Geraldine Brooks
Nofelydd a newyddiadurwr Awstralaidd-Americanaidd yw Geraldine Brooks (ganwyd 14 Medi 1955). Yn 2005 enillodd ei nofel March iddi Wobr Pulitzer am Ffuglen.[1][2][3][4]
Geraldine Brooks | |
---|---|
Ganwyd | 14 Medi 1955 Sydney |
Man preswyl | Sydney |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, nofelydd, awdur |
Cyflogwr |
|
Priod | Tony Horwitz |
Gwobr/au | Gwobr Pulitzer am Ffuglen, Gwobr Helmerich, honorary doctor of the University of Sydney, Swyddogion Urdd Awstralia, Nita Kibble Literary Awards |
Gwefan | http://www.geraldinebrooks.com/ |
Fe'i ganed yn Sydney ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Columbia University Graduate School of Journalism, Prifysgol Sydney, Coleg Bethlehem, Awstralia a Phrifysgol Columbia. [5][6]
Magwraeth a choleg
golyguYn frodor o Sydney, magwyd Geraldine Brooks yn y faestref orllewinol 'Ashfield'. Roedd ei thad, Lawrie Brooks, yn ganwr gyda band Americanaidd a fu ar daith o amgylch Awstralia pan ddihangodd ei reolwr â chyflog y band; penderfynodd aros yn Awstralia, a daeth yn is-olygydd papur newydd. Roedd ei mam Gloria, o Boorowa, yn swyddog cysylltiadau cyhoeddus gyda gorsaf radio 2GB yn Sydney.[7]
Wedi iddi raddio ym Mhrifysgol Sydney, bu’n ohebydd i The Sydney Morning Herald ac, ar ôl ennill Ysgoloriaeth Goffa Greg Shackleton, symudodd i Unol Daleithiau America (UDA), gan gwblhau gradd meistr yn Ysgol Newyddiaduraeth Graddedigion Prifysgol Columbia Dinas Efrog Newydd ym 1983. Y flwyddyn ganlynol, ym mhentref Tourrettes-sur-Loup, de Ffrainc, priododd y newyddiadurwr Americanaidd Tony Horwitz a throsi i Iddewiaeth.[8]
Gyrfa
golyguFel gohebydd tramor The Wall Street Journal, bu’n ymdrin ag argyfyngau yn Affrica, y Balcanau, a’r Dwyrain Canol, gyda’i gohebiaeth o straeon o Gwlff Persia yn 1990 yn derbyn Gwobr Hal Boyle y Wasg Dramor am " Adroddiadau Gwasanaeth Papur Newydd neu Wifren Orau Dramor".[9] Yn 2006, dyfarnwyd iddi gymrodoriaeth Sefydliad Astudio Uwch Radcliffe Prifysgol Harvard.[10]
Roedd llyfr cyntaf Brooks, Nine Parts of Desire (1994) (a oedd yn seiliedig ar ei phrofiadau ymhlith menywod Mwslimaidd yn y Dwyrain Canol) yn werthwr-rhyngwladol, ac fe'i gyfieithwyd i 17 iaith. Roedd Foreign Correspondence (Gohebiaeth Dramor) (1997), a enillodd Wobr Lenyddol Nita Kibble am waith gan fenywod, yn gofiant ac yn antur deithio am blentyndod a gyfoethogwyd gan gyfeillion ac edmygwyr o bedwar ban byd, a'i hymgais i ddod o hyd iddynt.
Daeth ei nofel gyntaf, Year of Wonders, a gyhoeddwyd yn 2001, yn werthwr-rhyngwladol. Wedi'i gosod ym 1666, mae'r stori'n darlunio brwydr merch ifanc i achub cyd-bentrefwyr yn ogystal â'i henaid ei hun pan oedd y bu i'r pla biwbonig daro pentref Eyam yn Swydd Derby.
Anrhydeddau
golyguLlyfrau dethol
golyguNofelau
golygu- Year of Wonders (2001)
- March (2005) ISBN 9780143115007, OCLC 1055419299
- People of the Book (novel)|People of the Book]] (2008) ISBN 9781460750858, OCLC 910657795
- Caleb's Crossing (2011) ISBN 9780143121077, OCLC 861687308
- The Secret Chord (2015)
Llyfrau ffeithiol
golygu- Nine Parts of Desire: The Hidden World of Islamic Women. 1994. ISBN 0-385-47576-4.
- Foreign Correspondence: A Pen Pal's Journey from Down Under to All Over. 1997. ISBN 0-385-48269-8.
- Boyer Lectures 2011: The Idea of Home (or "At Home in the World"). 2011. ISBN 978-0-7333-3025-4.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.nytimes.com/2006/04/17/business/media/17cnd-pulitzer.html?hp&ex=1145332800&en=ebc18186bee0db16&ei=5094&partner=homepage. http://www.nytimes.com/2008/01/20/books/review/Fugard-t.html?ref=books.
- ↑ Dyddiad geni: "Geraldine Brooks". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014 http://sydney.edu.au/arts/government_international_relations/alumni/notable.shtml. http://www.chron.com/life/houston-belief/article/Pulitzer-winning-novelist-drawn-to-Judaism-1725422.php. http://www.nationalbook.org/nba2014_fic_longlist_pr.pdf.
- ↑ Galwedigaeth: http://articles.latimes.com/2011/may/29/entertainment/la-ca-geraldine-brooks-20110529. http://www.boston.com/ae/books/articles/2008/01/13/keeping_the_faith. http://www.theage.com.au/news/entertainment/books/gillard-defends-anthology-as-one-for-its-time/2009/10/08/1254701101238.html. http://www.nytimes.com/2005/08/07/books/review/07BROOKSL.html. http://www.smh.com.au/articles/2004/05/17/1084646128938.html. http://www.smh.com.au/news/national/rudd-to-meet-clinton-as-he-picks-aussie-brains/2008/03/31/1206850766785.html.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.pulitzer.org/winners/geraldine-brooks. http://helmerichaward.org/winners/2009_geraldine-brooks.php. https://www.sydney.edu.au/content/dam/corporate/documents/university-archives/honorary-awards/b/ms-geraldine-brooks.pdf.
- ↑ Larry Schwartz, "Author of her own success", The Age, 22 Ebrill 2006, Encounter, tud. 8
- ↑ "The wandering Haggadah: Novel follows journey of ancient Sephardic text (''J. the Jewish news weekly of Northern California'', 25 Ionawr 2008)". Jewishsf.com. 25 Ionawr 2008. Cyrchwyd 18 Mehefin 2012.
- ↑ "OPC Awards: 1990 Award Winners". Overseas Press Club of America. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Tachwedd 2004. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2006. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ "Fellows". Radcliffe Institute for Advanced Study at Harvard University (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-15. Cyrchwyd 2019-01-15.
- ↑ "Brooks wins Book of the Year award", The Sydney Morning Herald, 15 Mehefin 2008
- ↑ Althea Peterson, "2009 Helmerich award winner has unusual past" Archifwyd 2012-10-07 yn y Peiriant Wayback, Tulsa World, 19 Chwefror 2009.
- ↑ LLC, D. Verne Morland, Digital Stationery International,. "Dayton Literary Peace Prize - Geraldine Brooks, 2010 Lifetime Achievement Award". www.daytonliterarypeaceprize.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-22. Cyrchwyd 28 Mehefin 2016.CS1 maint: extra punctuation (link)