Gruffudd ap Nicolas

uchelwr, a phrif ffigur llywodraeth leol deheubarth tywysogaeth Cymru yng nghanol y 15fed g.

Uchelwr o Sir Gaerfyrddin a gofir yn bennaf fel noddwr Eisteddfod Caerfyrddin (tua 1451) oedd Gruffudd ap Nicolas neu Gruffudd ap Nicolas ap Phylib ap Syr Elidir (fl. 1425 - 1456). Roedd yn arglwydd Dinefwr a stiward lleol i Frenin Lloegr yn yr ardal. Fe'i ystyrir y gŵr mwyaf ei allu a'i awdurdod yn ne-orllewin Cymru yn ei gyfnod.

Gruffudd ap Nicolas
Ganwyd15 g Edit this on Wikidata
Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnoddwr y celfyddydau Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaEisteddfod Caerfyrddin 1451, Lewys Glyn Cothi Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Daeth Gruffudd yn siryf Caerfyrddin yn 1436. Mae astudiaethau diweddar yn pwysleisio'r ffyrdd dichellgar a ddefnyddiodd i grynhoi awdurdod i'w ddwylo ei hun ac i ymgyfoethogi ar draul arglwyddi Seisnig absennol ac uchelwyr Cymreig fel ei gilydd (ond mewn hyn o beth roedd yn ddrych i'w ddosbarth yn yr oes ansefydlog honno). Ym mywgraffiad Syr Rhys ap Tomas, disgrifir Gruffudd fel,

"A man of hott, firie, and cholerrick spiritt; one whos counsells weare all in turbido, and therefore narurallie fitlie composed and framed for the times: verie wise he was, and infinitlie subtile and craftie, ambitiouse beyond measure, of a busie stirring braine."[1]

Tua'r flwyddyn 1451, cynhaliodd eisteddfod enwog yng Nghastell Caerfyrddin. Tyrrodd nifer o feirdd a cherddorion yno o bob cwr o Gymru i gystadlu, ond prif bwrpas yr eisteddfod oedd ad-drefnu rheolau Cerdd Dafod, yr hyn a wnaed gan y bardd Dafydd ab Edmwnd, enillydd y Gadair, a osododd allan y pedwar mesur ar hugain. Gruffudd ap Nicolas ei hun a feirniadodd, sy'n dangos ei fod yn gyfarwydd â gwaith y beirdd a'r traddodiad barddol Cymraeg.

Ymhlith y beirdd a ganodd glod Gruffudd ap Nicolas oedd Lewys Glyn Cothi, Gwilym ab Ieuan Hen, a Dafydd ab Edmwnd ei hun.

Llyfryddiaeth golygu

  • Ralph A. Griffiths, Syr Rhys ap Thomas and his Family (Gwasg Prifysgol Cymru, 1993). Cyfrol sy'n cynnwys pennod ar Gruffudd ap Nicolas a thestun The Life of Sir Rhys ap Thomas.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dyfynnir gan Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), tud. 528.