Glyndŵr Michael
Crwydryn di-gartref, anllythrennog oedd Glyndŵr Michael (4 Ionawr 1909 - 24 Ionawr 1943)[1] a gyflawnodd hunanladdiad neu farwolaeth damweiniol[2]; yna, defnyddiwyd ei gorff i dwyllo'r Almaenwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Glyndŵr Michael | |
---|---|
Ffugenw | William Martin |
Ganwyd | 4 Ionawr 1909 Aberbargoed |
Bu farw | 28 Ionawr 1943 o gwenwyn Ysbyty St Pancras |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | garddwr, gweithiwr |
Ganed Glyndŵr yn Aberbargod, Sir Gaerffili. Glöwr oedd ei dad, ond fe gyflawnodd hunanladdiad drwy drywanu ei hun yn ei wddf pan oedd Glyndŵr yn bymtheg mlwydd oed. Bu farw ei fam pan oedd Glyndŵr yn dri-deg-un mlwydd oed.
Crwydrodd i Lundain ble y bu'n byw ar y stryd. Bwytaodd Glyndŵr wenwyn llygod mawr fel past oddi ar ddarnau o fara mewn warws wag ger King's Cross, Llundain, ym mis Ionawr 1943. Felly nid yw hi'n glir os mai hunanladdiad bwriadol neu damweiniol oedd ei farwolaeth.[3] Ychydig iawn sy'n hysbys am ei fywyd.
Defnyddiwyd corff Glyndŵr Michael mewn gweithrediad hocedu milwrol bwysig yn ystod yr Ail Ryfel Byd o'r enw Operation Mincemeat a gynlluniwyd yn rhannol gan Ian Fleming. Gwisgwyd corff Glyndŵr Michael mewn lifrau Uchgapten y Royal Marines a gwneud iddo edrych fel petai wedi bod wedi'i ladd mewn brwydr filwrol, tra'n cario bag dogfennau oedd wedi ei glymu'n sownd i'w law gyda chadwyn. Rhoddwyd iddo'r llysenw ac adnabyddiaeth newydd: 'Uwchgapten William Martin'. Rhan allweddol bwysig o'r cynllun oedd fod y bag dogfennau yn cynnwys dogfennau cudd-wybodaeth ffug a oedd yn crybwyll mai amcan Lluoedd y Cynghreiriaid oedd goresgyn y Natsïaid drwy ymosod a goresgyn Groeg; tra mewn gwirionedd, ymosod ar Sisili oedd y bwriad.
Ar ôl gollwng corff yr 'Uwchgapten William Martin' oddi ar long danfor Brydeinig yn agos at arfordir Sbaen, y gobaith oedd y buasai'r corff ynghyd â chynnwys y bag dogfennau yn cael ei ddarganfod gan uwch-swyddogion y Natsïaid gan eu harwain i atgyfnerthu eu hamddiffynfeydd yng Ngroeg, a gadael Sisili yn fwy agored i niwed. Roedd y cynllun yn llwyddiannus, a olygodd fod goresgyniad Sisili gan Luoedd y Cynghreiriaid wedi mynd yn eithaf llyfn, gyda nifer gymharol fychan o golledion. Arbedwyd miloedd o fywydau oherwydd llwyddiant y cynllun.
Claddwyd corff Glyndŵr Michael mewn angladd filwrol yn Sbaen gyda charreg fedd yn nodi ei enw fel 'Uwchgapten William Martin'. Datgelodd Llywodraeth Prydain wir adnabyddiaeth y corff ym 1998, ac ychwanegwyd y llinellau: "Glyndwr Michael; Served as Major William Martin, RM" i'w garreg fedd [4].
Mae cofeb rhyfel Aberbargoed yn nodi hanes Glyndŵr Michael fel "y dyn na fu erioed".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.cwgc.org/search/casualty_details.aspx?casualty=4041661
- ↑ Macintyre, Ben (2010). Operation Mincemeat: The True Spy Story that Changed the Course of World War II, Chapter 5. Bloomsbury. ISBN 978-1408812587.
- ↑ Macintyre, Ben (2010). Operation Mincemeat: The True Spy Story that Changed the Course of World War II, Chapter 5. Bloomsbury. ISBN 978-1408812587.
- ↑ http://www.cwgc.org/search/certificate.aspx?casualty=4041661