Ynys fechan ger arfordir Bae Bizkaia ydy Gaztelugatxe sy'n perthyn i gymuned Bermeo, Gwlad y Basg. Fe'i cysylltir i'r tir mawr gan bont garreg. Ar frig yr ynys saif cell neu gapel meudwy o'r enw Gaztelugatxeko Doniene yn y Basgeg a San Juan de Gaztelugatxe mewn Sbaeneg. Fe'i cysegrwyd i Ioan Fedyddiwr ac mae'n dyddio'n ôl i'r 9fed ganrif. Gerllaw, gorwedd ynys arall, llai o'r enw Aketze, ac fel par o ynysoedd mae nhw'n ffurfio biotôp sy'n ymestyn o dref Bakio hyd at bentir Matxitxako ym Mae Bizkaia.

Gaztelugatxe
Mathynys, mynydd, biotope, hermitage church Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBae Bizkaia Edit this on Wikidata
SirBermeo Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Baner Sbaen Sbaen
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.447°N 2.785°W Edit this on Wikidata
Hyd0.27 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddSollube mountain range Edit this on Wikidata
Map
Grisiau a llwybr i fyny'r graig

Yn 1053 y sefydlwyd y capel presennol a hynny gan Arglwydd Bizkaia, sef y don Iñigo López fel cyfraniad tuag at fynachdy San Juan de la Peña ger Jaca yn Huesca. Cafwyd hyd i weddillion cyrff sy'n dyddio'n ôl i'r 9g a'r 12g. Ym 1593 cafodd ei ddinistrio gan Francis Drake. Ar 10 Tachwedd 1978 fe'i dinistriwyd gan dân.

Defnyddiwyd yr ynys wrth ffilmio rhan o gyfres Game of Thrones.

Geirdarddiad golygu

Daw'r gair gaztelugatxe o'r Basgeg: ystyr gaztelu yw "castell" a aitz yw "craig", sy'n uno i roi'r ystyr "Craig y Castell".

Disgrifiad golygu

Mae'r arfordir yn hynod o arw a gerwin yn yr ardal yma. Gwelir ôl treulio'r creigiau gan lymder y tonnau mewn ffurfiau daearegol megis twneli, bwâu ac ogofâu. O ran ei lleoliad mae Ynys Gaztelugatxe yng nghanol y rhan yma o'r arfordir ac yn baradwys i adar gwyllt amrywiol.

Gerllaw'r capel ceir lloches bychan i deithwyr gysgodi rhag y gwynt a'r glaw, neu i eistedd am bicnic yng ngolwg y môr. Dywedir fod 237 gris, er bod rhai'n mynnu mai 229 sydd. Yn ôl y chwedl, ar ôl dringo'r llwybr i 'r copa, dylid cannu'r gloch dair gwaith a gwneud dymuniad.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu