Tudur ab Ednyfed
Tudur ab Ednyfed (fl. c. 1220 - 1278) oedd mab Ednyfed Fychan a distain (canghellor) Teyrnas Gwynedd a Chymru o 1268 hyd 1278 yng ngwasanaeth Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Ei frawd oedd Goronwy ab Ednyfed (m. 1268), yntau'n ddistain Gwynedd.
Tudur ab Ednyfed | |
---|---|
Bu farw | 1278 |
Tad | Ednyfed Fychan |
Mam | Tangwystl ferch Llywarch, Tangwystl Goch |
Priod | Ales Cynan |
Plant | Heilyn ap Tudur |
Dechreuodd Tudur ei yrfa gweinyddol fel rhaglaw Dinorben (neu Ddinbych) (c. 1240 - 1245) yn ystod teyrnasiad Dafydd ap Llywelyn. Yn 1245 ymosododd Harri III o Loegr ar Wynedd. Llwyddodd rhyfelwyr Gwynedd i drechu llu'r Saeson ar lannau Afon Conwy, ond cipiwyd nifer o uchelwyr y Berfeddwlad yn garcharorion ganddo, ac yn eu plith oedd Tudur ab Ednyfed. Fe'i rhyddhawyd gyda'r lleill ym mis Medi 1246 ar ôl i Dafydd a Harri gytuno ar heddwch.[1]
Bu'n gennad i Lywelyn ap Gruffudd ar sawl achlysur cyn cael ei benodi'n ddistain — swydd bwysicaf y deyrnas — ar farwolaeth ei frawd yn 1268. Yn Rhagfyr 1263 roedd yn bresennol pan ymostyngodd Gruffudd ap Gwenwynwyn i Lywelyn a gweithredodd i drefnu terfynau tir Gruffudd mewn perthynas â thiriogaeth Llywelyn. Sonnir amdano yn nogfennau Cytundeb Trefaldwyn (1267) ac fel cynrychiolydd Llywelyn mewn trafodaethau â Gilbert de Clare yn 1268. Yn 1277, gyda Goronwy ap Heilyn, cynrychiolodd Lywelyn yn y trafodaethau â chynrhychiolwyr Edward I o Loegr yn Abaty Aberconwy a arweiniodd at Gytundeb Aberconwy. Ni cheir sôn amdano yn y cofnodion swyddogol ar ôl diwedd 1277 a chredir iddo farw y flwyddyn ganlynol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Tud. 53-4.
Llyfryddiaeth
golygu- David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984), tud. 11-13 et passim; atodiad II.
O'i flaen : Goronwy ab Ednyfed |
Disteiniaid Gwynedd Tudur ab Ednyfed |
Olynydd : Goronwy ap Heilyn |