Hafodyrynys

pentref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Pentref yng nghymuned Crymlyn, bwrdeistref sirol Caerffili, Cymru, yw Hafodyrynys.[1][2] Saif ar briffordd yr A472 rhwng trefi Pontypŵl a Chrylmyn. Yn hanesyddol, fe'i lleolid yn Sir Fynwy.

Hafodyrynys
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6836°N 3.1183°W Edit this on Wikidata
Cod OSST227989 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhianon Passmore (Llafur)
AS/auChris Evans (Llafur)
Map

Disgrifir y stryd fawr yn aml fel y stryd fwyaf llygredig yng Nghymru, gyda lefelau nitrogen deuocsid uchaf ym Mhrydain y tu ôl i ganol Llundain,[3] ac mae yna bolisi o ddymchwel tai sy'n cael eu heffeithio waethaf gan y traffig trwm sy'n mynd trwy'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 26 Rhagfyr 2021
  3. "Galw am ddymchwel tai ar 'stryd mwyaf llygredig' Cymru", BBC Cymru Fyw, 23 Gorffennaf 2020; adalwyd 26 Rhagfyr 2021
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato