Glöyn cynffon gwennol
Papilio machaon | |
---|---|
P. m. britannicus yn Norfolk | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Papilionidae |
Genws: | Papilio |
Rhywogaeth: | P. machaon |
Enw deuenwol | |
Papilio machaon Linnaeus, 1758 | |
Cyfystyron | |
|
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn cynffon gwennol, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gloynnod cynffon gwennol; yr enw Saesneg yw Swallowtail, a'r enw gwyddonol yw Papilio machaon.[1]
Mae i'w weld yn Ewrop, Asia a Gogledd America ac mae hyd ei adenydd tua 65 - 86mm. Ceir 37 isrywogaeth. P. m. britannicus yw isrywogaeth gynhenid Prydain; mae'n goroesi yn y Norfolk Broads yn unig. Mae P. m. gorganus (glöyn cynffon gwennol Ewrop; Continental Swallowtail) yn ymwelydd prin o dir mawr Ewrop i dde Lloegr a Chymru.
Cynefin
golyguMae'r glöyn byw, pan fo'n oedolyn yn goblyn o gyflym. Gall hofran yn ei unfan pan fo'n sipian neithdar ac mae'n hoff iawn o wahanol berlysiau yn enwedig mewn caeau eithaf agored. Mae'r gwrywod yn ymgasglu ar copaon bryniau er mwyn cystadlu am fenyw.[2] Yn yr iseldir, fe wnant ymweld â gerddi.
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r glöyn cynffon gwennol yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Adrian Hoskins. "Swallowtail. Papilio machaon Linnaeus, 1758". Butterflies of Europe. Cyrchwyd September 24, 2010.