Glöyn byw
Gloÿnnod byw | |
---|---|
Llwydfelyn gwelw | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera (rhan) |
Teuluoedd | |
Uwchdeulu Hedyloidea |
- Am restr o löynod byw gweler yma. Am restr o dros 1,050 o erthyglau Cymraeg ar wyfynod a gloÿnnod byw, gweler yma.
Pryf gydag adenydd lliwgar sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn byw (hefyd: pili-pala, iâr fach yr haf neu blyfyn bach yr haf). Wedi deor o'i ŵy mae glöyn byw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac yn morffio'n chwiler cyn dod allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau gydag adenydd.
Mae'n perthyn i'r dosbarth Lepidoptera. Yn aml, mae ganddynt adenydd liiwgar, cymharol fawr. Yn y grŵp hwn ceir gwir loynnod byw (neu uwchdeulu / superfamily, sef Papilionoidea), y sgipwyr (uwchdeulu Hesperioidea) a'r gwyfyn-loynnod (uwchdeulu Hedyloidea). prin iawn y ceir ffosiliau, gan fod eu hadennydd mor denau a bregus, ond mae'r hyna'n mynd yn ôl i 40–50 miliwn o flynyddoedd CP.
Mae rhai gloÿnnod yn fudol h.y. yn teithio filoedd o filltiroedd dros yr haf; er enghraifft, Glöyn y llaethlys. Oherwydd eu gallu i forffio o un ffurf i ffurf arall, ac oherwydd harddwch eu lliw a'i ehediad, maent yn ddelwedd boblogaidd mewn llenyddiaeth. Ystyrir rhai ohonyn nhw'n bla gan eu bod yn bwyta llysiau ar gyfer y bwrdd bwyd, dro arall, mae'r lindys yn lladd rhywogaethau sy'n blâu.
Mewn ymchwiliad gan NERC (Natural Environment Research Council) yn 2004 datgelwyd fod gostyngiad o 71% wedi bod yn niferoedd y gloÿnnod byw yng ngwledydd Prydain rhwng 1983 a 2003.[1]
Geirdarddiad
golyguCofnodwyd y gair yn gyntaf yng Ngeiriadur Syr Thomas Wiliems Thesaurus Linguae Latinae Cambrobritannicae (1604-7). Y gair cyn hynny oedd ‘glöyn Duw’, fel a geir yng ngwaith Dafydd ap Gwilym yn y 14eg ganrif.
Rhywogaethau yng Nghymru
golyguUn o brif diriogaethau'r glöyn byw yng Ngogledd Cymru ydy Craig Euarth: rhwng Craig-adwy-wynt a Phwllglas 4 a hanner cilometr i'r de o Ruthun (Rhif cyfeirnod map OS Map: SS 122 542) lle gwelir 32 allan o'r 34 mathau sydd yng ngogledd Cymru.[2] Tiriogaeth pwysig arall yw 'Caeau Ffos Fach' ger Cross Hands, Sir Gaerfyrddin.
Mae rhywogaethau'r glöyn byw a'r gwyfyn a welir yng Nghymru yn cynnwys:
- Argws brown (Aricia agestis: Brown Argus)
- Britheg arian (Argynnis paphia: Silver-washed Fritillary)
- Britheg frown (Argynnis adippe: High brown fritillary)
- Britheg y gors (Euphydryas aurinia aurinia: Marsh fritillary)
- Britheg werdd (Argynnis aglaja: Dark Green Fritillary)
- Britheg y gors (Euphydryas aurinia: Marsh fritillary)
- Brithribin du (Satyrium pruni: Black Hairstreak)
- Brithribin brown (Thecla betulae: Brown hairstreak)
- Brithribin gwyn (Hairstreak) ???
- Brithribin gwyrdd (Callophrys rubi: Green hairstreak)
- Britheg berlog (Boloria euphrosyne: Pearl-bordered Fritillary)
- Britheg berlog fach (Boloria selene: Small Pearl-bordered Fritillary)
- Bwrned chwe smotyn (Zygaena filipendulae: Six-spot burnet)
- Copor bach (Lycaena phlaeas: Small copper)
- Glesyn cyffredin (Polyommatus icarus: Common Blue)
- Glesyn serennog (Plebejus argus: Silver-studded blue)
- Glesyn y celyn (Celastrina argiolus: Holly Blue)
- Gweirlöyn brych (Pararge aegeria: Speckled Wood)
- Gweirlöyn mawr y waun (Coenonympha tullia: Common Ringlet)
- Gweirlöyn y cloddiau (Wall brown: Lasiommata megera)
- Gweirlöyn y ddôl (Maniola jurtina: Meadow brown)
- Gwibiwr bach (Thymelicus sylvestris: Small skipper)
- Gwibiwr brith (Pyrgus malvae: Grizzled Skipper)
- Gwibiwr llwyd (Erynnis tages: Dingy skipper)
- Gwyn blaen oren (Anthocharis cardamines)
- Gwyn bach (Pieris rapae: Small White)
- Glöyn mawr gwyn (Pieris brassicae: Large White)
- Gwyn gwythiennau gwyrddion (Pieris napi: Green-veined white)
- Mantell dramor (Vanessa cardui: Painted Lady)
- Mantell garpiog (Polygonia c-album: Anglewing)
- Mantell goch (Vanessa atalanta: Red Admiral)
- Mantell paun (Inachis io: Peacock)
- Melyn y rhafnwydd (Gonepteryx rhamni: Common brimstone)
- Trilliw bach (Aglais urticae: Small Tortoiseshell)
Cylchred bywyd
golyguOriel luniau
golygu-
Teinopalpus imperialis o India (benyw)
-
Teinopalpus imperialis o India (gwryw)
-
Atrophaneura rhodifer o India
-
Delias eucharis o Sri Lanka
-
Polygonia interrogationis o Ogledd America
Gweler hefyd
golygu- Gwylio a Gwarchod y Glöyn: llyfr (1992) gan Huw John Hughes
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Natural Environment Research Council, 2004.
- ↑ Gwefan Butterfly Conservation; adalwyd 27 Awst 2012