Glas Prwsia (defnydd meddygol)

Mae glas Prwsia, a elwir hefyd yn botasiwm fferrig hexasianofferad (fformiwla gemegol C18Fe7N18), yn feddyginiaeth i drin achosion o wenwyno gan thaliwm neu wenwyno gan gesiwm ymbelydrol[1]. Mewn achosion o wenwyno gan thaliwm gellir ei ddefnyddio ar y cyd a golchi'r stumog, golosg actifedig, troethlif gorfodol, a haemodialysis. Fe'i weini'r drwy'r genau neu drwy diwb nasogastrig. Defnyddir glas Prwsiaidd hefyd yn yr wrin i brofi am ddiffyg G6PD (diffyg metabolaidd).

Glas Prwsia
Glas Prwsia
Enghraifft o'r canlynolcyffur hanfodol Edit this on Wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata

Gall sgil effeithiau gynnwys rhwymedd, lefel isel o botasiwm yn y gwaed, a charthion tywyll. Gyda defnydd hirdymor gall llifio chwys un las[2]. Mae'n gweithio trwy rwymo i atal amsugno thaliwm a chesiwm o'r coluddion.

Datblygwyd glas Prwsia tua 1706 fel lliw ar gyfer paent olew a dyfrlliw ac i lifio defnydd[3]; mae'n cael ei enw gan mae dyna'r lliw y defnyddiwyd ar gyfer arfwisg byddin Prwsia yn yr 1800au[4]. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Ers 2016 caiff ei gymeradwyo ar gyfer defnydd meddygol dim ond yn yr Almaen a'r Unol Daleithiau. Yn yr Unol Daleithiau mae cwrs triniaeth yn costio mwy na 200 doler UDA. Gall mynediad i radd feddygol glas Prwsia fod yn anodd mewn sawl rhan o'r byd, gan gynnwys y byd datblygedig.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Radiation Emergency Medical Management Prussian Blue, Insoluble Archifwyd 2018-06-10 yn y Peiriant Wayback adalwyd 11Mawrth 2018
  2. Rx List Radiogardase® (insoluble prussian blue) adalwyd 11 Mawrth 2018
  3. The Long, Strange History of Prussian Blue adalwyd 11 Mawrth 2018
  4. Haythornthwaite, Philip (1991) Frederick the Great's Army – Infantry. Bloomsbury USA. p. 14. ISBN 1855321602


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!