn bennaeth ar ysgol y genhadaeth, ac un o'r athrawon ifainc dan ei arolygiaeth oedd Robert Mugabe. Er i Todd a'i wraig Grace dderbyn ond ychydig o hyfforddiant yng ngwaith y fydwraig, cynorthwyasant menywod yr ardal i esgor ar gannoedd o fabanod.[1]

Gyrfa wleidyddol (1942–85) golygu

Yn 1942, aeth Todd i wrando ar anerchiad gan Syr Godfrey Huggins, Prif Weinidog De Rhodesia. Yn ei araith, gwelodd Huggins fai ar Seland Newydd, ac ymatebodd Todd drwy weiddi ar ei draws. Gwnaeth argraff ar Huggins, a chafodd Todd ei ddewis gan y prif weinidog i'w baratoi ar gyfer gyrfa wleidyddol. Fe'i etholwyd i Gynulliad Deddfwriaethol De Rhodesia yn 1946 yn aelod o Blaid Rhodesia Unedig (URP) dros ranbarth Shabani. Ar gychwyn ei yrfa, roedd Todd yn cefnogi llywodraeth gan y mwyafrif croenwyn yn Ne Rhodesia. Wedi'r Ail Ryfel Byd, wrth i nifer o fewnfudwyr o Brydain symud i'r drefedigaeth, newidiodd Todd ei farnau ynghylch cydberthynas yr hiliau yn Ne Rhodesia. Nid oedd yn fodlon gweld Affricanwyr duon, wedi dysgu yn ysgolion y cenhadon ac wedi cydweithio â Todd ei hun, heb yr etholfraint a roddwyd i fewnfudwyr croenwyn oedd newydd gyrraedd.[1]

Yn 1953, penodwyd Huggins yn Brif Weinidog Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa, ffederasiwn ymreolaethol o drefedigaethau De Rhodesia, Gogledd Rhodesia, a Gwlad Nyasa, a chanddi statws yn debyg i ddominiwn yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Fe'i olynwyd yn Brif Weinidog De Rhodesia, ac yn llywydd ar yr URP, gan Todd. Yn nechrau ei gyfnod yn y swydd, ymddangosodd fel petai'n arweinydd ceidwadol, a chanddo elfen awdurdodol i'w gymeriad. Danfonodd y lluoedd diogelwch i roi terfyn ar streic ym mhwll glo Wankie yn 1954, a datganodd nad oedd yn bwriadu rhoi'r bleidlais i bob un. Collodd gefnogaeth ei blaid wrth iddo roi diwygiadau ar waith, gan gynnwys addysg gynradd i blant croenddu yn 1955 a chynlluniau ar gyfer undebau llafur i weithwyr o bob hil yn 1957. Wedi iddo lunio deddfwriaeth i roi'r bleidlais i ryw 6,000–10,000 o Affricanwyr croenddu cefnog, ymddiswyddodd pob un aelod o'i gabinet yn Ionawr 1958 ac ar 17 Chwefror bu'n rhaid iddo ildio swydd y prif weinidog.[1] Collodd ei reolaeth ar ei blaid, ac etholwyd Syr Edgar Whitehead yn llywydd yr URP. Ceisiodd Todd ffurfio plaid hollt, ond methodd ennill yr un sedd yn etholiad 1958.[2]

Sefydlodd Todd a Syr John Moffatt, o Ogledd Rhodesia, Blaid Canolbarth Affrica yn 1960, ond unwaith eto methodd ennill yr un sedd yn y cynulliad. Cododd wrychyn y boblogaeth groenwen drwy gyfathrebu ag arweinwyr croenddu gwrth-drefedigaethol, megis Joshua Nkomo, ac am apelio at lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymyrryd yn y drefedigaeth.[2] Siaradodd Todd o blaid annibyniaeth i Dde Rhodesia, a dywedodd byddai'n rhaid i wledydd eraill ymyrryd er mwyn sicrhau hawliau'r boblogaeth groenddu. Cefnogodd y gwrthsafiad yn erbyn llywodraeth y Prif Weinidog Ian Smith yn y 1960au, ac am hynny bu dan arestiad tŷ yn 1965–66 ac yn 1972–76.[1]

Yn sgil annibyniaeth Simbabwe yn 1980, penodwyd Todd yn seneddwr gan yr Arlywydd Robert Mugabe. Siaradodd Todd yn erbyn llygredigaeth wleidyddol yn y llywodraeth newydd, ac ymddiswyddodd o'r senedd yn 1985.[1]

Diwedd ei oes (1985–2002) golygu

Cafodd Todd ei urddo'n farchog yn 1985, ar anogaeth llywodraeth Seland Newydd.[2] Collodd ei ddinasyddiaeth Simbabweaidd yn Chwefror 2002, oherwydd deddf a oedd yn gwrthod dinasyddiaeth i'r rhai a chanddynt rieni tramor. Dioddefodd strôc yn ddiweddarach y flwyddyn honno, a bu farw ar 13 Hydref 2002 yn Bulawayo yn 94 oed.[1][3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Kenneth J. Panton, Historical Dictionary of the British Empire (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2015), tt. 526–7.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Patrick Keatley ac Andrew Meldrum, "Sir Garfield Todd", The Guardian (14 Hydref 2002). Adalwyd ar 15 Chwefror 2020.
  3. (Saesneg) Sir Garfield Todd. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Chwefror 2020.