Cantref yn ne-ddwyrain Cymru'r Oesoedd Canol oedd Gwent Uwch Coed (hefyd weithiau Gwent Uwch-coed). Gyda chantref Gwent Is Coed roedd yn un o ddau gantref ar diriogaeth hen deyrnas Gwent.

Roedd coedwig fawr Coed Gwent yng nghanol yr hen deyrnas yn ei rhannu'n ddwy uned naturiol ac felly fe'u gelwid yn Went Uwch Coed a Gwent Is Coed. Gwent Uwch Coed oedd y mwyaf o'r ddau gantref o ran ei arwynebedd ond y lleiaf ei boblogaeth. Gorweddai i'r gogledd o Goed Gwent. Ffiniai â chantref Gwent Is Coed i'r de, Gwynllŵg i'r gorllewin, Brycheiniog ac Ewias Lacy i'r gogledd, a hen deyrnas a chantref Ergyng i'r dwyrain (rhan o Swydd Henffordd yn ddiweddarach).

Nodweddid Gwent Uwch Coed gan nifer o lannau ac eglwysi bychain. Arhosodd yr ardal yn gadarnle i'r Cymry lleol ar ôl i Went gael ei goresgyn gan y Normaniaid erbyn y 1070au. Er ei bod dan reolaeth y Normaniaid ar ôl hynny roedd y gymdeithas Gymreig wedi goroesi ac roedd gwŷr Gwent Is Coed yn barod iawn i gefnogi'r tywysogion Cymreig yn erbyn y Normaniaid a'r Saeson.

Rhennid y cantref yn dri chwmwd, sef Abergefenni, Teirtref a Threfynwy.

Gweler hefyd

golygu