Goronwy ab Ednyfed
Goronwy ab Ednyfed (tua 1205? - 17 Hydref 1268) oedd distain Teyrnas Gwynedd yn oes Llywelyn ap Gruffudd. Ei frawd oedd Tudur ab Ednyfed, a olynodd Goronwy fel distain.[1]
Goronwy ab Ednyfed | |
---|---|
Ganwyd | 1205 |
Bu farw | 17 Hydref 1268 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Ednyfed Fychan |
Mam | Gwenllian ferch Rhys |
Priod | Morfudd ferch Meurig |
Plant | Tudur Hen, Goronwy ab Ednyfed Fychan o Dref Castell, Alis ferch Goronwy ab Ednyfed Fychan, Gwilym ap Gronwy ab Ednyfed Fychan ap Cynwrig |
Bywgraffiad
golyguRoedd Goronwy (ceir y ffurf 'Goronw' weithiau) yn fab i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr, a Gwenllian ferch yr Arglwydd Rhys. Mae'n bosibl fod enw Goronwy ymhlith y rhestr o dystion a geir i un o gytundebau Llywelyn Fawr mor gynnar â 1222. Mae'n debyg felly ei fod wedi gwasanaethu fel swyddog llys gyda'i dad cyn cymryd drosodd fel distain Gwynedd ar ei farwolaeth yn 1246, neu yn y blynyddoedd rhwng hynny a 1258. Ond mewn un ffynhonnell (yn unig), dywedir mai un arall o feibion Ednyfed, Gruffudd ab Ednyfed, oedd distain Gwynedd o 1246 hyd 1256. Felly ceir peth ansicrwydd am yr olyniaeth yn y cyfnod hwnnw.[1]
Gwyddys i sicrwydd ei fod yn dyst i ddogfennau sy'n ymwneud â Gwynedd rhwng 1258 ac 1268, dan Lywelyn ap Gruffudd. Fel distain Gwynedd, arweiniodd fyddin nerthol gyda Maredudd ap Rhys, Rhys Fychan a Maredudd ab Owain o Ddeheubarth (perthnasau gwaed i Oronwy ill tri) yn erbyn Normaniaid Gwent a lluoedd brenin Lloegr yno ym mis Mawrth 1263. Y cyfeiriad olaf ato yn y dogfennau swyddogol yw fel cymrodeddwr i gymrodi rhwng Llywelyn ap Gruffudd a Gilbert de Clare ar ôl cyrchoedd Llywelyn ar Forgannwg, dyddiedig 27 Medi, 1268.[1]
Roedd gan Oronwy dir gan ei dad Ednyfed ym Môn, Arllechwedd a Cheredigion.[1]
Bu farw Goronwy ar noswyl Luc, sef 17 Hydref 1268, yn ôl Brut y Tywysogion:
- 'Blwyddyn wedi hynny y bu farw Goronw fab Ednyfed, distain i'r tywysog, noswyl Sain Luc Efenglywr, gŵr ardderchog yn arfau a hael o roddion a doeth ei gyngor a chywir ei weithred a digrif ("hyfryd") ei eiriau.'
- (Brut y Tywysogion 1268, orgraff ddiweddar).[1]
Canodd y Prydydd Bychan farwnad iddo. Mae'r testun yn fylchog iawn ac nid yw'n ychwanegu odid dim i'n gwybodaeth. Canodd Bleddyn Fardd farwnad iddo yn ogystal, sy'n cyfeirio at y cyrch ar Went a'r golled ar ei ôl. Mae'r ffaith iddo farw mor fuan ar ôl y brwydro yng Ngwent yn awgrymu ei fod wedi ei anafu yno, ond does dim prawf am hynny.[2]
Cof
golyguOnd cedwir cof am Oronwy ab Ednyfed mewn englyn poblogaidd sydd i'w cael mewn sawl llawysgrif. Mae'n tadogi'r geiriau hyn ar ysbryd Goronwy ar ôl marwolaeth Llywelyn yn 1282:
Dywed i wŷr Gwynedd galon-galed
Mai myfi yw Gronw, gwirfab Ednyfed.
Pe buaswn i byw gyd'm llyw
Nis lladdesid cyn hawsed.[2]
Cyfeiriadau
golyguO'i flaen : Ednyfed Fychan |
Disteiniaid Gwynedd Goronwy ab Ednyfed |
Olynydd : Tudur ab Ednyfed |