Globaliaeth
Cred neu agwedd meddwl parthed cysylltiadau rhyngwladol yw globaliaeth[1] sydd yn cymryd yn ganiataol mai grym anochel a buddiol ydy globaleiddio yn y byd modern, am ei bod yn moderneiddio, datblygu, ac integreiddio gwahanol wledydd a chymdeithasau er budd trwch y boblogaeth fyd-eang. Gall gyfeirio at safbwynt, damcaniaeth neu ideoleg sydd yn arddel hwyluso neu gynyddu globaleiddio, fel rheol trwy wrthwynebu rhwystrau ar symudiadau pobl, nwyddau, a gwybodaeth o amgylch y byd. Cysylltir globaliaeth yn bennaf â syniadaeth a thaliadau ryddfrydol: y ddamcaniaeth ryddfrydol yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, rhyddfrydiaeth economaidd, ac ideoleg neo-ryddfrydiaeth. Ar ei heithaf, mae globaliaeth yn ffafrio diddymu ffiniau rhyngwladol a symud tuag at lywodraethiant byd-eang.
Enghraifft o'r canlynol | cysyniad, ideoleg |
---|---|
Math | globaleiddio |
Y gwrthwyneb | mudiad gwrth-globaleiddio |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Globaliaeth", Y Termiadur Addysg. Adalwyd ar 23 Mawrth 2024.