Molecwl gyda'r gallu i atal ocsidiad molecylau eraill ydyw gwrthocsidydd. Adwaith gemegol yw ocsidio, sy'n trosglwyddo electronau o sylwedd i ocsidydd. Mae adweithiau ocsidio yn creu radicalau rhydd. Yn eu tro, mae radicalau rhydd yn dechrau adweithiau cadwyn sydd â'r gallu i niweidio celloedd. Mae gwrthocsidyddion yn dwyn yr adweithiau cadwyn i ben trwy diddymu'r rhyngolion radical-rhydd, ac yn atal adweithiau ocsidio eraill. Wrth wneud hyn, caent eu hocsidio eu hunain, felly mae gwrthocsidyddion yn aml yn rhydwythyddion megis thiolau, asid asgorbig neu polyffenolau.[1]

Model gofodol o glwtathion, metabolyn gwrthocsidol. Mae'r sffêr melyn yn cynrychioli'r atom sylffwr sy'n weithredol mewn adweithiau rhydocs ac yn gyfrifol am yr effaith wrthocsidol, tra bo'r sfferau coch, glas, gwyn a llwyd yn cynrychioli ocsigen, nitrogen, hydrogen a charbon yn ôl eu trefn.

Er bod adweithiau ocsidio yn angenrheidiol ar gyfer bywyd, gallent hefyd fod yn niweidiol; mae planhigion ac anifeiliaid yn cynnal systemau cymhleth â gwahanol fathau o wrthocsidyddion felly, megis glutathione, fitamin C, a fitamin E yn ogystal ag ensymau megis catalas, dismwtas swperocsid a gwahaol fathau o berocsidas. Gall lefelau isel o wrthocsidyddion, neu atal ensymau gwrthocsidio, achosi straen ocsidol a niweidio neu lladd celloedd.

Mae gwrthocsidyddion yn cael eu hastudio'n ddwys ym maes ffarmacoleg, yn enwedig felly fel darpar driniaeth ar gyfer strôc ac afiechydon a achoswyd gan ddirywiad niwronau, oherwydd y gall straen ocsidol fod yn rhan bwysig o sawl afiechyd dynol. Gwaetha'r modd, ni wyddys a yw straen ocsidol yn achos neu'n ganlyniad i afiechyd.

Defnyddir gwrthocsidyddion yn aml mewn tabledi maeth gan obeithio cynnal iechyd ac atal afiechydon megis cancr, clefyd coronaidd y galon a chlefyd uchder hyd yn oed. Er i ymchwil cychwynnol awgrymu y gall ychwanegion gwrthocsidol fod yn llesol, methodd profion clinigol diweddarach â dangos unrhyw les, gan ddangos i'r gwrthwyneb, y gall gormodedd o wrthocsidyddion fod yn niweidiol.[2][3] Yn ogystal â'r defnydd o wrthocsidyddion naturiol mewn meddygaeth, mae gan y sylweddau hyn ddibenion diwydiannol, megis fel cadwolion bwyd a cholur, ac er mwyn atal dirywiad rwber a gasolin.

Hanes golygu

Fel rhan o'u haddasiad o fywyd morol, dechreuodd planhigion daearol gynhyrchu gwrthocsidyddion anforol megis asid asgorbig (Fitamin C), polyffenolau, fflafonoidiau a tocofferolau. Cynhyrchodd datblygiad pellach o blanhigion angiosberm rhwng 50 a 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn enwedig yn ystod y cyfnod Jwrasig, lawer o liwurau gwrthocsidydd a esblygodd yn ystod y cyfnod Jwrasig hwyr fel amddiffyniad cemegol yn erbyn rhywogaethau ocsigen adweithiol a gynhyrchir yn ystod ffotosynthesis.[4][5] Defnyddiwyd y term gwrthocsidydd yn wreiddiol i gyfeirio yn benodol at gemegyn sy'n atal y defnydd o ocsigen. Ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20g, gwnaed astudiaeth helaeth o ddefnydd gwrthocsidyddion mewn prosesau diwydiannol pwysig, megis atal cyrydu metel, y fwlcaneiddio rwber, a'r polymeru tanwydd sy'n gyfrifol am faeddu peiriannau tanio tu mewn.[6]

Canolbwyntiodd ymchwil cynnar ar rôl gwrthocsidyddion mewn bioleg ar eu defnyddio i atal ocsidiad brasterau annirlawn, sy'n achosi suro. [7] Gall weithgaredd gwrthocsidydd cael ei fesur yn syml trwy osod braster mewn cynhwysydd caeëdig gydag ocsigen a mesur y gyfradd defnyddio ocsigen. Fodd bynnag, y digwyddiad wnaeth chwyldroi'r maes oedd adnabod fitaminau A, C, ac E fel gwrthocsidyddion, a alluogodd i bobl sylweddoli pwysigrwydd gwrthocsidyddion mewn biocemeg organebau byw. [8][9]

Dechreuwyd ymchwilio i fecanweithiau gweithredu posib gwrthocsidyddion, wrth sylweddoli fod sylwedd gwrthocsidol yn debygol o fod yn sylwedd sy'n hawdd ei ocsidio ei hun.[10] Dangosodd ymchwil i sut mae fitamin E yn atal y broses o perocsidio brasterau fod gwrthocsidyddion yn asiantau rhydwytho sy'n atal adweithiau ocsidio, yn aml trwy ddwyn rhywogaethau ocsigen adweithiol cyn eu bod yn gallu difrodi celloedd.[11]

Mewn bwydydd golygu

Fe wyddom yn sicr fod a wnelo straen ocsideiddio (yn y corff dynol) rywbeth â chlefydau; ond nid yw gwyddoniaeth hyd yma'n deall yn iawn ai'r stres hwn sy'n achosi clefydau megis strôc neu ai canlyniad i'r clefyd ydyw. Mae llawer o waith yn cael ei wneud led-led y byd yn y maes hwn ar hyn o bryd.

Ychwanegir llawer o wrthocsidyddion i fwydydd gwahanol gyda'r gobaith ei fod yn ein cadw'n iach ac yn atal clefydau megis cancr a phroblemau'n ymwneud â'r galon. Mae canlyniadau'r treialon gwyddonol yn amrywio: rhai'n dweud fod yr ychwanegiadau'n help a'r lleill yn dweud nad oes wahaniaeth, neu hyd yn oed yn niweidiol.[12]

Mae'n bosib fod defnydd arall i wrthocsidyddion ar wahân i'r defnydd meddygol hwn, sef er mwyn cadw bwyd yn ffres, hynny yw i gadw bwyd a chosmetigau ac i ymestyn oes defnyddiau megis rwber a phetrol.

Cyfansoddion Gwrthocsidant Bwydydd sy'n cynnwys lefelau uchel o wrthocsidyddion[13][14]
Fitamin C (asid ascorbig) Ffrwythau a llysiau
Fitamin E (tocopherols, tocotrienols) Olew llysiau
Gwrthocsidants Polyphenolig (resveratrol, flavonoidau) Te, coffi, soia, ffrwythau, olew olewydd, siocled, sinamon, oregano a gwin coch[15].
Carotenoidau (lycopene, carotenes) Ffrwythau a llysiau

Cyfeiriadau golygu

  1. Sies H (1997). Oxidative stress: oxidants and antioxidants, Exp Physiol, Cyfrol 82, Rhifyn 2, tud. 291–5. 9129943. URL
  2. Baillie, J K (2009-03-09). Oral antioxidant supplementation does not prevent acute mountain sickness: double blind, randomized placebo-controlled trial, QJM: Monthly Journal of the Association of Physicians, Cyfrol 102, Rhifyn 5, tud. 341–8. DOI:10.1093/qjmed/hcp026. 19273551. URL
  3. Bjelakovic G (2007). Mortality in randomized trials of antioxidant supplements for primary and secondary prevention: systematic review and meta-analysis, JAMA, Cyfrol 297, Rhifyn 8, tud. 842–57. DOI:10.1001/jama.297.8.842. 17327526
  4. Evolution of dietary antioxidants
  5. Environmental iodine deficiency: A challenge to the evolution of terrestrial life?. DOI:10.1089/10507250050137851
  6. {{{teitl}}}. DOI:10.1146/annurev.bi.16.070147.001141
  7. Food processing and lipid oxidation
  8. Three eras of vitamin C discovery
  9. Knight J (1998). Ann Clin Lab Sci 28 (6): 331–46. PMID 9846200.
  10. Moreau a Dufraisse, (1922) Comptes Rendus et des Séances atgofion yn de la Société de Biologie, 86, 321.
  11. The discovery of the antioxidant function of vitamin E: the contribution of Henry A. MattillURL
  12. Awdur:Bjelakovic G, yn ei erthygl 'Mortality in randomized trials of antioxidant supplements for primary and secondary prevention: systematic review and meta-analysis.' a gyhoeddwyd gan JAMA, cyfrol 297, rhif 8, tudalen 842–57; blwyddyn: 2007
  13. Gweler: 'Antioxidants and Cancer Prevention: Fact Sheet' a gyhoeddwyd gan 'National Cancer Institute'
  14. Gweler gwaith Ortega RM; 'Importance of functional foods in the Mediterranean diet' a gyhoeddwyd yn Health Nutr, cyfrol 9, rhif 8A, tudalen 1136–40 yn 2006
  15. [1] Archifwyd 2013-04-14 yn y Peiriant Wayback. sef 'Which wines have the most health benefits' gan Félicien Breton, 2008
  Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.