Günter Grass
Awdur Almaenig oedd Günter Grass (16 Hydref 1927 – 13 Ebrill 2015). Enillodd Wobr Nobel ym 1999.
Günter Grass | |
---|---|
Ganwyd | Günter Wilhelm Grass 16 Hydref 1927 Dinas Rydd Danzig, Gdańsk |
Bu farw | 13 Ebrill 2015 o haint Lübeck |
Man preswyl | Paris, Friedenau, Wewelsfleth, Behlendorf, Gdańsk, Düsseldorf |
Dinasyddiaeth | Dinas Rydd Danzig, yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | awdur geiriau, sgriptiwr, bardd, cerflunydd, nofelydd, dramodydd, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, arlunydd, arlunydd graffig, gweinydd allor, darlunydd, llenor, gwneuthurwr printiau, ffotograffydd, arlunydd, libretydd |
Adnabyddus am | Y Drwm Tun, Cath a Llygoden, Blynyddoedd y Cwn, En crabe, Was gesagt werden muss, Die Rättin, Letzte Tänze, Galwad y Llyffant |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen |
Priod | Anna Schwarz, Ute Grass, Anna Grass |
Plant | Helene Grass |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Gwobr Georg Büchner, Hermann Kesten, Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias, Gwobr Hans Fallada, Gwobr Samuel-Bogumil-Linde, Fontane-Preis, Ernst-Toller-Preis, gwobr llenyddiaeth academi y celfyddydau cainBafaria, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rydd Berlin, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Gdańsk, Carl-von-Ossietzky-Medaille, Gwobr Thomas-Mann, honorary doctor of the Adam Mickiewicz University in Poznań, honorary doctor of the University of Lübeck, honorary citizen of Gdańsk, Deutscher Kritikerpreis, Theodor Heuss Award, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Pipe Smoker of the Year, H.C. Andersen Award, Grinzane Cavour Prize, Medaille für Kunst und Wissenschaft (Hamburg), Q105870591, Eckart Witzigmann Prize, doctor honoris causa, Fritz Bauer Prize |
Gwefan | https://www.grass-stiftung.de/ |
llofnod | |
Bywyd Cynnar
golyguFe'i ganwyd yn Danzig (Gdansk), Gwlad Pwyl heddiw. Magwyd ef ar aelwyd Gatholig i deulu a gadwodd siop yn Danzig. Aeth i'r ysgol leol, y "Gymnasium Conradinum" pan ddechreuodd y rhyfel tra oedd yn 12 oed ym 1939. Yn 15 oed ceisiodd ymuno â'r llynges, ond yn lle hyn aeth i weithio ar y tir. Cafodd ei gonsgriptio yn 17 oed yn Nhachwedd 1944 ac aeth i Dresden lle rhoddwyd e yn y Waffen-SS. Byr oedd ei wasanaeth milwrol ac fe'i anafwyd gan yr Americanwyr yn Ebrill 1945 ac aeth yn garcharor rhyfel.
Symudodd y teulu i Orllewin yr Almaen wedi'r rhyfel; hyfforddodd fel saer maen cyn astudio i fod yn gerflunydd yn Kunstakademie Düsseldorf a'r Universität der Künste Berlin. Wedi priodi yn 1954 dechreuodd ddod yn awdur amlwg.
Gyrfa fel Awdur
golyguDaeth yn enwog wedi cyhoeddi Die Blechtrommel (Y Drwm Tun) - hunangofiant bachgen o Wlad Pwyl, Oskar Mazerath, nofel a ddaeth yn drioleg yn nes ymlaen. Hunangofiannol yw ei waith cynnar. Y Vergangenheitsbewältigung neu 'dod i delerau a'r gorffennol' yw thema mawr llawer o'r gwaith. Yn y 70au trodd yn wleidyddol ac ymaelododd a'r SPD er mwyn cefnogi ethol Willy Brandt - roedd yn ofalus iawn a cheir blas ei wleidyddiaeth 'araf' yn (Aus dem Tagebuch einer Schnecke).
Roedd yn weithgar yn y mudiad heddwch drwy'r 80au a dyna sail "Zunge Zeigen". O 1983 i 1986 roedd yn llywydd y Berlin Akademie der Künste (Academi Celf Berlin). Enillodd lawer o wobrau gan gynnwys ym 1993: Cymrodoriaeth y Royal Society of Literature ym Mhrydain. Ym 1999 enillodd y Wobr Nobel am Lenyddiaeth. Yn yr unfed ganrif ar hugain daeth ei aelodaeth o'r Waffen SS i'r amlwg ac fe'i beirniadwyd gan rai yn hallt.
Llyfryddiaeth
golygu- Die Vorzüge der Windhühner (cerddi, 1956)
- Die bösen Köche. Ein Drama (drama, 1956) "Y cogyddion drygionus"
- Hochwasser. Ein Stück in zwei Akten (drama, 1957) Y Llanw
- Onkel, Onkel. Ein Spiel in vier Akten (drama, 1958) Mister, Mister
- Danziger Trilogie
- Die Blechtrommel (1959)
- Katz und Maus (1961) yn y Gymraeg
- Hundejahre (1963)
- Gleisdreieck (cerddi, 1960)
- Die Plebejer proben den Aufstand (drama, 1966) trans. Y Plebeiaid yn paratoi'r gwrthryfel (1966)
- Ausgefragt (cerddi, 1967)
- Über das Selbstverständliche. Reden - Aufsätze - Offene Briefe - Kommentare (traethodau, darlithiadau, 1968)
- Örtlich betäubt (1969)
- Davor (drama, 1970)
- Aus dem Tagebuch einer Schnecke (1972)
- Der Butt (1979)
- Das Treffen in Telgte (1979)
- Kopfgeburten oder Die Deutschen sterben aus (1980)
- Widerstand lernen. Politische Gegenreden 1980–1983 "areithiau gwleidyddol"
- Die Rättin (1986)
- Zunge zeigen. Ein Tagebuch in Zeichnungen (1988)
- Unkenrufe (1992)
- Ein weites Feld (1995)
- Mein Jahrhundert (1999)
- Im Krebsgang (2002)
- Letzte Tänze (2003)
- Beim Häuten der Zwiebel (2006) Cyfrol gyntaf ei hunangofiant.
- Dummer August (cerddi, 2007)
- Die Box (2008) Ail gyfrol ei hunangofiant.
- Grimms Wörter (2010) Trydedd gyfrol ei hunangofiant.
Cyfeiriadau
golygu- Nodiadau Nobel (amlieithog)
- Llinell amser
- Bywgraffyddol Archifwyd 2004-01-04 yn y Peiriant Wayback
- Grass a Gdansk
- Grass yn y Waffen-SS, erthygl The Guardian