Chwyldroadwr a gwleidydd o Simbabwe oedd Joshua Mqabuko Nyongolo Nkomo (19 Mehefin 19171 Gorffennaf 1999).

Joshua Nkomo
Ganwyd19 Mehefin 1917 Edit this on Wikidata
Semokwe Edit this on Wikidata
Bu farw1 Gorffennaf 1999 Edit this on Wikidata
Harare Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSimbabwe Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Adams College Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, undebwr llafur Edit this on Wikidata
SwyddSecond Vice President of Zimbabwe Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolZimbabwe African People's Union Edit this on Wikidata
PriodJohanna Mafuyana Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg (1917–51)

golygu

Ganed Joshua Mqabuko Nyongolo Nkomo ar 19 Mehefin 1917 yng Ngwarchodfa Semokwe, Matabeleland, pan oedd tiriogaeth Rhodesia dan reolaeth Cwmni Prydeinig De Affrica. Athro a phregethwr lleyg i Gymdeithas Genhadol Llundain oedd ei dad,[1] a chogyddes yn gweithio i'r genhadaeth leol oedd ei fam.[2] Roedd gan Joshua chwech o frodyr a chwiorydd.[3] Er i nifer o bobl dybio yn ddiweddarach ei fod o dras Ndebele, am fod y mwyafrif o aelodau plaid ZAPU yn hanu o'r grŵp ethnig honno, un o'r Shona oedd Nkomo.[4] Aeth i'r ysgol gynradd yn Rhodesia, a gweithiodd ar fferm ei deulu yn bugeilio'r gwartheg.[3]

Aeth i Dde Affrica yn 1942 i hyfforddi'n saer coed,[3] a gweithiodd yn yrrwr lori i dalu am ei addysg yn Durban a Johannesburg, De Affrica.[1][2][4] Derbyniodd ddiploma mewn gwyddor cymdeithas o Ysgol Jan Hofmeyr, a dychwelodd i Dde Rhodesia i weithio i'r rheilffyrdd yn 1947. Nkomo oedd y dyn du cyntaf i gael ei gyflogi yn weithiwr cymdeithasol gan gwmni Rhodesia Railways.[3] Derbyniodd ei radd baglor mewn economeg a gwyddor cymdeithas, drwy gwrs gohebol o Brifysgol De Affrica, Johannesburg, yn 1951.[3][4]

Yn 1949 priododd Joshua Nkomo â Joanna Fuyane Magwegwe, a chawsant ddau fab a dwy ferch.[2]

Gyrfa wleidyddol yn Rhodesia a'r frwydr am annibyniaeth (1951–79)

golygu

Yn 1951, cychwynnodd Nkomo ar ei yrfa wleidyddol pan ddaeth yn ysgrifennydd cyffredinol Undeb Gweithwyr Affricanaidd y Rheilffyrdd, yr undeb llafur i weithwyr croenddu y rheilffyrdd yn Rhodesia. Trwy ei areithiau huawdl yn yr iaith Ndebele a'r Saesneg a'i bresenoldeb awdurdodol, enillodd enw o fod yn genedlaetholwr Affricanaidd pybyr ac yn arweinydd carismatig.[3] Ymunodd â Kenneth Kaunda o Ogledd Rhodesia a Hastings Banda o Wlad Nyasa i wrthwynebu ffurfio Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa yn 1953.[2] Etholwyd Nkomo yn llywydd y Gyngres Genedlaethol Affricanaidd yn Ne Rhodesia yn 1957. Wedi i'r mudiad hwnnw gael ei wahardd yn 1959, ffoes Nkomo i Loegr i osgoi gael ei garcharu. Dychwelodd i Dde Rhodesia yn 1960 a sefydlodd y Blaid Ddemocrataidd Genedlaethol (NDP). Gwaharddwyd yr NDP yn 1961, a sefydlodd Undeb Pobl Affricanaidd Simbabwe (ZAPU).[4]

Er iddo ddenu nifer o ddilynwyr yn nechrau'r 1960au, bu rhai cenedlaetholwyr yn amau ei allu i wrthsefyll erbyn y llywodraeth groenwen. Buont yn cyhuddo Nkomo o fod yn barod i gymodi â'r llywodraeth a heb yr hyder oedd ei angen i frwydro dros ryddid yr Affricanwyr duon. Trodd aelodau milwriaethus y mudiad, dan arweiniad Robert Mugabe a Ndabaningi Sithole, eu cefnau ar ZAPU yn 1963 i ffurfio Undeb Cenedlaethol Affricanaidd Simbabwe (ZANU). Aeth Nkomo i Danganica i geisio ddwyn perswâd ar yr Arlywydd Julius Nyerere i gefnogi llywodraeth alltud, ond methiant oedd ei gynlluniau a dychwelodd i Salisbury, prifddinas De Rhodesia, yn 1964 lle gafodd ei arestio.[2] Carcharwyd Nkomo, ac arweinwyr eraill y mudiad cenedlaetholgar, gan lywodraeth Rhodesia o 1964 i 1974. Wedi iddo gael ei ryddhau, teithiodd ar draws Affrica ac i Ewrop i hyrwyddo achos ei blaid a'r nod o lywodraeth i'r mwyafrif croenddu yn Rhodesia, a ddatganodd ei hannibyniaeth oddi ar yr Ymerodraeth Brydeinig yn 1965.[4] Aeth Nkomo i Sambia (ynghynt Gogledd Rhodesia) yn alltud ac oddi yno fe arweiniodd ymgyrch herwfilwrol ZAPU yn erbyn y llywodraeth groenwen, gyda chymorth oddi ar yr Undeb Sofietaidd.[3] Wedi i'r ffin rhwng y ddwy wlad gael ei chau yn 1973, nid oedd modd i ZAPU dwyn cyrchoedd ar luoedd Rhodesia o Sambia, a lluoedd ZANU, dan arweiniad Mugabe gyda chanolfannau ym Mosambic a chymorth oddi ar Tsieina, oedd ar flaen y gad yn y rhyfel yn erbyn Rhodesia.[2] Yn 1976 ymgynghreiriodd ZAPU â ZANU, dan enw'r Ffrynt Gwladgarol.[4]

Gyrfa wleidyddol yn Simbabwe a diwedd ei oes (1980–99)

golygu

Yn sgil Cytundeb Lancaster House, daeth y rhyfel i ben a sefydlwyd Gweriniaeth Simbabwe yn 1980. Bu ZANU yn drech na ZAPU yn etholiadau seneddol 1980, ac yn ennill 57 o seddi o gymharu â'r 12 a enillwyd gan blaid Nkomo.[2] Penodwyd Nkomo yn Weinidog dros Faterion Mewnol yng nghabinet y Prif Weinidog Robert Mugabe, dan yr Arlywydd Canaan Banana, ond cafodd ei ddiswyddo gan Mugabe yn 1982 a'i gyhuddo o gynllwynio yn ei erbyn. Cynyddodd yr ymgecru rhwng y ddwy blaid ar fin gwrthdaro ethnig rhwng y Shona, a oedd yn tueddu i bleidleisio dros ZANU, a'r Ndebele, a oedd yn gyffredinol yn cefnogi ZAPU. O ganlyniad, bu farw miloedd ar filoedd o Ndebele yn y lladdfeydd a elwir Gukurahundi yng nghanol y 1980au. Ffoes Nkomo o'r wlad unwaith eto, trwy Fotswana i Lundain, ac yno cyhoeddodd ei hunangofiant, Nkomo, the Story of My Life, yn 1984.[3][4] Dychwelodd i Simbabwe yn 1985 i ymgyrchu yn yr etholiadau cenedlaethol.[3]

Yn 1987, cytunodd Nkomo a Mugabe gyfuno eu pleidiau i ffurfio ZANU–PF mewn ymgais i uno grwpiau ethnig y wlad mewn llywodraeth newydd. Gwasanaethodd Nkomo yn Uwch-weinidog i'r Arlywydd Mugabe o 1988 i 1990.[2] Penodwyd Nkomo yn Is-Arlywydd Simbabwe yn 1990, ond nid oedd ganddo fawr o rym yn y swydd honno.[4] Bu'n dal y swydd honno ar y cyd â Simon Muzenda, a fu hefyd yn is-arlywydd o 1987 i 2003. Er iddo ddal swydd Is-Arlywydd Simbabwe hyd at ei farwolaeth, aeth Nkomo ar encil o fyd gwleidyddiaeth yn ystod tair blynedd olaf ei oes wedi iddo gael diagnosis o ganser y prostad yn 1996. Bu farw yn Harare ar 1 Gorffennaf 1999 o ganser y prostad yn 82 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Donald G. McNeil Jr., "Joshua Nkomo of Zimbabwe Is Dead at 62", The New York Times (2 Gorffennaf 1999). Adalwyd ar 18 Chwefror 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 (Saesneg) Tom Porteous, "Obituary: Joshua Nkomo Archifwyd 2020-02-19 yn y Peiriant Wayback", The Independent (2 Gorffennaf 1999). Adalwyd ar 19 Chwefror 2020.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 3.8 (Saesneg) Andrew Meldrum, "Obituary: Joshua Nkomo", The Guardian (2 Gorffennaf 1999). Adalwyd ar 18 Chwefror 2020.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 4.7 (Saesneg) Joshua Nkomo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Chwefror 2020.