George Lort Phillips
Roedd George Lort Phillips (4 Gorffennaf 1811 – 30 Hydref, 1866) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Benfro rhwng 1861 a 1866 [1].
George Lort Phillips | |
---|---|
Ganwyd | 4 Gorffennaf 1811 |
Bu farw | 30 Hydref 1866 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | John Lort Phillips |
Priod | Isabel Georgina Allen |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Phillips yn Stokeham, Dyfnaint yn fab i John Lort Phillips, ac Agusta Ilburt ei wraig.
Cafodd ei addysgu yn Harrow a Choleg y Drindod, Caergrawnt.
Priododd Isabella Georgina unig ferch John Hensleigh Allen, Creselly (AS Penfro 1818 - 1826). Ni fu iddynt blant[2].
Gyrfa
golyguAr farwolaeth Syr William Barlow ym 1851 etifeddodd Phillips ystadau Lawrenny, Rhosfarced a Nash.
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Benfro ym 1843 a bu’n Ynad Heddwch ar fainc Sir Benfro.
Gyrfa Wleidyddol
golyguYm 1861 dyrchafwyd Aelod Seneddol Sir Benfro, yr Is-iarll Emlyn, i Dŷ’r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad, Iarll Cawdor, a bu isetholiad. Safodd y Cyrnol Hugh Owen Owen ar ran y Blaid Ryddfrydol a Phillips ar ran y Ceidwadwyr. Enillwyd y sedd yn weddol gyffyrddus gan Phillips:
Isetholiad Sir Benfo 1861 Etholfraint: 2,700 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | George Lort Phillips | 1,194 | 54.9 | ||
Rhyddfrydol | Y Cyrnol Hugh Owen Owen | 979 | 45.1 | ||
Mwyafrif | 215 | ||||
Y nifer a bleidleisiodd | 77.4 | ||||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Cadwodd y sedd yn ddiwrthwynebiad yn etholiad cyffredinol 1865 a’i dal hyd ei farwolaeth ym 1866.
Marwolaeth
golyguBu farw wedi damwain wrth hela yn ei gartref, Castell Lawrenny, yn 55 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Hwlffordd[3].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the Principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 4 Medi 2017
- ↑ Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales, Containing a Record of All Ranks of the Gentry ... with Many Ancient Pedigrees and Memorials of Old and Extinct Families – Thomas Nicholas adalwyd 4 Medi 2017
- ↑ Papurau Newydd Cymru Arlein Potter's Electric News 7 Tachwedd 1866 THE LATE COUNTY MEMBER adalwyd 4 Medi 2017
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Is-iarll Emlyn |
Aelod Seneddol Sir Benfro 1861 – 1866 |
Olynydd: James Bevan Bowen |