Aberbargoed
Pentref yng nghymuned Bargod, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Aberbargoed[1] neu Aberbargod.[2] Fe'i lleolir yng ngogledd y sir ar y briffordd A4049 tua milltir i'r gogledd o Bargod, rhwng Tredegar ac Ystrad Mynach.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6968°N 3.224°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhianon Passmore (Llafur) |
AS/au y DU | Nick Smith (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Nick Smith (Llafur).[4]
Yr enw
golyguMae'r enw'n tarddu o enw'r nant "Nant Bargod Rhymni" sy'n llifo i lawr Mynydd y Fochriw i afon Rhymni yma. "Aber Bargoed" oedd ffurf 1578. Mae enw'r nant, fodd bynnag, yn llawer hŷn: fe'i canfyddir yn gyntaf yn 1170 "Bargau Remni". Roedd y nant yn ffin naturiol rhwng tiroedd brithdir a Senghennydd Uwch Caeach. Gyda thwf diwydiant 19eg ganrif, galwyd y tir ar yr ochor ddwyreiniol yn Aberbargoed (Aberbargod, 1729), Pontaber Bargoed yn 1794). Galwyd yr ochor orllewinol yn Bargoed. Bargod, felly, oedd y ffurf cynharaf, a hynny'n golygu "ffin". Newidiwyd yr enw, mae'n debyg, oherwydd dylanwad llefydd cyfagos megis Penycoed ac Argoed.[5]
Pobl o Aberbargoed
golygu- Glyndŵr Michael (1909-1943)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021. Mae'r rhestr yn cydnabod y ddau ffurf "Aberbargoed" ac "Aberbargod".
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007)
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu