Maredudd ap Rhys
Bardd o Bowys oedd Maredudd ap Rhys (bl. tua 1450/60 - 1483). Roedd yn frodor o ardal Mathrafal ym Maldwyn.[1]
Maredudd ap Rhys | |
---|---|
Ganwyd | 15 g |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1450 |
Bywgraffiad
golyguGŵr o dras parchus oedd y bardd, yn perthyn i'r un llinach â Dafydd ab Edmwnd, un o feirdd mawr y ganrif. Ymddengys nad oes sail i'r traddodiad ei fod yn athro barddol i Ddafydd.[1] Priododd Angharad ferch Madog o Gristionydd a chawsont ddau blentyn, mab o'r enw Siôn a merch.[1]
Cerddi
golyguCedwir tua deugain o gywyddau Maredudd mewn llawysgrifau. Mae'r rhain yn cynnwys cywyddau brud, cerddi gofyn a diolch a cherddi mawl i uchelwyr lleol.[1]
Mewn un o'i gerddi ceir cyfeiriad at draddodiad fod Madog ab Owain Gwynedd, yr honnid yn nes ymlaen ei fod wedi darganfod yr Amerig ar ddiwedd y 12g, wedi hwylio i'r moroedd. Mae'r cywydd yn diolch i uchelwr lleol ar ran un o noddwyr Maredudd am roi rhwyd pysgota iddo. Dyma'r ddau gwpled sy'n cyfeirio at Fadog:
- Madog wych, mwyedig wedd,
- Iawn genau Owain Gwynedd,
- Ni fynnai dir, f'enaid oedd,
- Na da mawr ond y moroedd.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Enid Roberts (gol.), Gwaith Maredudd ap Rhys a'i Gyfoedion (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 2003).
Cyfeiriadau
golyguBedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd