Un o ddramâu enwocaf Gwenlyn Parry yw Y Tŵr, a gyfansoddwyd ym 1978 ac a gyhoeddwyd ym 1979. Cyhoeddodd Gwasg Gomer argraffiad newydd a hynny yn 1996. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]

Y Tŵr
clawr argraffiad 1996
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGwenlyn Parry
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1979 Edit this on Wikidata
PwncDramâu Cymraeg
Argaeleddallan o brint
ISBN9780863838774
Tudalennau109 Edit this on Wikidata

Dilyn taith gŵr a gwraig, o'u heuienctid hyd henaint, yw plot y ddrama, gyda'r Tŵr yn alegori o Fywyd. Cyfansoddodd Gwenlyn Parry y ddrama yn arbennig ar gyfer John Ogwen a Maureen Rhys oedd yn aelodau o Gwmni Theatr Cymru, ar y pryd. Comisiwn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978 roddodd fodolaeth i'r ddrama, ac fe lwyfannwyd y cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Cymru yn ystod yr Ŵyl.

Cefndir

golygu

"Darllen y ddrama ar wahân wnaethon ni", yn ôl yr actores Maureen Rhys, "y fi'n cael copi yng Nghaerdydd a John i fyny ym Mangor - a'r ddau ohonon ni'n bendant bod yna rywbeth gwerth chweil yn ein dwylo ni [...] Cael siawns i fod yn ifanc, yn ganol oed ac yn hen o fewn dwy awr ar y llwyfan. Mi daflais y sgript i fyny i'r awyr mewn cyffro, a'r tudalennau'n mynd i bobman!" [2]

Cymeriadau

golygu
  • Y Llanc
  • Y Ferch

Cynyrchiadau Nodedig

golygu

1970au

golygu

Llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol yn Theatr Newydd, Caerdydd yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978, gan Gwmni Theatr Cymru. "Ym Mangor yr oeddan ni'n ymarfer a David Lyn yn cynhyrchu [cyfarwyddo]," yn ôl Maureen Rhys, "Wilbert oedd i fod i wneud, fel y bu'n cynhyrchu'r dramâu comisiwn yn y gorffennol, ond mi gafodd ei daro'n wael."[2]

Un a fu'n gweld y cynhyrchiad cyntaf hwnnw, oedd yr academydd Elan Closs Stephens a gofiodd am y profiad yn Rhaglen cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd ym 1995. "Cofiaf imi ddod allan wedi fy ngwefreiddio a'm cyffwrdd at y byw. Mae hi'n weddol hawdd egluro'r wefr: roedd yr actio yn egniol, rymus; gweddai rhythmau'r ddrama i ddau a fagwyd yn yr un ardal â Gwenlyn; cyflwynwyd tric theatraidd cryf wrth i'r ddau heneiddio o flaen ein llygaid fesul egwyl".[3] Cyfarwyddwr David Lyn; cynllunydd Martin Morley; cast:

Teledwyd y ddrama gan BBC Cymru yn fuan wedyn gyda Merfyn Owen yn cynhyrchu (cyfarwyddo)

1980au

golygu

Mentrodd Theatrig ym 1987, dan gyfarwyddyd a gweledigaeth "newydd" Ceri Sherlock, i lwyfannu'r ddrama gyda 6 actor o wahanol oedran; cast:

1 2 3
 
Clawr Rhaglen Y Tŵr, cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd ym 1995.

1990au

golygu

Ail lwyfanwyd y ddrama ym 1995 gan Gwmni Theatr Gwynedd, gyda Maureen Rhys a John Ogwen yn ail-bortreadu'r cymeriadau. Cyfarwyddwr y cynhyrchiad oedd Graham Laker, er mai gwireddu syniad cyn gyfarwyddwr Theatr Clwyd, Helena Kaut-Howson oedd y bwriad.[4] Gan fod y ddau actor dipyn yn hŷn erbyn 1995, na'r ddau ifanc ym 1978, syniad Kaut-Howson oedd i blethu deunydd archif o'r cynhyrchiad gwreiddiol (er mwyn dangos y ddau gymeriad yn ifanc), yna ail-ymuno efo'r ddau ar lwyfan y presennol yn ganol oed ac yn eu henaint. Ond bodloni ar docio'r ddrama wreiddiol fu'n rhaid, a pherfformio'r tair act heb egwyl. [2]

"Er na chefais i'r un wefr ag a gefais i yn 1978," yn ôl Maureen Rhys yn ei hunangofiant, "mi fydda hynny wedi bod yn amhosibl - yr hyn oedd yn arbennig i mi odd cael performio i genhedlaeth newydd o bobl ifanc", ychwanegodd. "Yr hyn dwi'n fawr 'obeithio," ebe Maureen yn Rhaglen y cynhyrchiad, "...ydi fod y pymtheg mlynedd a mwy ers Eisteddfod Caerdydd wedi rhoi imi aeddfedrwydd mewn bywyd a gwaith".[3]

Ychwanegodd John Ogwen: "Yn ei ragair i'r TŴR mae Gwenlyn yn diolch i Maureen a minnau am "roi'r anadl gyntaf i'r esgyrn sychion". Mae 'na ffasiwn beth ag ail-anadl ac mae'r esgyrn yn bell o fod yn rhai sychion. Braint yw cael mynd yn ôl i ddringo'r TŴR arbennig yma." Cynllunydd Rhian Cemlyn; cynllunydd goleuo Tony Bailey Hughes; cynllunydd sain Sion Havard Gregory; cast:

2010au

golygu

Cynhyrchiad cwmni theatr Invertigo yn 2015 a deithiodd drwy Gymru gan ymweld â Llundain am un noson.[5] Cyfarwyddwr Aled Pedrick; cynllunydd Charley Fone; goleuo Joe Price; cast:

  • Gŵr - Steffan Donnelly
  • Gwraig - Catherine Ayres


Troswyd y ddrama lwyfan yn opera siambr gan Music Theatre Wales ar y cyd â Theatr Genedlaethol Cymru yn 2017. Guto Puw oedd y cyfansoddwr a Gwyneth Glyn oedd y Libretydd. Arweinydd y gerddorfa oedd Richard Baker a Michael McCarthy yn cyfarwyddo. Cynllunydd y cynhyrchiad oedd Samal Blak ac Ace McCarron yng ngofal y goleuo.

gydag Ensemble Music Theatre Wales.[6]


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  2. 2.0 2.1 2.2 Rhys, Maureen (2006). Prifio - Hunangofiant. Gwasg Gomer. ISBN 9781843237624.
  3. 3.0 3.1 Rhaglen cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Y Tŵr 1995.
  4. Ogwen, John. Hogyn O Sling. Gwasg Gwynedd.
  5. "Y Tŵr yn torri tir newydd". BBC Cymru Fyw. 2017-05-05. Cyrchwyd 2024-08-25.
  6. "Y Tŵr | Productions | Music Theatre Wales | Music Theatre Wales". musictheatre.wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-08-25. Cyrchwyd 2024-08-25.