Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad

ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn ne Caerdydd - ardaloedd Tre-biwt a Grangetown

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad yn ysgol cyfrwng Cymraeg yn ardal hen ddociau Caerdydd. Dyma'r ysgol Gymraeg ar gyfer plant yn ardal Trebiwt a de Grangetown. Fe'i sefydlwyd wedi cyfnod hir o ymgrychu gan selogion yr iaith Gymraeg. Yn 2020 roedd 175 disgybl yn yr ysgol (er nad oedd ar ei llawn dŵf).[1]

Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad
Enghraifft o'r canlynolysgol Gymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Medi 2016 Edit this on Wikidata
LleoliadTre-Biwt Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
Ysgol Gynradd Hamadryad, Tre-biwt

Hanes golygu

Ymgyrchu golygu

Bu'r ymgyrch i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg i dde Caerdydd yn dilyn trywydd a rhwystredigaeth sawl ymgyrch arall yn y brifddinas ers ymdrech gyntaf Gwyn M. Daniel a sefydlodd Ysgol Sadwrn Gymraeg yn Nhŷ'r Cymry yn Gordon Road, y Rhâth yn 1936 yn sgil gwrthodiad y cyngor lleol i greu ysgol wladol cyfrwng Cymraeg. Ymgyrch Daniel ac eraill oedd y craidd a esgorodd, maes o law, wedi'r Ail Ryfel Byd, at agor Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf ac a ddaeth, drwy gyd-ddigwyddiad rhyfeddol, yn rhan o stori agor Ysgol Hamadryad.

Cafwyd ymgyrch hir a phrotestio yn erbyn Cyngor Dinas Caerdydd gan rieni dros addysg Gymraeg i ardal de Caerdydd. Sefydlwyd grŵp ymgyrchu, 'Ymgyrch TAG - Ysgol Cymraeg i Tre-biwt a Grangetown' yn 2013. Cadeirydd Ymgyrch TAG oedd y Dr Huw Williams (darlithydd Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd). Sbardunwyd yr ymgyrch wedi i Gyngor Caerdydd wneud tro pendol gan wneud cynlluniau i agor ysgol cyfrwng Saesneg ar safle roedd ymgyrchwyr wedi deall y byddai'n le ar gyfer ysgol newydd cyfrwng Cymraeg mewn rhan o Gaerdydd (Tre-biwt a Grangetown) lle nad oes ysgol Gymraeg yn bodoli. Atebodd y Cyngor eu bod am ehangu nifer y llefydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pwll Coch i wneud lle am y galw am addysg Gymraeg, ond gwrthododd ymgyrchwyr hyn.[2] Fel rhan o'r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a rhoi pwysau ar Gyngor Caerdydd, ym mis Medi 2013, cynhaliwyd picnic ar lawnt Neuadd y Ddinas gan Ymgyrch TAG.[3] Cafwyd hefyd cefnogaeth i'r ymgyrch gan Gymreithas yr Iaith Gymraeg a Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) a fu'n feirniadol o Gyngor Caerdydd.[4]

Erbyn Awst 2015 doedd y sefyllfa dal heb ei ddatrys ac roedd Ymgyrch TAG yn dweud eu bod "wedi siomi na fydd dosbarth newydd yn agor yn yr ardal yr wythnos nesaf" (hynny yw, Medi 2015). Gobaith yr ymgyrchwyr oedd byddai'r dosbarth yn Grangetown o dan adain Ysgol Pwll Coch yn cael ei sefydlu yn adeilad ysgol cyfrwng Saesneg Ninian Park, tra bo'r trafodaethau'n parhau ynglŷn â sefydlu ysgol newydd yn yr ardal.[5]

Agor yr Ysgol golygu

Agorwyd Ysgol Hamadryad ym mis Medi 2016, gydag un dosbarth derbyn o 17 plentyn mewn lleoliad dros dro y drws nesaf i ysgol cyfrwng Saesneg Ysgol Gynradd Parc Ninian. Trwy gyd-ddigwyddiad rhyfeddol, Ysgol Ninian Park oed safle ysgol Gymraeg gyntaf Caerdydd yn 1949 (a ddaeth maes o law yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf ac un o ysgolion swyddogol cyfrwng Cymraeg cyntaf Cymru yn sgil Gwyn M. Daniel ac eraill). Ar y safle hwn hefyd yr oedd Ysgol Tan-yr-Eos rhwng 2006 a 2013.

Yn sgil cau Tan-yr-Eos fe ddechreuwyd ymgyrch gan bobl leol er mwyn sicrhau bod y galw am addysg Gymraeg yn ardaloedd Tre-biwt a Grangetown yn cael ei ddiwallu. Bu’r ymgyrch yn llwyddiant, a bydd yr adeilad newydd yn cael ei ariannu gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru (Cynllun Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain).

Yn mis Ionawr 2019, agorwyd drysau Ysgol Hamadryad am y tro cyntaf ar ein safle barhaol ar Heol Hamadryad.

Amlddiwylliannaeth golygu

Yn ôl adroddiad Estyn yn 2020 roedd yr "ysgol yn gwasanaethu un o’r ardaloedd mwyaf amlieithog ac aml-ethnig yng Nghymru. Mae disgyblion yn cynrychioli 15 o grwpiau ethnig gwahanol. Ar draws yr ysgol, mae disgyblion yn siarad 21 ieithoedd gwahanol, gan gynnwys Cymraeg a Saesneg" [6] ac o ganlyniad fe gynwysir llawer o athroniaeth amlddiwylliannaeth yn ethos yr ysgol.

Enw'r Ysgol golygu

Enwyd yr Ysgol ar ôl llong ffrigad, HMS Hamadryad. Lansiwyd y llong yn 1823 a ddaeth, maes o law, yn 1866 yn ysbyty ar gyfer morwyr. Yn sgil llwyddiant a'r galw am driniaeth i forwyr oedd yn ymweld â dociau Caerdydd, sefydlwyd Ysbyty Frenhinol Hamadryad yn 1905. Mae'r ysgol hefyd wedi ei lleoli ar Ffordd Hamadryad yng Nghaerdydd.

Strwythur yr Ysgol golygu

Pennaeth yr Ysgol yw Rhian Carbis.

Ceir pedair llys yn yr ysgol ar gyfer cystadlu mewn eisteddfod a mabolgampau: Rhymni (coch), Taf (gwyrdd), Elái (melyn), Hafren (glas).

Arwyddair yr ysgol yr "Angor cadarn cyn hwylio'r don".

Gwisg ysgol golygu

Siwmperi: glas Crysau polo: gwyrddlas Sgert/trowsus: llwyd Esgidiau: duon Sanau: du/llwyd

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Inspection report Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad 2020" (PDF). Estyn. Chwefror 2020.
  2. "Ymgyrch dros ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd". BBC Cymru Fyw. 2013-07-18.
  3. "Ymgyrchwyr TAG yn cynnal Rali dros Ysgol Gymraeg". Pobl Caerdydd. 2013-09-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-06. Cyrchwyd 2022-02-06.
  4. "Cymdeithas yr Iaith yn beirniadu Cyngor Caerdydd Penderfyniad i beidio agor ysgol Gymraeg yn un 'cywilyddus'". Golwg360. Chwefror 2014.
  5. "Siom dros ddosbarth Cymraeg yng Nghaerdydd". BBC Cymru Fyw. 25 Awst 2015.
  6. "Inspection report Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad 2020" (PDF). Estyn. Chwefror 2020.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.