Gruffudd ab Ednyfed

Distain

Roedd Gruffudd ab Ednyfed (fl. 1240-1256) yn un o feibion Ednyfed Fychan, distain teyrnas Gwynedd ac yn swyddog uchel yn llys tywysogion Gwynedd. Roedd yn frawd i'r disteiniaid Goronwy ab Ednyfed a Tudur ab Ednyfed.

Gruffudd ab Ednyfed
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
GalwedigaethDistain Edit this on Wikidata
Blodeuodd13 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaDafydd Benfras, Llywelyn ap Gruffudd Edit this on Wikidata
TadEdnyfed Fychan Edit this on Wikidata
MamGwenllian ferch Rhys Edit this on Wikidata
Priodgwraig anhysbys (?) Edit this on Wikidata

Yn ôl traddodiad, gorfodwyd Gruffudd i ffoi i Iwerddon yn ystod teyrnasiad Llywelyn Fawr am iddo wneud honiad enllibus yn erbyn y dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn, ond mae'm amhosibl cadarnhau hynny.

Ceir awgrym mewn un ffynhonnell, sef Cronica de Wallia, fod Gruffudd wedi gwasanaethu fel distain Gwynedd ar ôl marwolaeth ei dad yn 1246, ond nid oes tystiolaeth arall i gadarnhau hynny. Gwyddom fod Gruffudd yn swyddog uchel iawn yn y llys, serch hynny. Yn y flwyddyn 1247, blwyddyn ar ôl marwolaeth ei dad, ceir ei enw fel tyst pennaf i siarter gan Lywelyn ap Gruffudd yn cadarnhau breintiau a daliadau tir Abaty Dinas Basing. Yn nechrau 1256 Gruffudd oedd arweinydd y llysgenhadaeth a anfonwyd gan Lywelyn ap Gruffudd i Loegr i drafod amodau gyda'r brenin Harri III o Loegr. Ymddengys iddo farw yn fuan ar ôl dychwelyd i Wynedd.

Canodd y bardd Dafydd Benfras, pencerdd yn llys Gwynedd, farwnad nodedig i Ruffudd. Yn y gerdd honno disgrifir Gruffudd fel haelfab Ednyfed a dywedir iddo gael ei gladdu ym mynwent Eglwys Gadeiriol Bangor ar Galan Mai. Mae'n amlwg o'r gerdd fod Gruffudd yn noddwr i Ddafydd Benfras.

Cyfeiriadau golygu

  • N. G. Costigan (gol.), 'Gwaith Dafydd Benfras', yn Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y 13g (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion', cyfrol VI.
  • David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984). Atodiad II.