Gordon MacDonald, Barwn 1af MacDonald o Waenysgor

gwleidydd

Roedd Gordon MacDonald, Barwn 1af MacDonald o Waenysgor KCMG PC (27 Mai 1888 - 20 Ionawr 1966) yn wleidydd y Blaid Lafur ac yn llywodraethwr terfynol Prydain yn Newfoundland yn ogystal â chadeirydd olaf Comisiwn y Llywodraeth gan wasanaethu o 1946 hyd i'r wladfa ymuno â Chydffederasiwn Canada ym 1949 gan ddod yn un o daleithiau Canada.[1]

Gordon MacDonald, Barwn 1af MacDonald o Waenysgor
Ganwyd27 Mai 1888 Edit this on Wikidata
Prestatyn Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ionawr 1966 Edit this on Wikidata
Prestatyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, undebwr llafur Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
TadThomas Macdonald Edit this on Wikidata
PriodMary Lewis Edit this on Wikidata
PlantGordon MacDonald, 2il Farwn MacDonald o Waenysgor, Elsie Macdonald, Kenneth Lewis Macdonald, Glenys Macdonald Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganed MacDonald yn Gwaenysgor, Sir y Fflint. Roedd yn fab i Thomas Macdonald, glöwr ac Ellen ei wraig. Symudodd y teulu i Feysydd Glo Swydd Gaerhirfryn lle cafodd ei dad swydd ym mhwll glo ger Ashton in Makerfield. Wedi'i addysgu mewn ysgol elfennol, Saint Luke's, Stubshaw Cross, gadawodd yr ysgol yn 13 mlwydd oed i ddilyn ei dad i'r pyllau. Ym 1920, enillodd ysgoloriaeth i Goleg Ruskin.[2].

Ym 1913 priododd Mary Lewis o Flaenau Ffestiniog, bu iddynt dau fab ac un ferch.

Ym 1920 fe'i hetholwyd i Fwrdd Gwarcheidwaid Wigan, ym 1924 daeth yn llywydd cymdeithas gydweithredol leol ac yn yr un flwyddyn yn asiant glowyr i Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr

Aelod seneddol

golygu

Yn etholiad cyffredinol 1929 etholwyd MacDonald yn Aelod Seneddol (AS) ar gyfer etholaeth Ince, gan ddal y sedd hyd 1942. Bu'n chwip iau'r Blaid Lafur Seneddol o 1931 i 1934 ac yn gadeirydd pwyllgorau yn Nhŷ'r Cyffredin. Ymddiswyddodd o'r Senedd ym mis Gorffennaf 1942 i gymryd swydd Rheolwr Rhanbarthol ar gyfer y Weinyddiaeth Tanwydd a Phŵer ar gyfer Rhanbarth Swydd Gaerhirfryn, Swydd Gaer a Gogledd Cymru.

Llywodraethwr Newfoundland

golygu

Ym mis Ionawr 1946 penodwyd MacDonald yn Llywodraethwr Newfoundland a Chomander Newfoundland a'i Dibyniaethau, a chadeirydd y Comisiwn Llywodraeth anetholedig a oedd yn llywodraethu'r dominiwn. Ar yr un pryd fe'i crëwyd yn Farchog Cadlywydd yn Urdd St Michael a St George. Goruchwyliodd ethol Confensiwn Cenedlaethol Newfoundland ym 1946, a chynnal dau refferendwm ym 1948, a arweiniodd at Newfoundland yn dod yn dalaith o Ganada ym mis Mawrth 1949.[3]

Ystyriwyd bod MacDonald o blaid ffederasiwn o daleithiau Canada ac fe'i cyhuddwyd o ragfarn a cham reoli'r refferendwm gan Peter Cashin a gwrthwynebwyr eraill y ffederasiwn. Bu cyhuddiadau eraill yn ei erbyn yn cynnwys annog sectyddiaeth rhwng Protestaniaid a Chatholigion yn y dalaith.[4]

Ymadawodd MacDonald a Newfoundland ar ei fynediad i Ganada ym 1949. Dau ddiwrnod ar ôl ei ymadawiad, cyhoeddwyd cerdd longyfarch yn The Evening Telegram. Daeth i'r amlwg bod y gerdd yn un acrostig, gyda'r llythyr cyntaf pob llinell yn sillafu'r geiriau "THE BASTARD".[4]

Tâl-feistr Cyffredinol

golygu

Ar ôl dychwelyd i'r Deyrnas Unedig ym 1949, dyrchafwyd Macdonald i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Macdonald o Waunysgor [5] ac ymunodd â llywodraeth Clement Attlee fel Tâl-feistr Cyffredinol. Ym 1950 bu'n arweinydd y ddirprwyaeth Brydeinig i Gynhadledd y Gymanwlad ar Gymorth Economaidd i Wledydd De Ddwyrain Asia a gynhaliwyd yn Sydney, Awstralia ac roedd yn gynrychiolydd i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Lake Success, Efrog Newydd.[1] Fe'i penodwyd yn Gyfrin Gynghorydd ym 1951.[2] Parhaodd yn Dâl-feistr Cyffredinol hyd i Lafur golli grym yn etholiad cyffredinol 1951.

Gwasanaeth cyhoeddus amgen

golygu

Parhaodd MacDonald i fod yn weithgar ym mywyd cyhoeddus ar ôl ei gyfnod fel rhan o lywodraeth Attlee.

Er ei fod wedi ymadael a Chymru yn fachgen ifanc parhaodd i fod yn siaradwr Cymraeg rhugl. O 1952 i 1960, ef oedd Llywodraethwr Cenedlaethol Cymru o'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, ac o 1953 hyd ei farwolaeth roedd yn gadeirydd Cyngor Darlledu Cymru gan ddadlau o blaid sicrhau lle i'r Gymraeg mewn darlledu ac o blaid darllediadau gwleidyddol ar wahân i Gymru [6]. O 1952 i 1959 bu'n aelod o'r Gorfforaeth Datblygu Ymerodrol, corff a oedd yn rhoi cymorth i ddatblygiad economaidd a chymdeithasol gwledydd yr hen ymerodraeth mewn cyfnod pan oeddynt yn paratoi am annibyniaeth.

Roedd yn aelod ac yn bregethwr gynorthwyol yn enwad yr annibynwyr[7] ac yn gefnogol i nifer o achosion crefyddol [8]. Roedd yn gwasanaethu fel llywydd Cymdeithas y Beibl[9] ac roedd ganddo ddiddordeb mawr ym maes y genhadaeth dramor. Roedd hefyd yn ddirwestwr a gwasanaethodd fel Llywydd Prydeinig y corff hybu dirwest ymysg yr ifanc y Band of Hope ym 1951.

Dyfarnwyd iddo ddwy ddoethuriaeth er anrhydedd yn y gyfraith y naill gan Brifysgol Mount Allison, Sackville, New Brunswick a'r llall gan Brifysgol Cymru.

Marwolaeth

golygu

Bu farw ym mis Ionawr 1966, yn 77 mlwydd oed. Olynwyd ef yn y farwniaeth gan ei fab hynaf, Gordon Ramsay MacDonald (1915-2002) ar farwolaeth yr ail farwn daeth y farwniaeth i ben.

Cyhoeddiadau

golygu
  • Newfoundland at the cross roads (1949)
  • Atgofion seneddol (1953) Gwasg Aberystwyth J. D. Lewis a'i Feibion, Cyf

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Stephen Walsh
Aelod Seneddol Ince
19291942
Olynydd:
Thomas James Brown
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
Newydd
Barwn Macdonald o Waenysgor
1949 - 1966
Olynydd:
Gordon MacDonald