Golosg actifedig
Mae golosg actifedig, a elwir hefyd yn garbon actifedig, yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin achosion o wenwyno pan fo'r gwenwyn wedi ei gymryd trwy'r geg. I fod yn effeithiol rhaid ei ddefnyddio o fewn cyfnod byr wedi i'r gwenwyn cael ei lyncu, fel arfer llai nag awr. Nid yw'n gweithio mewn achosion o wenwyno gan seianid, asiantau cyrydol, haearn, lithiwm, alcoholau, neu malathion. Gellir ei gymryd trwy'r geg neu gan ei roi trwy diwb trwyn i'r stumog. Mae defnyddiau eraill yn cynnwys ei ddefnyddio mewn peiriannau hemoperfusion (peiriant sy'n hidlo'r gwaed y tu allan i'r corff er mwyn cael gwared â gwenwyn)[1].
Golosg actifedig | |
Enghraifft o'r canlynol | meddyginiaeth, cyffur hanfodol |
---|---|
Deunydd | activated carbon |
Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys chwydu, pasio carthion duon, dolur rhydd, a rhwymedd. Achosir y sgil effaith mwyaf difrifol, sef niwmonitis, pan fo'r carbon yn cael ei sugno i mewn i'r ysgyfaint. Mae ei ddefnydd mewn beichiogrwydd ac wrth fwydo ar y fron yn ddiogel. Mae golosg actifedig yn gweithio trwy arsugno'r tocsin.
Mae golosg cyffredin wedi'i chael ei ddefnyddio am ganrifoedd ar gyfer achosion o wenwyno, dechreuwyd defnyddio golosg actifedig yn y 1900au. Mae golosg actifedig ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef restr o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
Mae dillad sy'n cynnwys siarcol actifedig, neu bagiau siarcol sy'n cael eu rhoi y tu mewn i ddillad, yn cael eu defnyddio i helpu amsugno'r nwy sy'n cael ei ryddhau gan bobl sydd yn dioddef efo gwynt (rhechan ormodol)[2].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Drugs.com Charcole, activated adalwyd 14 Ionawr 2018
- ↑ Galw Iechyd Cymru - Gwynt[dolen farw] adalwyd 14 Ionawr 2018
Rhybudd Cyngor Meddygol
golygu
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |