James Bevan Bowen

gwleidydd Cymreig

Roedd James Bevan Bowen (21 Mai 182814 Tachwedd 1905) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd Sir Benfro fel Aelod Seneddol rhwng 1866–1868 a 1876–1880

James Bevan Bowen
Ganwyd21 Mai 1828 Edit this on Wikidata
Trefdraeth Edit this on Wikidata
Bu farw14 Tachwedd 1905 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Bywyd Personol

golygu

Roedd yn fab i George Bowen, Llwyngwair a Sarah (née Thomas) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Brenin, Llundain lle graddiodd BA ym 1849 ac MA ym 1851 ac yna yng Ngholeg Worcester, Rhydychen.

Ym 1857 Priododd Harriet, merch y Parch J Standley, Southoe, Hants

Cafodd ei alw i'r bar yn y Deml Fewnol ym 1856.

Eisteddodd ar fainc Sir Benfro fel Ynad Heddwch gan wasanaethu fel is gadeirydd o 1870 ac yna'n Gadeirydd y llysoedd chwarter.[1]

Gyrfa Wleidyddol

golygu

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Benfro ym 1862[2] ac fel Dirprwy Raglaw Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Bu'n faer Trefdraeth yn y flwyddyn 1870-71[3]

Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Benfro ar ddau achlysur. Ar farwolaeth George Lort Phillips cafodd Bowen ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel olynydd iddo yn isetholiad 1866, collodd yr enwebiad Ceidwadol ar gyfer etholiad cyffredinol 1868 er mwyn gwneud lle i John Henry Scourfield cyn aelod etholaeth Hwlffordd. Bu farw Scourfield ym 1876 a chafodd Bowen ei ethol yn yr isetholiad canlynol. Collodd ei afael ar y sedd wrth iddi syrthio i'r ymgeisydd Rhyddfrydol William Davies ym 1880

Safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd yn ward Nanhyfer yn yr etholiad cyntaf i ethol cynghorwyr i Gyngor Sir Benfro ym 1888 a chael ei erlyn am y drosedd etholiadol o beidio a chynnwys manylion cyhoeddwr ar daflen etholiadol;[4] er gwaethaf hyn cafodd ei ddethol i wasanaethu ar y Cyngor fel henadur gan wasanaethu o 1888 i 1894.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref, Llwyngwair yn 77 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mhlot y teulu ym mynwent Eglwys Trefdraeth. Gosodwyd ffenestr wydr lliw yn eglwys Trefdraeth ac adeiladwyd neuadd coffa Trefdraeth er cof amdano[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "PEMBROKESHIRE QUARTER SESSIONS - The Tenby Observer Weekly List of Visitors and Directory". Richard Mason. 1874-07-02. Cyrchwyd 2015-07-05.
  2. "SHERIFFS FOR WALES - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1862-02-14. Cyrchwyd 2015-07-05.
  3. "Parliamentary History of Pembrokeshire - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1893-03-04. Cyrchwyd 2015-07-05.
  4. "OFFENCESBYCANDIDATES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1889-02-20. Cyrchwyd 2015-07-05.
  5. Coflein Llwyngwair [1][dolen farw] adalwyd 5 Gorffennaf 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Lort Phillips
Aelod Seneddol Sir Benfro
18661868
Olynydd:
John Henry Scourfield
Rhagflaenydd:
John Henry Scourfield
Aelod Seneddol Sir Benfro
18761880
Olynydd:
William Davies