Mae'r Gweilch (Saesneg: Ospreys) yn o bedwar tîm rygbi'r undeb proffesiynol yng Nghymru, ac sy'n chwarae yng nghreiriau Guinness Pro14 a Chwpan Heineken. Ar ddechrau'r tymor 2005-06 fe unodd dau glwb (Abertawe a Nedd) a newidiwyd enw'r rhanbarth o 'Gweilch Tawe Nedd' i'r enw presennol; er hynny, mae enw'r cwmni sy'n rhedeg y Gweilch yn parhau i fod yn 'Gweilch Tawe-Nedd'.

Y Gweilch
Delwedd:Ospreys rugby.png
UndebUndeb Rygbi Cymru
Sefydlwyd2003; 21 blynedd yn ôl (2003)
LleoliadAbertawe, Cymru
Maes/yddStadiwm Swansea.com (Nifer fwyaf: 20,750)
HyfforddwrToby Booth
Mwyaf o gapiauDuncan Jones (200)
Sgôr mwyafDan Biggar (1188)
Mwyaf o geisiadauShane Williams (57)
Cynghrair/auGuinness Pro14
2016–174ed
Lliwiau cartref
Lliwiau oddi cartref
Gwefan swyddogol
www.ospreysrugby.com

Rhanbarthau Rygbi Cymru

Rygbi Caerdydd
Caerdydd
Y Scarlets
Llanelli
Y Gweilch
Abertawe
Castell-
Nedd
Y Dreigiau
Casnewydd

Hanes y Rhanbarth golygu

Mae'r Gweilch yn un o'r pum rhanbarth gwreiddiol yn hanes rygbi rhanbarthol Cymru. Yn 2003, penderfynodd Undeb Rygbi Cymru newid lefel uchaf rygbi Cymru o naw clwb i bum rhanbarth, yn dilyn llwyddiant system felly yn Iwerddon, Seland Newydd, Awstralia a De Affrica. Roedd yn benderfyniad dadleuol ar y pryd, gyda llawer o gefnogwyr yn erbyn y newidiadau.

Ffurfiwyd y Gweilch drwy gyfuno tîmoedd Abertawe a Chastell-Nedd. Mae'r ddau dîm yn berchen ar bobi hanner o glwb y rhanbarth. Yn swyddogol mae'r Gweilch yn cynrychioli ardaloedd Abertawe, Castell-Nedd, Port Talbot ac Aberafan. Yn haf 2004, oherwydd diddymiad rhanbarth y Rhyfelwyr Celtaidd, ymunodd ardal Pen-y-bont â rhanbarth Y Gweilch.

Wedi problemau yn ystod y tymor cyntaf oherwydd cyfuno dau glwb â chymaint o hanes ganddynt, y Gweilch yw'r unig rhanbarth llwyddiannus a ffurfiwyd o gyfuno dau glwb wedi diddymiad y Rhyfelwyr Celtaidd a gwerthiant cyfrannau clwb rygbi Glyn Ebwy yn Nreigiau Casnewydd-Gwent i glwb rygbi Casnewydd. Gyda'r garfan gwreiddiol gwannaf o'r pum rhanbarth dechreuol (yn enwedig o safbwynt dyfnder talent y garfan) fe lwyddodd y tîm i ennill lle yng Nghwpan Heineken ar ôl gorffen y tymor uwchben Gleision Caerdydd yn y Cynghrair Celtaidd.

Yn eu hail dymor, gyda rhai chwaraewyr yn ymuno oddi wrth y Rhyfelwyr Celtaidd, fe lwyddodd y Gweilch ennill y Cynghrair Celtaidd uwchben Munster. Yn eu trydydd tymor, bu anafiadau'n ffactor pwysig i esbonio methiant y clwb i gyrraedd ail rowndiau Cwpan Heineken a'r Cwpan Eingl-Gymreig, a hefyd eu safle terfynol y tymor hwnnw yn y cynghrair Celtaidd, lle orffennon nhw yn seithfed yn y tabl.

Yn Ebrill 2006 fe ymunodd Justin Marshall (cyn-chwaraewr Seland Newydd) â'r Gweilch. Enillodd y Gweilch y Cynghrair Celtaidd am yr ail dro yn y tymor 2006/07 ac am y trydydd tro yn nhymor 2009/10.

Cartref golygu

Yn ystod dau dymor cyntaf y Gweilch fe chwaraeodd y rhanbarth hanner eu gemau cartref ar barc Sain Helen, Abertawe a'r hanner arall ar y Gnoll, Castell-nedd. Er i glwb rygbi Penybont ymuno â'r rhanbarth yn y trydydd tymor, nid yw'r rhanbarth wedi chwarae unrhyw gemau ar faes y Bragdy ym Mhenybont.

Adeiladwyd stadiwm newydd ar gyfer trydydd tymor y Gweilch. Mae Stadiwm Liberty, Abertawe yn cael ei rannu rhwng clwb Pêl-droed Abertawe a'r Gweilch ac mae'n gallu dal 20,000 o gefnogwyr. Ar ddiwedd tymor cyntaf y Gweilch yn y stadiwm, y torf uchaf oedd 15,183 yn erbyn Scarlets Llanelli yn y Gynghrair Celtaidd.

Pencampwriaethau golygu

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu