Dafydd Benfras
Dafydd Benfras (cyn 1195? - tua 1258) oedd prif fardd llys Gwynedd rhwng dechrau'r 1220au a diwedd y 1250au, sef cyfnod ail hanner teyrnasiad Llywelyn Fawr, teyrnasiad ei fab Dafydd, a blynyddoedd cynnar teyrnasiad ei ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd. Ym marn Saunders Lewis, "am ganrifoedd safai dau enw goruwch pob enw arall o blith prydyddion y tywysogion, sef Cynddelw yn y ddeuddegfed ganrif a Dafydd Benfras yn y drydedd ar ddeg."[1]
Dafydd Benfras | |
---|---|
Ganwyd | 1230 Cymru |
Bu farw | 1260 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1230 |
Tad | Llywarch ap Llywelyn |
Teulu a gyrfa
golyguYn ôl tystiolaeth marwnad iddo gan ei gyd-fardd Bleddyn Fardd, mae'n bosibl fod Dafydd Benfras yn fab i'r bardd Llywarch ap Llywelyn ("Prydydd y Moch"), ond ceir tystiolaeth wahanol yn yr achau lle ceir dwy ach wrthgyferbyniol. Credir fod yr ach fwyaf credadwy, gyda thystiolaeth ychwanegol o gofnodion diweddarach, yn profi fod Dafydd yn fab i Ddafydd Gwys/Gwas Sanffraid a cheir tiroedd gwely (tir teuluol etifeddol) yn dwyn ei enw yng nghwmwd Talybolion, Môn, mewn dogfen ddydiedig 1352. Gorwedd y gwely ar dir a fu'n rhan o un o faenorau tywysogion Aberffraw. Ymhlith disgynyddion Dafydd Benfras (o dderbyn yr ach hon), ceir y beirdd Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd (yn orwr iddo) a Llywelyn Fychan ap Llywelyn (yn orwr neu ŵyr).
Ymddengys felly fod Dafydd Benfras, fel Meilyr Brydydd ac eraill, yn perthyn i deulu o feirdd. Yn ogystal mae hi bron yn sicr ei fod yn athro barddol hefyd a bod Bleddyn Fardd i'w gyfrif yn un o'i ddisgyblion. Canodd Bleddyn farwnad nodedig i'w athro ar ffurf cyfres o englynion.
Fel rhai eraill o Feirdd y Tywysogion, mae tystiolaeth ei waith a marwnad Bleddyn Fardd iddo yn dangos fod Dafydd yn fardd-ryfelwr a ymladdai ochr yn ochr â'r tywysogion. Cyfeiria at ei hun fel pencerdd yn ei waith, a gallwn fod yn sicr fod ganddo le yn llys y tywysogion fel bardd ac, yn ôl pob tebyg, fel swyddog o ryw fath.
Gwaith
golyguDiau bod cyfran mawr o waith Dafydd Benfras ar goll, ond erys 12 cerdd (804 llinell) sydd ymhlith y gorau o gerddi'r cyfnod. Yn ôl tystiolaeth y cerddi gan Dafydd sydd wedi goroesi, gwelir fod ei noddwyr yn cynnwys Llywelyn Fawr, Gruffudd ap Llywelyn Fawr, Dafydd ap Llywelyn a Llywelyn ap Gruffudd, yn ogystal ag un o'r swyddogion llys pwysicaf, Gruffudd ab Ednyfed, mab y distain Ednyfed Fychan. Yn ogystal â bod yn gampweithiau barddol, mae'r cerddi mawl a marwnadau hyn yn ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes y cyfnod, am y ceir ynddynt nifer o gyfeiriadau at ddigwyddiadau fel cyrhcoedd a brwydrau.
Nodwedd arall ar y cerddi yw'r elfen wladgarol sy'n ymylu ar yr hyn a elwir yn genedlaetholdeb heddiw. Mewn awdl o foliant i Lywelyn Fawr, er enghraifft, cyfeirir at y tywysog fel 'brenin Cymru' ac mae'n ei annog i gipio cymaint o dir â phosibl o ddwylo'r gelyn:
- 'Cymer a fynnych, Cymru—bendefig,
- Arbennig wledig a wladychy.'[2]
Llyfryddiaeth
golygu- "Gwaith Dafydd Benfras", gol. N. G. Costigan, yn Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg, gol. N. G. Costigan et al., Cyfres Beirdd y Tywysogion 6 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1995)
- Alan Llwyd (gol.), Llywelyn y Beirdd (Cyhoeddiadau Barddas, 1982). Cyfrol sy'n cynnwys testun dwy gerdd gan Dafydd Benfras i Lywelyn ap Gruffudd.
Cyfeiriadau
golygu