Hanesydd Prydeinig o dras Almaenig oedd Syr Geoffrey Rudolph Elton (Gottfried Rudolf Otto Ehrenberg; 17 Awst 19214 Rhagfyr 1994). Roedd yn athro hanes ym Mhrifysgol Caergrawnt am ddeugain mlynedd ac yn arbenigo ar gyfnodau'r Tuduriaid a'r Stiwartiaid yn hanes Lloegr, ac hanes cyfansoddiadol a gwleidyddol yn enwedig.

Geoffrey Elton
Ganwyd17 Awst 1921 Edit this on Wikidata
Tübingen Edit this on Wikidata
Bu farw3 Rhagfyr 1994, 4 Rhagfyr 1994 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Lloegr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, yr Almaen, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, hanesydd yr oes fodern, hanesydd, academydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadVictor Ehrenberg Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Ganwyd Gottfried Rudolf Otto Ehrenberg yn Tübingen, Baden-Württemberg, yn fab i'r ysgolhaig clasurol Victor Ehrenberg (1891–1976). Penodwyd Victor yn athro hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Almaeneg Prâg yn 1929, ac yno mynychodd Gottfried y Stephans-Gymnasium. Iddewon oedd y teulu Ehrenberg, a symudasant i'r Deyrnas Unedig ychydig wythnosau cyn i'r Almaen Natsïaidd feddiannu Tsiecoslofacia gyfan yn 1939. Aeth Gottfried i ysgol breswyl Rydal ym Mae Colwyn. Nid oedd yn ddigon rhugl yn Saesneg i ennill ysgoloriaeth i astudio hanes ym Mhrifysgol Rhydychen, felly gweithiodd yn athro yn Rydal tra'n astudio cyrsiau gohebol o Brifysgol Llundain. Derbyniodd ei radd hanes yn 1943.[1]

Cafodd ei alw i'r Fyddin Brydeinig yn 1943 a gwasanaethodd yng nghatrodau'r troedfilwyr a chudd-wybodaeth yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei orchymyn gan y fyddin i seisnigo'i enw, a derbyniodd ei ddinasyddiaeth Brydeinig yn 1947. Enillodd ddoethuriaeth o Brifysgol Llundain yn 1947 a chafodd swydd darlithydd cynorthwyol hanes ym Mhrifysgol Caergrawnt yn 1949. Daeth yn gymrawd Coleg Clare, Caergrawnt yn 1954, a daliodd swydd athro hanes modern Regius yn y brifysgol o 1983 i 1988.[1]

Cafodd ei urddo'n farchog yn 1986. Bu farw o drawiad ar y galon yn ei gartref yng Nghaergrawnt yn 73 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Wolfgang Saxon, "Sir Geoffrey Rudolph Elton, 73, Tudor Historian at Cambridge", The New York Times (17 Rhagfyr 1994). Adalwyd ar 15 Medi 2019.