Gwyddorau cymdeithas

(Ailgyfeiriad o Gwyddor cymdeithasol)

Astudiaethau sy'n ymwneud ag agweddau cymdeithasol a diwylliannol bodau dynol yw'r gwyddorau cymdeithas. Perthnasau a chysylltiadau cymdeithasol rhwng unigolion a grwpiau yw canolbwynt y gwyddorau cymdeithas. Yn eu cwmpas mae anthropoleg ddiwylliannol a chymdeithasol, cymdeithaseg, seicoleg gymdeithasol, gwyddor gwleidyddiaeth, ac economeg. Yn aml cynhwysir hefyd daearyddiaeth gymdeithasol ac economaidd, agweddau cymdeithasol addysg, hanes, astudiaethau cymharol o'r gyfraith, a rheolaeth a busnes.

Datblygodd y ddisgyblaeth hon yn sgil dyfodiad y dull gwyddonol yn ystod oes yr Oleuedigaeth. Yn y 19g fe'i rhennir yn anthropoleg, gwyddor gwleidyddiaeth, seicoleg, a chymdeithaseg, a chafodd damcaniaethau eang effaith sylweddol ar y maes. Ymhlith enwau mawr y cyfnod hwn oedd Auguste Comte, Karl Marx a Herbert Spencer. yn yr 20g datblygodd methodoleg y gwyddorau cymdeithas yn sylweddol: ymchwil mesurol, ystadegaeth, empiriaeth, a chymwyso'r maes at ddefnydd ymarferol.[1]

Ers y 1950au defnyddir y term gwyddorau ymddygiad hefyd am yr un bynciau a gwmpasir gan y gwyddorau cymdeithas. Mae'r term hwn yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng y gwyddorau cymdeithas a'r gwyddorau bywyd sy'n ymwneud ag ymddygiad dynol, megis anthropoleg fiolegol a seicoleg ffisiolegol.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) social science, The Columbia Encyclopedia, 6ed argraffiad (Gwasg Prifysgol Columbia, 2016).
  2. (Saesneg) social science. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Ebrill 2016.


Gwyddorau cymdeithas
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg