Gwrth-gomiwnyddiaeth

(Ailgyfeiriad o Gwrth-gomiwnyddion)

Gwrthwynebiad i'r ideoleg wleidyddol ac economaidd comiwnyddiaeth yw gwrth-gomiwnyddiaeth. Mae nifer o wrth-gomiwnyddion yn gwrthwynebu damcaniaeth gomiwnyddol, gan gynnwys syniadau Marcsiaeth, Leniniaeth, Maoaeth, a Stalinaeth, yn ogystal ag effeithiau a chanlyniadau llywodraethau comiwnyddol. Ymysg y beirniadaethau yw natur dotalitaraidd llywodraethau comiwnyddol a throseddau yn erbyn dynoliaeth ganddynt.

Cartŵn gwrth-gomiwnyddol a gyhoeddwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn ystod Rhyfel Corea (1952).

Ceir gwrth-gomiwnyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Ar yr adain chwith, mae nifer o sosialwyr yn beirniadu comiwnyddiaeth gan ei bod yn wrth-ddemocrataidd. Mae rhai anarchwyr a rhyddewyllyswyr yn gweld comiwnyddiaeth yn "unbennaeth y werin" ac yn ei beirniadu o safbwynt unigolyddol. Mae ceidwadwyr a chyfalafwyr yn gwrthwynebu seiliau economaidd damcaniaeth gomiwnyddol, megis ailddosbarthu cyfoeth. Roedd gwrth-gomiwnyddiaeth yn un o brif ddaliadau Natsïaeth a mudiadau ffasgaidd eraill, a nifer o ffasgwyr yn pwysleisio cyswllt honedig comiwnyddiaeth, Bolsieficiaeth yn enwedig, â'r Iddewon. Daw wrth-gomiwnyddiaeth hefyd o safbwynt crefyddol, er enghraifft yr Eglwys Gatholig.

Roedd gwrth-gomiwnyddiaeth ar ei hanterth yn ystod Chwyldro Hydref, oes ffasgiaeth yn Ewrop yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd a'r Ail Ryfel Byd, ac y Rhyfel Oer: yn wir, unrhyw adeg roedd comiwnyddiaeth ar ei hanterth.

Gweler hefyd

golygu