HMS Hamadryad
Roedd HMS Hamadryad neu, rhag dryswch, HMS Hamadryad (1823) yn long ffrigad dosbarth Leda Addasedig pumed cyfradd 46-gwn y Llynges Frenhinol. Cafodd ei lansio ym 1823 ac yn ddiweddarach daeth yn llong ysbyty yng Nghaerdydd. Bod mytholegol Groegaidd sy'n byw mewn coeden yw hamadryad (/hæməˈdraɪ.æd/; Hen Groeg: Ἁμαδρυάδες, wedi'i Ladineiddio: Hamadryádes).
Enghraifft o'r canlynol | hospital ship, fifth-rate frigate |
---|---|
Gweithredwr | y Llynges Frenhinol |
Gwneuthurwr | Pembroke Dockyard |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llongau o'r un enw
golyguCeir dau long arall o'r enw HMS Hamadryad:
- Y ffrigad Sbaenaidd Ninfa, wedi’i chipio gan y Prydeinwyr ar 26 Ebrill 1797 a’i chymryd i wasanaeth fel HMS Hamadryad. Cafodd ei dryllio oddi ar arfordir Portiwgal ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn.
- HMS Hamadryad (1804), hen ffrigad 38 gwn Sbaenaidd Santa Matilda, a adeiladwyd yn Havanna ym 1778 ac a ddaliwyd gan ffrigadau Donegal a Medusa yn y Llynges Frenhinol ym 1804 oddi ar Cadiz. Cafodd ei hailenwi'n HMS Hamadryad a'i ostwng i 36 o ynnau ym 1810, gwasanaethodd yng ngorsaf y Baltig a Newfoundland. Gwerthwyd yn Woolwich am £2,610 ar 9 Awst 1815.
Hanes
golyguFe'i gorchmynnwyd ar 25 Ebrill 1817 yn Iard Longau Penfro yn Sir Benfro, lle gosodwyd ei cilbren ym mis Medi 1819. Lansiwyd hi ar 25 Gorffennaf 1823, a hwyliodd o gwmpas ar 8 Awst i Iard Longau Plymouth i'w chwblhau.
Llong ysbyty
golyguYm mis Chwefror 1866 fe'i penodwyd i'w throsglwyddo i'r Meistri Marshall, y torwyr llongau, i'w chymryd yn ddarnau, ond yn lle hynny ar 9 Mawrth 1866 penderfynwyd ei rhoi ar fenthyg fel ysbyty arnofiol i forwyr sâl yng Nghaerdydd. Cafodd ei thynnu ar draws o Devonport a'i hagor fel llong ysbyty yn Nociau Caerdydd ym mis Tachwedd 1866. Erbyn y 1880au, roedd 500 o gleifion mewnol yn cael eu trin bob blwyddyn.[1]
Yn olaf ym 1900, dychwelwyd hi i reolaeth y llynges a'i throsglwyddo i Portsmouth, lle gwerthwyd hi am dorri i fyny ar 11 Gorffennaf 1905.
Roedd ffrigad dosbarth Leda segur arall, HMS Thisbe, hefyd wedi’i hangori yng Nghaerdydd a’i defnyddio fel eglwys arnofiol gan y Missions to Seamen o 1863 i 1891.
Gwaddol
golyguAgorwyd ysbyty brics a morter, o'r enw Ysbyty Brenhinol Hamadryad, yn Nociau Caerdydd ym 1905.[1]
Agorwyd hefyd ysgol Gymraeg ar safle ei hangorfa ym mis Ionawr 2019), gan gymryd ei henw, Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad.[2]
Darllen pellach
golygu- Winfield, R.; Lyon, D. (2004). The Sail and Steam Navy List. Chatham Publishing. ISBN 978-1-86176-032-6. Text "The Sail and Steam Navy List: All the Ships of the Royal Navy 1815–1889" ignored (help)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Dan O'Neil (28 October 2014). "Cardiff Hamadryad Hospital homes protest evokes the ships that help shaped the city". Wales Online. Cyrchwyd 7 December 2015.
- ↑ "Home | Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad". www.ysgolhamadryad.cymru. Cyrchwyd 2019-01-16.
Dolenni allanol
golygu- Cyfryngau perthnasol HMS Hamadryad (ship, 1823) ar Gomin Wicimedia
- Gwefan Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad