Prifysgol Bangor

prifysgol ym Mangor, Gwynedd

Prifysgol ym Mangor, Gwynedd, gogledd Cymru yw Prifysgol Bangor (cyn-enwau: Prifysgol Cymru, Bangor, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru). Mae'n aelod-sefydliad o Brifysgol Cymru. Derbyniodd siarter Frenhinol yn 1885 ac roedd yn un o'r cyrff hynny a sefydlodd y Brifysgol ffederal. Cawsai ei hadnabod am y rhan fwyaf o'i hoes fel "Brifysgol Cymru, Bangor". Ers Medi 2007 fe'i gelwir yn Brifysgol Bangor, gan iddi wahanu oddi wrth Brifysgol ffederal Cymru.

Prifysgol Bangor
Prif adeiladau Prifysgol Bangor
Arwyddair Gorau Dawn Deall
Sefydlwyd 1884
Math Cyhoeddus
Llywydd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, AC
Is-ganghellor Yr Athro John G Hughes
Myfyrwyr 14,020[1]
Israddedigion 8,500[1]
Ôlraddedigion 2,030[1]
Myfyrwyr eraill 3,490 Addysg bellach[1]
Lleoliad Bangor, Baner Cymru Cymru
Cyn-enwau Prifysgol Cymru, Bangor
Coleg Prifysgol Gogledd Cymru
Lliwiau coch a melyn
Tadogaethau Prifysgol Cymru
Gwefan http://www.bangor.ac.uk

Pan archwiliwyd asesiadau ymchwil y coleg yn 2008, gwelwyd fod bron i 50% o'r holl waith ymchwil o fewn ei muriau yn flaenllaw - a hynny yn nhermau bydeang. Caiff ei gydnabod fel y 251fed prifysgol mwyaf blaenllaw yn y byd.[2] Yn ôl Canllaw'r Sunday Times i Brifysgolion Prydain, 2012,[3] caiff ei gyfri fel y brifysgol orau yng Nghymru o ran yr addysgu ac o fewn y 15eg gorau ym Mhrydain yn y categori hwn.

Cyhoeddir Esgor, cyfnodolyn cyntaf y Gymraeg ar fydwreigiaeth, gan y brifysgol.

Sefydlwyd yn 1884 gyda 58 o fyfyrwyr. Nawr, yn yr unfed ganrif ar hugain mae dros 10,000 o fyfyrwyr yn mynychu'r brifysgol.[4]

Yn 2023, enwyd y brifysgol yn Prifysgol y flwyddyn yng Nghymru gan y Daily Mail.[5]

Myfyrwyr newydd yn cyrraedd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor. Ffotograff gan Geoff Charles (1958).

Cynfyfyrwyr a staff enwog golygu

Academyddion golygu

Eraill golygu

Colegau golygu

Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad

  • Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd
  • Ysgol Gwyddorau Meddygol
  • Ysgol Seicoleg
  • Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau[6]

  • Ysgol y Gymraeg
  • Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau
  • Ysgol Dysgu Gydol Oes
  • Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg
  • Ysgol Ieithyddiaeth ac iaith Saesneg
  • Ysgol Ieithoedd Modern
  • Ysgol Cerddoriaeth
  • Ysgol Athroniaeth a Chrefydd
  • Ysgol Saesneg

Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol

  • Ysgol Cemeg
  • Ysgol Cyfrifiadureg
  • Ysgol Peirianneg Electronig

Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas

  • Ysgol Addysg
  • Ysgol Busnes Bangor
  • Ysgol y Gyfraith
  • Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol

Coleg Gwyddorau Naturiol[7]

  • Ysgol Gwyddorau Biolegol (gan gynnwys Gardd Fotaneg Treborth)
  • Ysgol Gwyddorau Eigion
  • Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Neuaddau Preswyl golygu

  • Safle Ffriddoedd
  • Safle Ffordd y Coleg
  • Safle'r Santes Fair
  • Safle'r Normal

Gweler Hefyd golygu

Rhestr o prifysgolion yn y DU

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3  Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2006/07. Higher Education Statistics Agency. Adalwyd ar 19 Ebrill 2008.
  2. "World University Rankings 2011-2012". Times Higher Education. Cyrchwyd 2013-05-18.
  3. "Bangor University Profile". Bangor.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-17. Cyrchwyd 2013-05-18.
  4. Roberts, David (2009). Bangor University, 1884-2009. Chippenham, Wiltshire: CPI Antony Rowe. ISBN 978-0-7083-2226-0.
  5. Price, Emily (2023-09-12). "Bangor named as Welsh University of the Year". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-13.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-14. Cyrchwyd 2015-08-08.
  7. https://www.bangor.ac.uk/cns/ Archifwyd 2016-12-14 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 29/8/16

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato