Geirdarddiad Cymru
Disgrifia'r erthygl hon etymoleg Cymru, gwlad yn Ewrop.
Gwreiddiau golygu
Yr enw Cymraeg modern iddyn nhw eu hunain yw Cymry. Mae'r gair yn deillio o'r Brythonig combrogi, sy'n golygu "cydwladwyr".[1]
Mae'r gair fel hunan ddisgrifiad yn deillio o'r Cyfnod ôl-Rufeinig (ar ôl glaniad yr Eingl-Sacsoniaid) gan disgrifio y Cymry (Brythoneg eu hiaith) yn y Gymru fodern. Roedd y Cymry yn bodoli hyd at ogledd Lloegr a de'r Alban, sef Yr Hen Ogledd yn ytsod y cyfnod hwn. Pwysleisiodd y gair fod y Cymry ar draws Cymru a'r Hen Ogledd yn un bobl, ac yn unigryw i bobloedd eraill. [2]
Ni ddefnyddiwyd y term i ddisgrifio'r Cernywiaid na'r bobl Llydawyr, sydd o etifeddiaeth, diwylliant, ac iaith debyg i'r Cymry. Daeth y gair i ddefnydd fel hunan-ddisgrifiad mae'n debyg cyn y 7fed ganrif. [3] Fe’i tystir mewn cywydd mawl i Cadwallon ap Cadfan ( Moliant Cadwallon , gan Afan Ferddig ) c. 633 . [4]
Mewn llenyddiaeth Gymraeg, ddefnyddiwyd y gair ar hyd yr Oesoedd Canol i ddisgrifio'r Cymry, er y parhaodd y defnydd o'r term hynaf, mwy generig, Brythoniaid ar gyfer pobloedd Brythonig (gan gynnwys y Cymry). Hwn oedd y term llenyddol mwyaf cyffredin hyd c. 1200 . Wedi hynny parhaodd Cymry fel y term a ddefnyddwyd. Hyd c. 1560 sillafwyd y gair fel Kymry neu Cymry, a gyfeiriodd at y wlad a'r bobl. [1]
Mae ffurfiau Lladinaidd yr enwau hyn, Cambrian, Cambric a Cambria, yn goroesi fel enwau amgen fwy prin ar gyfer Cymru, y Cymry a'r Cymreig . Ymhlith yr enghreifftiau mae Mynyddoedd Cambria (sy’n gorchuddio llawer o Gymru ac a roddodd eu henw i gyfnod daearegol y Cambrian), y papur newydd Cambrian News, a’r sefydliadau Cambrian Airways, Rheilffyrdd y Cambrian, Cymdeithas Archeolegol y Cambrian a’r Academi Gelf Frenhinol Gymreig.[5]
Y hwnt i Gymru, mae ffurf gysylltiedig wedi goroesi fel yr enw Cumbria yng Ngogledd Orllewin Lloegr, a fu unwaith yn rhan o'r Yr Hen Ogledd. Defnyddiwyd yr iaith Cumbricaidd, ag oedd yn perthyn yn agos i'r Gymraeg tan tua'r 12fed ganrif.
Geirdarddiad 'Wales' golygu
Mae gwraidd y gair Saesneg ar Gymru, Wales, yn perthyn i'r gair am dramorwr Lladin eu hiaith neu diwylliant. Noda sianel youtube Pwyleg, Ciekawostki językoznawcze bod y gwraidd 'wal' yn rhannu'r un gwraidd â'r gair gwalch yn y Gymraeg.[6]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ 1.0 1.1 Davies (1994) p. 69
- ↑ Lloyd, John Edward (1911). A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (Note to Chapter VI, the Name "Cymry"). I (Second ed.). London: Longmans, Green, and Co. (published 1912). pp. 191–192. https://books.google.com/books?id=NYwNAAAAIAAJ&pg=PA191.
- ↑ Phillimore, Egerton (1891). "Note (a) to The Settlement of Brittany". In Phillimore, Egerton (gol.). Y Cymmrodor. XI. London: Honourable Society of Cymmrodorion (cyhoeddwyd 1892). tt. 97–101.
- ↑ Davies (1994) p. 71; the poem contains the line: 'Ar wynep Kymry Cadwallawn was'.
- ↑ Chambers 21st Century Dictionary (arg. Revised). New Delhi: Allied Publishers. 2008. t. 203. ISBN 978-81-8424-329-1.
- ↑ Nodyn:Cite ref