Anthocharis cardamines
Gwryw, Wytham, Rhydychen
Benyw, Rosenfeld, yr Almaen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Rhaniad: Rhopalocera
Teulu: Pieridae
Llwyth: Anthocharini
Genws: Anthocharis
Rhywogaeth: A. cardamines
Enw deuenwol
Anthocharis cardamines
(Linnaeus, 10fed cyfrol: Systema Naturae, 1758)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyn blaen oren, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion blaen oren; yr enw Saesneg yw Orange-tip, a'r enw gwyddonol yw Anthocharis cardamines.[1][2] Boneddiges y wig yw enw arall arno.

Cafodd ei enw oherwydd y lliw oren llachar ar flaen adain yr oedolyn gwrywaidd. Mae i'w weld ledled Ewrop, Asia a Japan. Mae'r glöyn hwn ar gynnydd yn Iwerddon ac yn yr Alban, fwy na thebyg oherwydd cynhesu byd-eang.

Cylch bywyd golygu

Caiff yr wyau eu dodwy ar gefn dail teuluoedd y planhigyn Cardamine pratensis a mwstad (Alliaria petiolata). Hoff fwyd yr oedolyn ydy Hesperis matronalis. Mae'r wyau'n wyn am ychydig ddyddiau cyn troi'r oren ac yna'n tywyllu ychydig cyn deor. Mae bwyd y siani flewog yn gyfyngedig iawn i flodyn y blodau uchod, a dim ond un siani mae pob planhigyn yn medru ei chynnal. Os oes dau siani flewog yn deor, mae un yn bwyta'r llall; felly hefyd gyda'r wyau. Er mwyn atal hyn rhag digwydd, ar ôl dodwy, mae'r oedolyn yn chwistrellu fferomon ar y planhigyn, sy'n arwydd i oedolyn arall i gadw draw.

Mae'r siani'n troi'n chwiler ar ddechrau'r haf, ac yn ymddangos fel oedolyn y gwanwyn dilynol. Ar adegau, gall beidio ymddangos am gyfnod o ddwy neu dair blynedd - sy'n fodd i oroesi gaeafau caled.

Cynefin golygu

Caeau ac ymylon coedwigoedd tamp, glan yr afon, ffosydd, rhostiroedd, ymylon rheilffyrdd a llwybrau.

 
Enghraifft o gynefin yn yr Almaen.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyn blaen oren yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.