Gwrthdrawiad Trên Talerddig

damwain trên ym Mhowys, Cymru

Ar 21 Hydref 2024 gwrthdrawodd dau drên a weithredid gan Drafnidiaeth Cymru ger dolen basio Talerddig, yng nghymuned Llanbrynmair, Powys.

Gwrthdrawiad Trên Talerddig
Enghraifft o'r canlynolgwrthdrawiad trên, gwrthdrawiad penben Edit this on Wikidata
Dyddiad21 Hydref 2024 Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
LleoliadTalerddig Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthPowys Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y ddamwain

golygu

Am 19:26 ar 21 Hydref 2024,[1] bu dau trên teithwyr mewn gwrthdrawiad benben tua 800 metr i'r gorllewin o ddolen basio Talerddig, yng nghymuned Llanbrynmair, Powys. Y ddau drên dan sylw oedd yr 18:31 o Amwythig i Aberystwyth, a'r 19:09 o Fachynlleth i Amwythig. Aethpwyd â 15 o bobl i'r ysbyty gydag anafiadau, pedwar ohonynt yn ddifrifol, ond ni ddisgrifiwyd unrhyw un fel rhai oedd yn bygwth bywyd neu newid bywyd. Bu farw un teithiwr yn fuan ar ôl y ddamwain;[2] adroddwyd y bu farw o drawiad ar y galon.[3] Fe adroddwyd hefyd y llwyddodd y gyrrwr mewn un o'r trenau i rybuddio'i deithwyr o'r gwrthdrawiad eiliadau cyn iddo ddigwydd.[4] Yn ôl ffynonellau swyddogol, cyflymder y trên a oedd yn symud oedd 15 mya pan darodd e'r trên arall.[1]

Unedau Dosbarth 158 DMU (Uned Lluosog Dîsel) oedd y ddau drên. Digwyddodd y ddamwain pan nid oedd y gwasanaeth i'r gorllewin (Amwythig-Aberystwyth) yn gallu stopio wrth y ddolen basio yn Nhalerddig. Tarodd e'r trên a oedd am deithio i'r dwyrain yn syth wedyn, nad oedd yn symud ar y pryd.[5]

Ymateb

golygu

Roedd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i gyd yn bresennol yn y fan a'r lle yn dilyn y digwyddiad, ynghyd â hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru a Gwylwyr y Glannau EF,[4][5] a chafodd ffordd yr A470 ei chau dros dro. Daethpwyd â bysiau i safle'r gwrthdrawiad i gludo'r teithwyr ymlaen at eu cyrchfannau priodol. Datganodd Trafnidiaeth Cymru y byddai Rheilffordd y Cambrian yn cau rhwng Amwythig a Machynlleth am dridiau o leiaf.[6][7]

Ymchwiliad

golygu

Anfonwyd tîm o ymchwilwyr i safle'r ddamwain gan yr RAIB (Saesneg: Rail Accident Investigations Branch, Cymraeg: Cangen Ymchwilio Damweiniau Rheilffordd), sef y corff sy'n gyfrifol am ymchwilio digwyddiadau diogelwch ar y rheilffyrdd ym Mhrydain. Agoron nhw ymchwiliad ffurfiol ar 22 Hydref.[8][9] Canfu archwiliadau cychwynnol y RAIB tystiolaeth o adlyniad gwael ar y lein yn ardal y ddamwain, gan gyflwyno'r posibilrwydd y gallai'r trên wedi llithro ar hyd y cledrau wrth i'r gyrrwr geisio gweithredu'r brêc.[1]

Cefndir

golygu

Lein undrac ydy Rheilffordd y Cambrian, gyda threnau'n defnyddio dolennau pasio, sef adrannau byr o drac dwbl, i basio eu gilydd, gan gynnwys yr un yn Nhalerddig. Mae'r system hwn yn caniatáu gwasanaethau amlach yn y ddau gyfeiriad. Fel arfer, mae'r trên cyntaf i gyrraedd y ddolen yn stopio wrthi, tra bod trên arall yn pasio heibio ar y trac cyflin. Os ydy trên yn rhedeg yn hwyr, bydd rhaid i'r trên cyntaf aros yno nes i'r ail gyrraedd y ddolen hefyd. Lleolir Dolen Basio Talerddig rhwng gorsafoedd Machynlleth a Chaersŵs.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 RAIB (22 Hydref 2024). "Collision of two passenger trains at Talerddig, Powys, Wales". GOV.UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Hydref 2024.
  2. "Dyn fu farw mewn damwain trên ym Mhowys wedi ei enwi". Newyddion y BBC. 23 Hydref 2024. Cyrchwyd 22 Hydref 2024.
  3. "Datganiad wedi'i ddiweddaru ar ddigwyddiad y rheilffordd - Llanbrynmair". Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. 22 Hydref 2024. Cyrchwyd 23 Hydref 2024.
  4. 4.0 4.1 Davies, Dylan (21 Hydref 2024). "One dead, 15 injured following two-train collision on Cambrian Line". Cambrian Times. Cyrchwyd 22 Hydref 2024.
  5. 5.0 5.1 Stubbings, David (22 Hydref 2024). "Man dies and 15 people injured after mid Wales train crash involving two Transport for Wales services". Rail. Bauer Consumer Media. Cyrchwyd 22 Hydref 2024.
  6. Network Rail [@NetworkRailWAL] (22 Hydref 2024). "An update from Network Rail and Transport for Wales following the incident near Llanbrynmair in Powys, Mid Wales, on Monday evening" (Trydariad) – drwy Twitter.
  7. Stubbings, David (22 Hydref 2024). "Mid-Wales train crash: Poor rail adhesion found on track approaching site of head-on collision". Rail. Bauer Consumer Media Ltd. Cyrchwyd 25 Hydref 2024.
  8. Rail Accident Investigation Branch [@raibgovuk] (22 Hydref 2024). "RAIB deployed a team last night to the site of the collision between two passenger trains at Tallerddig #Powys Our inspectors remain on site today and are working to gather evidence" (Trydariad) – drwy Twitter.
  9. Rail Accident Investigation Branch [@raibgovuk] (22 Hydref 2024). "We have launched an investigation into the collision of two passenger trains at Tallerddig #Powys yesterday. Last night we deployed a team of inspectors to the accident site. They remain on site and are working to gather evidence to understand what caused this tragic accident" (Trydariad) – drwy Twitter.