Gwesty'r Angel, Caerdydd
Gwesty yw Gwesty'r Angel mewn lleoliad amlwg ar gornel Stryd y Castell/Heol y Porth yng nghanol Caerdydd. Am ran helaeth o'i fodolaeth roedd yn un o brif westai'r ddinas, wedi ei ymweld gan enwogion a phrif weinidogion.[1]
Math | gwesty |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4808°N 3.183°W |
Cod post | CF10 1SZ |
Hanes
golyguHonnir fod Gwesty'r Angel wedi bodoli yng Nghaerdydd ers 1666[2] ond mae'n sicr ei fod yno ers yr 18g mewn lleoliad gyferbyn porth Castell Caerdydd ar stryd oedd a'r enw Stryd yr Angel bryd hynny,[3] a ddim yn bell o'i leoliad presennol. O tua 1782 roedd yn cael ei redeg gan John Bradley, o deulu oedd wedi gwneud eu harian o rasio ceffylau.[4] Roedd Bradley yn bostfeistr a chludwr post i Gaerdydd. Gwesty'r Angel oedd pen daith coets y post dyddiol o Lundain a Bryste.[2]
Canrif yn ddiweddarach roedd angen llydanu'r ffordd o flaen Castell Caerdydd. Adeiladwyd gwesty newydd ar ddiwedd y stryd i gymryd lle'r hen Westy'r Angel a'r hen Westy'r Arfau (oedd wedi ei ddymchwel). Prynwyd y plot gan Gorfforaeth Caerdydd o Marcwis Bute am swm enwol a dyluniwyd gwesty newydd gan "Mr C.J. Jackson" mewn arddull 'Dadeni Seisnig'. Adeiladwyd y gwesty gan gwmni Jackson yn llwyr mewn briciau coch a wnaed gan Waith Briciau Ystâd Bute am gost o dros £20,000.[5] Roedd wedi ei addurno, dodrefnu ac yn barod am westai erbyn Gorffennaf 1883.[6] Dyluniwyd logo'r gwesty newydd, a ddefnyddiwyd ar arwyddion a'r llestri, gan Marcwis Bute, yn cyfeirio at y ddau westy blaenorol drwy gyfuno angel yn dal arfbais Caerdydd.[6]
Lleolwyd mynedfa portico'r adeilad newydd ar gornel weladwy'r safle. Roedd gan y gwesty 76 stafell wely, bariau, stafell biliards a neuadd hecsagonaidd uchder llawn yn llenwi'r tu mewn gyda golau ddydd drwy nen lamp gwydr.[5] Roedd gan y prif ofod, y stafell goffi mawr ar y llawr cyntaf, olygfeydd godidog o'r wlad oddi amgylch. Roedd yn arwain at falconi uwchben y fynedfa oedd wedi ei fwriadu ar gyfer yr Aelod Seneddol lleol i "gyfarch ei etholwyr pan oedd rhaid iddo ddiolch iddynt am ei ethol".[5]
Fe addaswyd yr hen Westy'r Angel i swyddfeydd ar gyfer Ystâd Bute.[5] Yn y 1930au fe ddymchwelodd hen wyneb 18g yr adeilad wrth i waith atgyweirio gael ei wneud. Fe'i hail-adeiladwyd, ac er ei fod yn atgynhyrchiad, cafodd ei restru gyda Gradd II yn 1975.[3]
Ar droad yr 20g roedd Gwesty'r Angel wedi ei berchen gan gwmni'r Arglwyddes Honywood, Gwestai Honywood gyda phrydles gan yr entrepreneur gwestai Elizabeth Miles, a adeiladwyd wyneb newydd i'r adeilad.[7]
Parhaodd y Gwesty'r Angel newydd yn lety pwysig i wleidyddion ac enwogion, yn cynnwys Greta Garbo, y Beatles[1] a'r actor Anthony Perkins (a arestiwyd yn y gwesty yn 1989 ar ôl i becyn o ganabis a bostiwyd iddo'i hunan gael ei roi i westai arall mewn camgymeriad).[8]
21ain ganrif
golyguYn y 1990au a'r 2000au daeth Gwesty'r Angel yn llety llai pwysig wrth i nifer o westai modern gael eu hadeiladu yng nghanol y ddinas a Bae Caerdydd. Fe'i hadnewyddwyd yn 2000.[1]
Yn 2012, daeth Jo McElveen yn Rheolwraig Gyffredinol y gwesty, ar ôl cychwyn fel gweinyddes yn y gwesty 14 mlynedd ynghynt.[9][10]
Mae'r gwesty yn rhan o gwmni The Hotel Collection (Puma Hotels Collection/Barcelo Hotels ynghynt). Mae ganddo 102 stafell wely.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Porter, Darwin; Prince, Danforth (2004), Frommer's Great Britain, Wiley Publishing, p. 694, ISBN 0-7645-3823-3, https://books.google.co.uk/books?id=jMPEIqbVFTIC&pg=PA694#v=onepage&q&f=false
- ↑ 2.0 2.1 Wells, Martin (5 Rhagfyr 2013). "Brian Lee recalls the illustrious history of one of Cardiff's legendary coaching inns". Wales Online. Cyrchwyd 24 Mai 2015.
- ↑ 3.0 3.1 "Nos.1&3 Castle Street, Castle". British Listed Buildings. Cyrchwyd 24 Mai 2015.
- ↑ Childs, Jeff (2012) (e-Book), Roath, Splott and Adamsdown: One Thousand Years of History, The History Press, p. 98, https://books.google.co.uk/books?id=nnQ7AwAAQBAJ&pg=PT98#v=onepage&q&f=false
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 "The New Angel Hotel, Cardiff". Western Mail. 13 Mehefin 1883. t. 3. Cyrchwyd 24 Mai 2015 – drwy British Newspaper Archive.
- ↑ 6.0 6.1 "The New Angel Hotel, Cardiff". Western Mail. 9 Gorffennaf 1883. t. 3. Cyrchwyd 24 Mai 2015 – drwy British Newspaper Archive.
- ↑ Griffiths, Richard (2010), The Entrepreneurial Society of the Rhondda Valleys, 1840-1920, Gwasg Prifysgol Cymru, pp. 90, 92, ISBN 978-0-7083-2291-8, https://books.google.co.uk/books?id=JEyuBwAAQBAJ&pg=PA92#v=onepage&q&f=false
- ↑ "As Alfred Hitchcock opens we look back on Psycho star's Welsh hotel horror". Wales Online. 8 Chwefror 2013. Cyrchwyd 24 Mai 2015.
- ↑ Barry, Sion (4 Gorffennaf 2012). "Former waitress appointed as general manager at The Angel Hotel, Cardiff". Wales Online. Cyrchwyd 24 Mai 2015.
- ↑ Woodrow, Emily (21 December 2012). "Meet the real 'angel' of The Angel Hotel in Cardiff". Wales Online. Cyrchwyd 24 Mai 2015.
- ↑ "The Angel Hotel, Cardiff". TheHotelCollection.co.uk. Cyrchwyd 24 Mai 2015.