Garudasana (Yr Eryr)
Asana neu safle'r corff o fewn ymarferion ioga yw Garudasana (Sansgrit: गरुडासन; IAST: Garuḍāsana) neu'r Eryr.[1] Gelwir y math hwn o asana yn asana cydbwyso mewn ioga modern fel ymarfer corff. Defnyddiwyd yr enw o fewn ioga hatha canoloesol ar gyfer asana gwahanol.
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas sefyll, ioga Hatha |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad
golyguDaw'r enw o'r geiriau Sansgrit garuda (गरुड) sy'n golygu "eryr", ac asana (आसन) sy'n golygu "osgo" neu "safle'r corff".[2]
Ym mytholeg Hindŵaidd, gelwir Garuda yn frenin yr adar. Ef yw vahana (mynydd) y Duw Vishnu[3] ac mae'n awyddus i helpu dynoliaeth i ymladd yn erbyn cythreuliaid. Mae'r gair debyg i'r gair "eryr", ond yn llythrennol mae'n golygu "y bwytawr", oherwydd yn wreiddiol uniaethwyd Garuda â "thân holl-bwerus pelydrau'r haul".[4]
Defnyddir yr enw am asana gwahanol yn Gheranda Samhita o ddiwedd yr 17g, adnod 2.37, sydd â'r coesau a'r cluniau ar y llawr, a'r dwylo ar y pengliniau.[5]
Disgrifir asana cydbwyso un goes o'r enw Garudasana ond sy'n agosach at Vrikshasana yn nhestunau'r Sritattvanidhi yn y 19g.[6] Disgrifir yr ystum modern yn Light on Yoga . [7]
Disgrifiad
golyguMae Garudasana yn safle anghymesur lle mae un goes, dyweder y dde, yn cael ei chroesi dros y chwith, tra bod y fraich ar yr ochr arall, dyweder y chwith, yn cael ei chroesi dros y dde, a'r cledrau'n cael eu rhoi gyda'i gilydd. Fel pob asana ungoes, mae'n gofyn am gydbwysedd a chanolbwyntio.[8] Yn ôl Satyananda Saraswati, mae'r ddau gledr wedi'u gwasgu at ei gilydd yn debyg i big yr eryr. Mae'r lygaid a'r meddwl wedi'u cyfeirio ar bwynt sefydlog o flaen yr iogi.[9]
Amrywiadau
golyguCeir amrywiad penlinio o'r ystum, sef Vātāyanāsana (Y Ceffyl).[10]
Gweler hefyd
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Thorsons. ISBN 978-1855381667.
- Saraswati, Swami Satyananda (2003). Asana Pranayama Mudra Bandha. Nesma Books India. ISBN 978-81-86336-14-4.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Eagle Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 14 Chwefror 2019.
- ↑ Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
- ↑ Dalal, Roshen (2010). Hinduism: An Alphabetical Guide. Penguin Books. t. 145. ISBN 978-0-14-341421-6.
- ↑ Jordan, Michael (August 2004). Dictionary of gods and goddesses. Infobase Publishing. tt. 102–. ISBN 978-0-8160-5923-2.
- ↑ Rai Bahadur Srisa Chandra Vasu (translator) Gheranda Samhita
- ↑ Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace (arg. 2nd). Abhinav Publications. tt. 75 and plate 7, pose 39. ISBN 81-7017-389-2.
- ↑ Iyengar 1979.
- ↑ VanEs, Howard Allan (12 Tachwedd 2002). Beginning Yoga: A Practice Manual. Letsdoyoga.com. t. 66. ISBN 978-0-9722094-0-3.
Builds balance, coordination, and concentration.
- ↑ Saraswati 2003.
- ↑ "Vatayanasana". Ashtanga Vinyasa Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-04. Cyrchwyd 4 Chwefror 2019.