Gerardus Vossius
Ysgolhaig a diwinydd Iseldiraidd oedd Gerardus Vossius (Iseldireg: Gerrit Janszoon Vos; 1577 – 19 Mawrth 1649).[1]
Gerardus Vossius | |
---|---|
Ganwyd | Mawrth 1577, 1577 Heidelberg |
Bu farw | 17 Mawrth 1649, 19 Mawrth 1649 Amsterdam |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth yr Iseldiroedd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, academydd, ysgolhaig clasurol, llenor, hanesydd, ieithydd, dyneiddiwr |
Cyflogwr |
|
Tad | Johannes Vossius |
Plant | Isaac Vossius, Dionies Vos, Matthäus Vossius, Johannes Vossius, Gerhard Vossius, Cornelia Vossius, Franciscus Vossius |
Ganwyd ger Heidelberg i rieni Iseldiraidd. Gweinidog Protestanaidd o'r enw John Voss oedd ei dad, ac yn ôl defod yr amseroedd, rhoes derfyniad Lladinaidd i'w enw, ac o blegid hynny, mabwysiadodd ei fab ef hefyd. Dychwelodd y teulu i Holand ym 1578, ac ymsefydlasant yn Dordrecht, lle yr aeth Vossius i'r ysgol. Wedi hynny, enwogodd ei hun ym Mhrifysgol Leiden, a phan yn 22 oed fe ddychwelodd i Dordrecht i gymryd swydd prifathro yn yr ysgol yno. Priododd yn fuan wedi hyn, ond bu farw ei wraig ym 1607, gan adael ar ei hôl dri o blant. Priododd yntau eilwaith yn ystod yr un flwyddyn, a bu ganddo o'i ail wraig ddau o feibion a phump o ferched. Nid ymddengys i Vossius gyhoeddi nemawr yn y rhan boreuaf o'i fywyd, ond yr oedd yn adnabyddus ymysg ei gydwladwyr fel ysgolhaig a diwinydd, ac y mae ei gwbl ymroddiad i fywyd o efrydiaeth yn dyfod i'r golwg yn eglur oddi wrth y ffaith na oddefai efe un amser i gyfaill fod gydag ef am fwy na chwarter awr ar y pryd.
Ym 1614, penodwyd ef yn brifathro yng ngholeg diwinyddol Leiden, a thra'n gweinyddu yn y swydd hon, cyhoeddodd ei waith ar Belagiaeth, Historiæ de controversiis quas Pelagius eiusque religuiæ moverunt yn 1618 (mae copi o'r testun yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth). Yn y gwaith hwn, ysgrifenai am yr Arminiaid mewn tôn amddiffynnol, a thrwy hynny, tynodd arno ei hun ŵg dosbarth mawr o'r clerigwyr Iseldiraidd, yr hyn a achosodd iddo ef gael ei amddifadu o'r swydd o athro diwinyddol a'i chyflog. Tynodd y gwaith hwn sylw yn Lloegr, a gwnaed rhyw gymaint o'i golled i fyny drwy iddo gael ei benodi i swydd gan yr Archesgob Laud, ddygodd iddo ganpunt yn y flwyddyn, heb fod yn angenrheidiol iddo breswylio allan o'r Iseldiroedd. Yn ei lyfr De Historicis Latinis, a gyhoeddwyd ym 1627, galwodd yn ôl y golygiadau y rhoddodd efe gyhoeddusrwydd iddynt, ac ymheddychodd â'r eglwys. Ym 1633, penodwyd ef yn athro hanesyddiaeth ym mhrifysgol newydd Amsterdam, lle yr ymddengys iddo ymrodi i gwblhau ei brif weithiau. Ymysg y rhai pwysicaf ohonynt mae Aristarchus sive de Arte Grammatica, De Historicis Gracis, Commentariorum Rhetoricorum, a De Veterum Poetarum Temporibus. Ym 1649, fel yr oedd efe yn esgyn i fyny ysgol yn y llyfrgell i estyn llyfr, torodd dano, a chwympodd yntau dan y silffoedd a'r llyfrau, a bu farw o'r herwydd yn 72 oed.
Mae ei bum mab, Denis, Francis, Gerard, Mathew, ac Isaac, yn adnabyddus fel awduron.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ C. S. M. Rademaker (1981). Life and Work of Gerardus Joannes Vossius (1577-1649) (yn Saesneg). Van Gorcum. t. xxv. ISBN 978-90-232-1785-5.